Mae’r ffrae sydd wedi codi ynghylch codi tai cymdeithasol ym mhentref Botwnnog yn Llŷn yn dangos yn glir sut mae trefn gynllunio a pholisïau gosod tai cymdeithasol yn gallu tanseilio ymdrechion i amddiffyn cadarnleoedd pwysicaf y Gymraeg.
Ar yr olwg gyntaf, gallai cynllun i godi tai cymdeithasol yn un o bentrefi Cymreiciaf Llŷn ymddangos fel datblygiad cymeradwy.
Mae’n hysbys fod llawer o bobol leol heb unrhyw obaith o allu prynu tŷ oherwydd prisiau afresymol o uchel mewn ardal sy’n denu prynwyr cyfoethog o’r tu allan. Mewn byd delfrydol, mae’n sicr y gallai cyflenwad addas o gartrefi ar rent rhesymol gyfrannu at gynnal y gymdeithas gynhenid yn un o gynefinoedd pwysicaf a gwerthfawrocaf y Gymraeg.
Ar y llaw arall, ffolineb llwyr fyddai diystyru barn Cyngor Cymuned Botwnnog sy’n haeru bod y cynllun i godi deunaw o gartrefi yn y pentref yn ddatblygiad llawer rhy fawr. Maen nhw’n mynnu nad oes galw lleol am y tai ac o’r farn y byddai llawer ohonyn nhw o’r herwydd yn mynd i deuluoedd di-Gymraeg.
Os ydyn nhw’n gywir am y diffyg galw sydd o fewn eu hardal am dai o’r fath – ac mae’n rhesymol credu eu bod yn deall anghenion lleol yn well na phobol o’r tu allan – mae sail gref dros eu hofnau. Os bydd y landlord cymdeithasol, Adra, yn methu â chael digon o bobol leol i lenwi’r tai, mi fydd yn gorfod ymestyn y rhwyd yn ehangach o fewn ei ddalgylch am denantiaid. Mae’r math o bolisïau gosod sy’n cael eu gorfodi ar landlordiaid cymdeithasol yn eu gorfodi i roi blaenoriaeth i anghenion unigolion yn hytrach na diogelu naws a gwead y gymdeithas leol. O’r herwydd, os bydd datblygiad yn rhy fawr, fydd ganddyn nhw ddim rheolaeth ddigonol i allu cynnig dim sicrwydd i drigolion lleol sy’n benderfynol o warchod cymeriad a Chymreictod eu pentref.
Roedd yn ddealladwy, felly, pam fod pwyllgor cynllunio Gwynedd wedi mynd yn groes i argymhelliad y swyddogion cynllunio am yr ail waith, a gwrthod y cais yr wythnos yma.
Fel y dywedodd yr aelod lleol, Gareth Williams: “Beth yw pwrpas cael cyfarfod cynllunio – sy’n trafod neu’n pleidleisio ar geisiadau – pan fo’r pennaeth cynllunio’n sefyll ar ei draed cyn y bleidlais ac yn dweud wrthoch sut i bleidleisio?”
Diffyg rheolaeth leol
Yr hyn sy’n dod i’r amlwg ynglŷn â’r holl ffrae ydi diffyg rheolaeth leol. Mae dwy agwedd wahanol i’r diffyg rheolaeth hwn, sef:
- O ran caniatâd cynllunio. Gan fod tir wedi’i glustnodi ar gyfer codi tai yng Nghynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, rhybudd y swyddogion cynllunio oedd nad oedd dewis ond rhoi caniatâd gan y byddai penderfyniad i’w wrthod yn agored i gael ei wrthdroi mewn apêl.
- O ran tenantiaeth, pa bynnag dai cymdeithasol sy’n cael eu codi. Dymuniad y cyngor cymuned oedd y dylai unrhyw dai newydd yn y pentref gael eu gosod i siaradwyr Cymraeg yn unig. Mae’r landlord cymdeithasol Adra, cwmni dielw lleol, yn cydnabod na allan nhw roi sicrwydd o’r fath.
