Mae Plaid Cymru wedi colli’r sedd ar Gyngor Ynys Môn gafodd ei gadael yn wag gan Llinos Medi, Aelod Seneddol newydd yr Ynys.

Mae Kenneth Pritchard Hughes (Annibynnol) wedi’i ethol yn gynrychiolydd newydd ward Talybolion ar Gyngor Ynys Môn, yn dilyn is-etholiad i lenwi’r sedd gafodd ei gadael yn wag gan gyn-arweinydd y Cyngor Sir.

Daeth Llinos Medi yn Aelod Seneddol newydd Ynys Môn fis Gorffennaf eleni.

Yn dilyn hynny, camodd hi o’i rôl gyda Chyngor Ynys Môn.

Canlyniad

Ddoe (dydd Iau, Hydref 24), enillodd y Cynghorydd Kenneth Pritchard Hughes, sydd wedi gwasanaethu’r awdurdod lleol o’r blaen, gyda 678 o bleidleisiau.

Daeth Dafydd Arthur Williams, ymgeisydd Plaid Cymru, yn ail gyda 518 o bleidleisiau.

Y Ceidwadwr David Michael Evans oedd yn drydydd, gyda 72 o bleidleisiau, a Tomos Iwan Barlow o’r Blaid Werdd yn bedwerydd gyda 46 o bleidleisiau.

“Rhedodd o ymgyrch yn seiliedig ar y gymuned, a dw i’n edrych ymlaen at weithio unwaith eto efo’r Cynghorydd Ken Hughes,” meddai’r Cynghorydd Aled Morris Jones, arweinydd y Grŵp Annibynnol.

Mae ward Talybolion yn cynrychioli gogledd-orllewin Môn, gan gynnwys pentrefi Llannerchymedd, Rhosgoch, Llanddeusant a Llanfaethlu.