Mae’r gyfres yma’n bwrw golwg ar atgofion bwyd rhai o wynebau cyfarwydd Cymru a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Eiry Palfrey, yr actores, awdur, astrolegydd a chynhyrchydd/cyfarwyddwr sydd wedi bod yn rhannu ei hatgofion bwyd yr wythnos hon. Mae Eiry Palfrey yn byw yn Y Barri ond cafodd ei magu yn ardal Llanfyllin yn Sir Drefaldwyn. Mae hi wedi cyhoeddi sawl llyfr, fel Chwedlau Cymru i Ddysgwyr, Ar Hyd y Flwyddyn, Llyfr Pen-blwydd, ac yn fwy diweddar, Llwybrau’r Ddawns gydag Alice Williams…
Llaeth fy mam yw f’atgof cyntaf siŵr o fod. Na! Ffili cofio hwnnw, ac mae’n debyg i’r gasgen honno wagio’n fuan ac fe’m rhoddwyd ar y botel a Cow & Gate yn ifanc iawn. Dw i’n hoff iawn o wartheg byth oddi ar ‘ny! Roedd hi’n rheol yn tŷ ni – chei di ddim pwdin nes i ti gwpla dy gin’o. Dw i’n fenyw pwdin byth oddi ar ‘ny. Bwyd syml, maethlon ffres oedd ein hanes fel teulu. Roedd ffarm gyda Mam-gu a Dad-cu, ac fe gawsem ddogn aml o fenyn, wyau, cig moch a llysiau oddi wrthyn nhw, yn enwedig adeg y Rhyfel pan oedd bwyd yn brin.
Roedd fy mam yn hoff iawn o goginio ac yn gogyddes dda ac, mewn gwirionedd, yn obsesd gyda bwyd. Y funud roedden ni’n cwpla cinio bydde hi’n dweud – ‘Nawr, beth gawn ni i swper?’. Doeddwn i erioed yn ffan fawr o goginio, ac mi fethes Coginio Lefel O. ‘Chei di byth ŵr’ medde fy mam. Mi ges i ddau!
Os dw i eisiau cysur… ydy gwin yn cyfri? Mae glasiad bach o Malbec bob amser yn tycio. A phwdin (gweler uchod)! Mae ambell i bwdin yn rhoi pleser di-ben-draw i mi – Lemon Posset, Hufen iâ Salted Caramel (Häagen Dazs – s’dim un arall yn gneud y tro), a fy nghrymbl ffrwythe fy hunan. Dw i hefyd yn hoff o stecen, a physgod o bob math.
Dw i’n mwynhau pryd da mewn bwyty da gyda ffrindie hoff cytûn, er bod gwneud hynny’n mynd yn brinnach y dyddie yma oherwydd y pris. Fel rheol mi fydda’i yn dewis pysgodyn – mingrwn coch neu ddraenog y môr – a dw i’n hoff iawn o gorgimychiaid. Mae bwyty pysgod arbennig o dda yn Y Barri lle dw i’n byw o’r enw Mr Villa’s – a phan fydd cwrs maelgi a chorgimychiaid ar y fwydlen dw i yn fy seithfed nef.
Dw i’n hoff iawn o gidnabêns, a ffa. Yn yr haf byddai fy Mam-gu yn fy hala i’r ardd i bigo naill ai cidnabêns neu ffa, a’u plisgo nhw, iddi hi gael eu coginio ar yr Aga. A dyna fyddai fy swper. Llond plât o ffa a thwlpyn mowr o fenyn ar eu pen. A tharten ‘fale i ddilyn. Nefoedd!
I mi, mae gorfod paratoi pryd bob dydd yn dipyn o fwrn, ond dw i’n mwynhau gwneud pryd sbesial i bobol eraill, yn enwedig ffrindie da – a chael eistedd o gwmpas y bwrdd i roi’r byd yn ei le, a mwynhau potel neu ddwy o win.. Boeuf Bourguignon yw fy ‘signature dish’ gyda thato bwts, a phastai pysgod. Dw i hefyd yn mwynhau gwneud Cinio Sul i’r teulu – ffowlyn fel arfer, stwffin, Pwdin Swydd Efrog, tato rhost a bwts, a dau neu dri llysieuyn – a saws llugaeron – a chrymbl ffrwythe a chwstard neu hufen ia i ddilyn. Syml a hawdd, ond eitha’ blasus – er taw fi sy’n dweud! Ond och a gwae, mae sawl un o’r teulu yn llysieuwyr erbyn hyn – ac mae hynny’n fy llorio!
Er nad ydw i’n ddwl bared ar goginio, dw i yn mwynhau bwyd da, a rhaid i bawb fwyta, on’d oes? Roedd gen i lond silff o lyfrau coginio ar un adeg, ond pan symudon ni fe gafodd llawer ohonyn nhw fynd. Erbyn hyn os ydw i’n ffansio rhywbeth gwahanol mi fyddai’n troi at y we a’i lawrlwytho ac argraffu rysáit a’i gadw mewn ffeil, a mynd at hwnnw os ydw i am wneud rhywbeth bach gwahanol.
Adeg y clo, mi fues i’n gneud tipyn o goginio gwahanol, ac un rysáit roeddwn i’n hoff iawn ohono oedd Flamiche – saig o Ffrainc. Dyma’r rysáit…
Cynhwysion
500gram o gennin
10gram o fenyn
2 wy
150gram o hufen sur/ Crème Fraîche (er bod hufen cyffredin yn gweithio’n iawn)
Hanner llwy de o deim
Hanner llwy de o nytmeg
4/5 taten newydd, wedi eu sleisio yn denau, denau
15gram o gaws wedi ei ratio
Dull
Leinio padell 40x30cm gyda phapur gwrthsaim, a rholio crwst amrwd a’i osod ar ei ben, gan ffurfio ymyl o gwmpas y badell.
Torri’r cennin yn ddarnau a’u chwysu mewn menyn mewn ffrimpan am tua 8 munud nes eu bod yn feddal, a’u tynnu o’r tân.
Curo’r wyau, ac ychwanegu’r hufen sur (neu’r crème fraîche), nytmeg, teim, halen a phupur. Ychwanegu’r cennin at y gymysgedd, a’i arllwys ar ben y crwst.
Gosod y tatws wedi eu sleisio ar ben y cyfan, a gwasgaru’r caws wedi ei ratio dros y cyfan.
Coginiwch am 25/30 munud, 220/200 trydan, nwy 7, nes bo lliw ar yr wyneb.
Gweinwch gyda salad gwyrdd, neu Salad Waldorf.