Polisi cynllunio
Er mwyn deall y cyd-destun cynllunio, mae angen mynd yn ôl i hanes llunio Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn, gafodd ei fabwysiadu gan y ddwy sir yn 2017. Roedd hwn yn clustnodi tir ar gyfer codi bron i 8,000 o dai rhwng y ddwy sir yn ystod y cyfnod yn arwain at 2026. Pryder sawl mudiad dros y Gymraeg ar y pryd oedd fod y nifer hwn yn rhy uchel ac yn debygol o annog mewnfudo pellach i ddwy sir Gymreiciaf Cymru.
Byddai’n deg dweud mai ymateb nawddoglyd ar y cyfan dderbyniodd y mudiadau hyn ar y pryd gan arweinwyr a swyddogion cynllunio’r cynghorau. Roedden nhw’n mynnu bod y Cynllun Datblygu Lleol yn ticio pob blwch posibl o ran rhoi ystyriaeth i effaith ar y Gymraeg.
Roedden nhw hefyd yn ceisio tawelu ofnau’r ymgyrchwyr trwy ddadlau bod y Cynllun Datblygu yn “ddogfen fyw” y byddai modd ei newid a’i haddasu unrhyw adeg yn ôl y gofyn.
Pan ddaeth hi’n amser i’r cynghorau benderfynu i fabwysiadu’r Cynllun Datbygu neu beidio, dadl y rheini mewn grym oedd bod yn rhaid ei fabwysiadu er mwyn sicrhau cydymffurfio â pholisi Llywodraeth Cymru.
Flynyddoedd yn ddiweddarach, mae union yr un lleisiau oedd yn hyrwyddo’r Cynllun Datblygu mor daer, gan ddadlau mor hawdd fyddai ei addasu, bellach yn dadlau nad oes dewis gan gynghorwyr ond cydymffurfio â’r cynllun hwnnw.
Tai cymdeithasol
Mae’r achos hwn hefyd wedi amlygu’r diffyg rheolaeth leol ar denantiaeth tai cymdeithasol. Mae’n cadarnhau’n glir nad ydi’r gallu i siarad Cymraeg yn ystyriaeth wrth ddyrannu tai. Canfyddiad cyffredin mewn llawer i ardal yn y Gymru wledig ydi bod teuluoedd yn cael eu plannu yno o ddinasoedd Lloegr. Mae cael gwybodaeth fanwl am hyn gan yr awdurdodau perthnasol mor anodd â chael gwaed o garreg. Mae’n ymddangos mai’r hyn sydd wedi digwydd yn aml ydi bod yr hyn gaiff ei alw’n “deuluoedd â phroblemau” yn cael eu symud o Lerpwl neu Fanceinion i drefi glan-môr fel y Rhyl a Bae Colwyn i ddechrau. Yn fuan wedyn, maen nhw wedi dod yn gymwys i gael eu hystyried yn bobol sy’n lleol i ogledd Cymru ac yn gallu treiddio drwy’r system i gadarnleoedd Cymraeg y gogledd-orllewin.
Dyna pam nad oes modd bod â ffydd bod y niferoedd sydd ar restr aros am dai cymdeithasol yn ffon fesur gywir o faint o alw lleol sydd am dai. Does dim gwybodaeth o gwbl ar gael am allu’r bobol hyn sydd ar restrau aros i siarad Cymraeg oherwydd na chaiff cwestiwn o’r fath ei ofyn iddyn nhw – hyd yn oed mewn ardaloedd lle mai Cymraeg yw iaith bron pawb o’r boblogaeth frodorol.
Er hyn, mae gwybodaeth yn y Cyfrifiad diwethaf ynghylch gallu tenantiaid tai cymdeithasol i siarad Cymraeg. O graffu ar y rhain, mae’r canrannau’n ymddangos yn amheus o isel mewn rhai ardaloedd, gan gynnwys dwy ward gyfagos i Botwnnog. Mae’r canrannau, 65% yn ward Morfa Nefyn a Thudweiliog a 58% yn ward yr Eifl, yn cymharu â thros 90% yn gallu siarad Cymraeg o blith y bobol hynny a aned yng Nghymru sy’n byw yn y ddwy ward.
Mae hyn yn awgrymu’n gryf fod cyfran uchel o’r tai cymdeithasol yn mynd i bobol o’r tu allan i Gymru. Gall fod rhesymau da mewn rhai achosion dros osod tai i bobol o’r tu allan, yn enwedig os ydyn nhw’n cyflawni swyddi allweddol. Ar y llaw arall, mae’n codi amheuon fod gormod o dai newydd mewn ardaloedd o’r fath.
