Dylai arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili “wneud y peth iawn ac ymddiswyddo”, ar ôl cyfeirio’i hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn ôl un o gynghorwyr yr wrthblaid.

Cadarnhaodd y Cyngor yn gynharach yr wythnos hon fod eu harweinydd wedi cyfeirio’i hun at swyddfa’r ombwdsmon “er mwyn tryloywder”.

Mae’r mater yn ymwneud â “gohebiaeth ddiweddar” rhwng y Cynghorydd Sean Morgan “a phreswylydd” – ac mae BBC Cymru yn adrodd ei fod yn ymwneud â manylion setliad gafodd ei dalu i’r cyn-Brif Weithredwr Christina Harrhy, oedd wedi gadael y Cyngor yn gynharach y mis yma.

Mae’n debyg fod cynghorwyr wedi cael eu rhybuddio i beidio â rhannu manylion y cytundeb gafodd ei wneud mewn cyfarfod y tu ôl i ddrysau caeëedig ar Hydref 7.

Pe baen nhw’n rhannu gwybodaeth, dywedwyd wrthyn nhw y bydden nhw mewn perygl o dorri cod ymddygiad llywodraeth leol a chael eu cyfeirio at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, yn ôl adroddiadau o’r cyfarfod hwnnw.

‘Anghredadwy’

“Dw i’n ei chael hi’n anghredadwy y byddai dyn yn ei sefyllfa fe, â chymaint o gyfrifoldeb, yn gwneud hyn,” meddai’r Cynghorydd Nigel Dix, arweinydd Grŵp Annibynnol y Cyngor, yn dilyn cadarnhad fod yr arweinydd wedi cyfeirio’i hun at yr ombwdsmon.

“Mae’n amlwg ei fod yn diystyru’n llwyr y rheolau gafodd eu gosod ganddo fe ei hun a’i Gyngor.

“Dw i’n credu bod angen iddo fe ystyried ei swydd yn ofalus, ac yna gwneud y peth iawn ac ymddiswyddo.”

Mae’r Cynghorydd Lindsay Whittle, sy’n arwain Grŵp Plaid Cymru Cyngor Caerffili, yn dweud bod y digwyddiad yn destun “embaras” i’r awdurdod lleol ac i’r Blaid Lafur.

“Does dim byd yn fy synnu i ragor am y ffordd ddi-drefn mae’r Cyngor yn cael ei redeg gan Lafur,” meddai.

“Dywedwyd yn benodol wrth yr holl gynghorwyr i beidio â chyhoeddi manylion y setliad gyda’r cyn-Brif Weithredwr, felly mae’n anghredadwy mai’r person sydd fel pe bai’n cadarnhau manylion y setliad yw arweinydd y Cyngor ei hun.

“Yn ei sefyllfa fe, dylai Sean Morgan o bawb fod wedi gwybod yn well a bod yn fwy gofalus.

“Tybed beth fydd yn mynd o’i le nesaf i’r arweinydd a’i Gabinet.”

Ymateb y Cyngor

Mae llefarydd ar ran Cyngor Caerffili wedi gwrthod gwneud sylw pellach am sylwadau’r cynghorwyr.

“Mae mater wedi dod i’n sylw sydd yn ymwneud ag arweinydd y Cyngor,” meddai llefarydd ddechrau’r wythnos.

“Mae’r pryder yn ymwneud â gohebiaeth ddiweddar rhwng y Cynghorydd Sean Morgan a phreswylydd.

“Er mwyn tryloywder, mae’r Cynghorydd Morgan wedi penderfynu cyfeirio’i hun at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

“Dydyn ni ddim yn gallu ychwanegu unrhyw beth pellach ar hyn o bryd.”

Mae lle i gredu bod y Cyngor wedi dod i setliad gwerth £209,000 ar gyfer Christina Harry, sy’n gadael, yn ystod y cyfarfod ar Hydref 7, a hynny yn dilyn cyfnod o absenoldeb o’r awdurdod lleol.

Ers hynny, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cadarnhau ei fod yn craffu ar fanylion y setliad.

Yn dilyn ymadawiad Christina Harrhy, mae’r Dirprwy Brif Weithredwr Dave Street wedi camu i’r brif swydd dros dro tra bod y Cyngor yn “ystyried y camau nesaf yn nhermau penodi Prif Weithredwr parhaol”.

Arweinydd Cyngor Caerffili wedi cyfeirio’i hun at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus

Nicholas Thomas, Gohebydd Democratiaeth Leol

Mae’r Cynghorydd Sean Morgan wedi gwneud y penderfyniad er mwyn sicrhau tryloywder, medd y Cyngor