Mae athro wedi’i ddedfrydu i gwblhau gwaith di-dâl, ar ôl i lys ei gael yn euog o ymosod ar ddisgybl yn ystod noson allan yng Nghastell Newydd Emlyn.

Plediodd Llŷr James, 31, yn ddieuog i gyhuddiad o ymosod ar Llŷr Davies, 16 oed, oedd wedi marw dridiau’n ddiweddarach yn dilyn digwyddiad nad oedd yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar Fawrth 9 eleni.

Ond mewn gwrandawiad ar Hydref 8, cafwyd yr athro Ymarfer Corff yn euog o’r cyhuddiad.

Wrth ei ddedfrydu heddiw (dydd Gwener, Hydref 25), gorchmynnodd Llys Ynadon Llanelli y bydd yn rhaid iddo gwblhau 200 awr o waith di-dâl yn y gymuned dros y flwyddyn nesaf.

Bydd yn rhaid iddo fe dalu costau gwerth £764 hefyd.