Rhybudd Gweinidog y Gymraeg
Wrth siarad yn y Senedd yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y cyn-Brif Weinidog Mark Drakeford, sydd bellach â chyfrifoldeb dros y Gymraeg, fod “unrhyw ddirywiad i’r Gymraeg yn y cymunedau Cymraeg dwysedd uwch yn peryglu ei dyfodol fel iaith genedlaethol”.
Dyna pam ei bod yn hollbwysig datblygu trefn gynllunio a pholisïau gosod tai sy’n diwallu anghenion penodol y cymunedau hyn, yn lle eu trin fel pe na baen nhw ond unrhyw ran o Gymru.
A’r cam cyntaf tuag at hyn fydd statws addas i ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch yn unol ag argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.
Byddai trefn gynllunio addas ar gyfer yr ardaloedd hyn yn gosod cynnal eu Cymreictod fel un o’i hamcanion craidd sy’n sail i’w holl bolisïau. Yn yr un modd, dylai fod dyletswydd ar landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod eu heiddo yn cyfrannu at gynnal y gymdeithas gynhenid ac nid yn ei thanseilio.
Un o argymhellion adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw:
“Dylai awdurdodau lleol ac awdurdodau cynllunio ystyried a ellir datblygu modelau, o ran gosod tai cymdeithasol neu wrth lunio Cytundebau 106, lle gallai’r Gymraeg fod yn un ystyriaeth gadarnhaol, ochr yn ochr ag ystyriaethau eraill …”
Mae’r argymhelliad hwn yn arbennig o berthnasol yn achos Botwnnog, lle mae’r cyngor cymuned eisoes wedi ei gwneud yn glir mai eu dymuniad fyddai mynd ymhellach a neilltuo unrhyw dai cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg yn unig.
Mae’n wir fod eu hagwedd ddigyfaddawd wedi cael ei beirniadu’n hallt o sawl cyfeiriad.
Yn dilyn eu datganiad gwreiddiol, bu erthygl hir yn y Daily Telegraph yn dwyn y teitl ‘The Welsh village where English speakers are not welcome’. Ond dydi erthyglau negyddol o’r fath yn y wasg Seisnig (er nad oedd hon yn gwbl unochrog) yn ddim byd i bryderu yn ei gylch. Maen nhw’n hytrach yn gwneud cymwynas trwy gyfleu neges glir i unrhyw ddarpar fewnfudwyr o Loegr nad ydi’r croeso i Gymru yn gwbl ddiamod.
Mae pwysigrwydd ardaloedd fel Botwnnog a gweddill Llŷn i ddyfodol y Gymraeg – ac i hunaniaeth a threftadaeth Cymru – mor gwbl allweddol fel bod yn rhaid wrth reolaeth lawer cadarnach ar ddatblygiadau newydd. Nid digon ydi dibynnu ar honiadau simsan na fydd datblygiad yn gwneud drwg. Dylai fod yn ofynnol i unrhyw ddatblygwr ddangos tystiolaeth gadarn y bydd eu datblygiad o les i’r Gymraeg.
Polisi Llywodraeth Cymru ydi sicrhau twf yn y Gymraeg, o ran nifer ei siaradwyr a dyblu’r defnydd ohoni. Fel mae Gweinidog y Gymraeg yn amlwg yn cydnabod, fydd dim modd cyflawni hyn os bydd unrhyw ddirywiad yn ei chadarnleoedd. Yn realistig, mae unrhyw gynnydd cenedlaethol ystyrlon am ddibynnu ar godi’r canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg mewn lleoedd fel Llŷn a gweddill Gwynedd yn ogystal.
Mae’r pwysau am godi mwy o dai ledled Cymru yn sicr o gynyddu dros y blynyddoedd nesaf. Mae’n hanfodol felly mynnu trefn gynllunio fwy cydnaws a fydd yn cyfrannu at gryfhau cynefinoedd y Gymraeg yn lle eu tanseilio. O’r herwydd, mae brwydr tai Botwnnog o arwyddocâd cenedlaethol ac yn un sy’n rhaid ei hymladd.