Roedd nifer y bobol ar restr aros gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru wedi cyrraedd 800,163 ym mis Awst.
Roedd 79,525 wedi bod yn aros dros flwyddyn am apwyntiad cyntaf, gyda 169,702 yn aros blwyddyn neu fwy am driniaeth, a 24,193 yn aros dwy flynedd neu fwy am driniaeth.
Yn ôl yr ystadegau hyn, mae bron i 26% o bobol yng Nghymru ar restr aros erbyn hyn.
Ar yr un adeg yn 2014, roedd 110 yn aros ers dros flwyddyn am eu hapwyntiad cyntaf, gyda 1,919 yn aros blwyddyn neu fwy am driniaeth a 34 yn aros am driniaeth ers dros ddwy flynedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru strategaeth i fynd i’r afael â rhestrau aros ers 2022, ond mae nifer y bobol ar restr aros wedi codi bron i 100,000 ers hynny.
£28m i leihau amseroedd aros i gleifion
Heddiw (dydd Iau, Hydref 24), mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, wedi cyhoeddi £28m i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i leihau amseroedd aros mewn ysbytai.
Dywed Llywodraeth Cymru y bydd y cyllid yn talu am fwy o apwyntiadau gyda’r nos ac ar benwythnosau, ac yn sicrhau mwy o weithio’n rhanbarthol.
Dywed Jeremy Miles fod lleihau rhestrau aros yn “flaenoriaeth genedlaethol”.
“Bydd byrddau iechyd yn defnyddio’r cyllid newydd hwn i gyflawni ystod o gynlluniau fydd yn dechrau bron ar unwaith,” meddai.
“Byddan nhw’n targedu’r arosiadau hiraf ym meysydd orthopedeg, llawdriniaeth gyffredinol, offthalmoleg a gynecoleg drwy gynyddu capasiti er mwyn i fwy o bobol gael eu gweld a’u trin y tu allan i oriau a thrwy fwy o weithio’n rhanbarthol.”
Ychwanega bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn “gweithio’n galed iawn” i leihau’r “ôl-groniad o achosion gynyddodd yn ystod y pandemig”.
“Mae hwn yn gyllid ychwanegol, ar ben yr arian adfer rydyn ni’n ei roi bob blwyddyn, i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i leihau’r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal wedi’i gynllunio,” meddai.
Triniaeth drawsffiniol
Yn ystod Cynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl fis diwethaf, roedd hi’n ymddangos bod y Prif Weinidog Eluned Morgan a Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn datgan y byddai mwy o gleifion yn mynd i Loegr i dderbyn triniaeth i helpu i leihau rhestrau aros.
Yn y gynhadledd, dywedodd Jo Stevens y byddai “ymddiriedolaethau iechyd yn Lloegr a byrddau iechyd yng Nghymru yn gweithio efo’i gilydd… drwy adnabod capasiti… a gwneud yn siŵr eu bod yn gallu cael pobol i mewn i theatr, i gael eu triniaeth a’u cael nhw yn ôl i’r gwaith ac i’w teuluoedd”.
Ond ers hynny, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod y “bartneriaeth” newydd rhwng y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru ac yn Lloegr yn canolbwyntio mwy ar rannu “arferion da”.
Dywedodd Eluned Morgan fod “pobol wedi bod yn rhoi geiriau i mewn i’n cegau yn nhermau beth yw’r berthynas”.
Cyhoeddodd Jeremy Miles y bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn cyfarfod am y tro cyntaf fory (dydd Gwener, Hydref 25) er mwyn “cynghori ar arfer da”.
Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi cyhuddo’r Blaid Lafur “o wneud pethau i fyny ar hap”.
Mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn dweud bod y ffigurau’n “anllad”, yn “annerbyniol”, ac yn “paentio darlun clir o faint o niwed mae methiannau Llafur Cymru wedi’i achosi i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol”.
Mae hi wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “gamreolaeth”, gan alw am “ddull dewr a ffres” er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa, a pheidio â rhoi “addewidion gwag”.
Dadansoddiad ein Gohebydd Gwleidyddol Rhys Owen:
Does dim gwadu bod hon yn garreg filltir ofnadwy (arall) i Lywodraeth Cymru.
Mae’n anodd credu bod bron i 26% o boblogaeth Cymru bellach ar restr aros. A hynny efo strategaeth i daclo’r broblem yn ei lle ers Ebrill 2022.
Does dim amheuaeth fod y dirwedd ariannol yn un anodd iddyn nhw ond rŵan, gyda Llywodraeth Lafur yn San Steffan, dyma’r amser i geisio tynnu’n ôl ar y ffigurau yma.
Bydd Jeremy Miles ac Eluned Morgan yn dadlau y bydd y buddsoddiad o £28m yn helpu tuag at yr amcan o leihau rhestrau aros.
Ond mae’n ymddangos ei bod hi’n hawdd ymosod ar eu record, sydd yn un anodd iawn i’w hamddiffyn.