Yr wythnos hon, bu Aelodau’r Senedd yn cymryd rhan mewn dadl hanesyddol ar gefnogi’r egwyddor o gymorth i farw.
Ond yn wahanol i nifer o ddadleuon yn y Siambr, roedd yr un ddydd Mercher (Hydref 23) yn wahanol o safbwynt y ffaith ei bod hi’n bleidlais rydd; cyfle i wleidyddion siarad a phleidleisio’n rhydd yn ôl eu cydwybod, heb eu “chwipio” i bleidleisio hefo’u pleidiau.
Er bod hynny’n gallu teimlo fel rhywbeth rhesymol i’r person arferol, yn anffodus mae’n gysyniad estron o fewn gwleidyddiaeth yma yng Nghymru ac, yn wir, ar draws seneddau’r Deyrnas Unedig.
Newid meddwl
Wrth wylio’r ddadl o’r oriel ddydd Mercher, roedd yna deimlad gwirioneddol emosiynol a thrawiadol yn yr awyr.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyflwyno cynnig fyddai’n ei gwneud hi’n gyfreithlon i roi cymorth i rywun sydd ag afiechyd terfynol i farw.
Yn ôl ystadegau arolygon barn ar ddechrau’r flwyddyn, mae tri ym mhob pedwar person yn y Deyrnas Unedig yn cefnogi’r egwyddor. Er hyn, roedd y cynnig gan Julie Morgan, yr Aelod Llafur o Senedd Cymru, i gefnogi’r egwyddor yn aflwyddiannus ddydd Mercher.
Does dim amheuaeth gen i fod y bleidlais rydd, a’r gallu i drafod a dadlau heb ofni ryw sgil-effaith bleidiol, wedi cyfrannu at hyn. Yn wir, yn siarad â golwg360 tu allan i’r Senedd cyn y ddadl, soniodd Mick Antoniw, yr Aelod Llafur dros Bontypridd, am ddadl ar yr un pwnc ddeng mlynedd yn ôl. Dywedodd ei fod wedi mynd i mewn i’r ddadl yn 2014 yn bwriadu pleidleisio o blaid, ond dewis pleidleisio’r ffordd arall wedyn ar ôl gwrando ar y datganiadau a’r dystiolaeth.
I fi, dylai hyn fod yn digwyddiad yn amlach nag y mae.
Cyfraniadau trawiadol
Roedd cyfraniadau pwerus y naill ochr a’r llall i’r Siambr, gyda Delyth Jewell i’w gweld yn emosiynol yn ystod ei datganiad.
“Fy mhryder gyda’r cynnig hwn – wel, fy mraw i, wir – yw, nid o reidrwydd sut fydd e [y ddeddfwriaeth] yn cychwyn, ond sut fydd e’n gorffen.”
Bu James Evans yn trafod pwysigrwydd y pwnc o safbwynt ei nain, fu farw mewn amgylchiadau anodd lle doedd ganddi hi “ddim bywyd, nac ansawdd o fywyd” o ganlyniad i ddementia.
“Rydym i gyd yn dod i mewn i wleidyddiaeth am resymau penodol,” meddai, wrth geisio cwffio dagrau. “Mi wnes i ddod i mewn i wleidyddiaeth oherwydd wnes i addo i fy Nain na fyddwn i fyth yn gadael i unrhyw un fynd trwy’r hyn aeth hi drwyddo ar ddiwedd ei bywyd hi – byth.”
A dyna oedd y neges fwyaf trawiadol i fi – y syniad o resymeg tu ôl i “ddod i mewn i wleidyddiaeth”.
Mae pawb efo’u rhesymau unigryw tu ôl i hyn. Mae nifer eisiau gwella bywydau pobol, neu efo angerdd am ddiwygio mewn rhyw faes penodol. Ond dydi’r system bleidiol ddim yn dueddol o alluogi hyn i’r unigolyn sydd yn cael eu hethol wneud hyn bob tro.
99% o’r amser, mae gwleidyddion yn cael eu chwipio i bleidleisio efo’u pleidiau gwleidyddol. A fedra i ddim anwybyddu’r syniad bod hyn yn amharu ar lefel ein democratiaeth yma yng Nghymru, a thu hwnt, weithiau.
Wrth gwrs, pe bai gennym ni Siambr sy’n llawn aelodau Annibynnol, mae’n debygol na fyddai llawer yn cael ei gytuno, os o gwbl, o ran deddfu a rhedeg y wlad.
Ond, os oes un wers o’r wythnos hon, y wers honno yw y dylai fod yn bosib i wleidyddion allu cael y pŵer i siarad ac i bleidleisio’n rhydd, heb yr ofn yma drostyn nhw yn y cefndir.
Fel y gwelwn efo esiampl Mick Antoniw, dylai fod yn bosib newid meddwl ar ôl clywed safbwyntiau eraill. Ond, yn anffodus, yn ein system ni, mae gwleidyddion yn amlach na pheidio yn gwybod sut maen nhw am orfod pleidleisio cyn i’r diwrnod gychwyn.
Nid galwad mo hon i ddiwygio ein system wleidyddol. Ond mae gennym gyfle i ailfeddwl y ffordd rydym yn strwythuro dadleuon fel yr un ar gymorth i farw, a hynny er lles ein democratiaeth.