Mae angen camau radical a statws arbennig er mwyn gwarchod cymunedau lle mae trwch y boblogaeth yn medru’r Gymraeg, yn ôl y Comisiwn Cymunedau Cymraeg.

Mae eu hadroddiad yn argymell ymyriadau polisi strategol i atgyfnerthu’r Gymraeg mewn cymunedau lle mae canran uchel o’r boblogaeth yn siarad yr iaith.

Mae dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ yn ganolog i’r cynigion i warchod a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol fyw.

Mae’r Comisiwn yn gwneud 57 o argymhellion mewn sawl maes polisi allweddol.

Argymhellion

Ymhlith argymhellion yr adroddiad mae:

  • dynodi ‘ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch’ i gydnabod cymunedau lle mae canran uchel o siaradwyr Cymraeg, ac i sicrhau mwy o ystyriaeth i’r Gymraeg mewn datblygiadau polisi, y gallu i amrywio polisi, ac i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg yn effeithiol ar lefel gymunedol. Mae’r Comisiwn yn argymell dwy ffordd ar gyfer dynodi’r ardaloedd hyn, sef bod y Llywodraeth yn dynodi ardaloedd lle mae dros 40% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg, a hefyd roi’r disgresiwn i awdurdodau lleol ddynodi ardaloedd penodol lle bo’n briodol;
  • mynd i’r afael â’r argyfwng tai o fewn cymunedau Cymraeg, gan eirioli dros ddatblygiadau tai sy’n seiliedig ar anghenion lleol a thros fentrau tai a arweinir gan y gymuned. Gelwir hefyd am sefydlu cronfa benthyciadau llog isel neu gynllun ecwiti er mwyn cynorthwyo grwpiau cymunedol i brynu tir neu eiddo.
  • cefnogi modelau o ddatblygu cymunedol sy’n hybu mentrau cymunedol a chyd-berchnogaeth;
  • datblygu strategaethau cynllunio ieithyddol ar gyfer cymunedau sy’n wynebu shifft iaith.

Mae’r argymhellion eraill yn mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar gymunedau Cymraeg, gan gynnwys datblygu cymunedol, gweithleoedd, yr economi, addysg a chydraddoldeb.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys dadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2021,

Iaith gymunedol

Cafodd y Comisiwn ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn haf 2022, i ymateb i’r lleihad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau lle mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad yr iaith, neu ble mae hyn wedi bod yn wir i tan yn gymharol ddiweddar.

“Mae’n fraint cyflwyno’r adroddiad i’r Llywodraeth, sy’n benllanw dwy flynedd o waith yn datblygu cynigion polisi o ran dyfodol cymunedau Cymraeg,” meddai Dr Simon Brooks, cadeirydd y Comisiwn.

“Er mwyn bod yn iaith genedlaethol sy’n perthyn i ni i gyd, mae’n rhaid gofalu am ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol hefyd.

“Mae argymhellion y Comisiwn yn anelu at wneud hynny.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn ni sicrhau dyfodol bywiog a llewyrchus i gymunedau Cymraeg ledled y wlad.”

‘Cam hanfodol i gryfhau’r Gymraeg’

“Roedd sefydlu’r Comisiwn Cymunedau Cymru yn gam hanfodol yn ein hymrwymiad ni i gryfhau’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd,” meddai Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru.

“Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Comisiwn am ei waith a’i ymroddiad.

“Byddwn ni nawr yn ystyried y canfyddiadau a’r hargymhellion yn ofalus cyn ymateb i’r adroddiad.”

Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ail gam y Comisiwn, sef edrych ar sefyllfa’r Gymraeg yng nghymunedau eraill Cymru a thu hwnt.

“Y Gymraeg yw ein hiaith genedlaethol ac mae’n perthyn i ni i gyd,” meddai Eluned Morgan wedyn.

“Rwyf wedi gofyn i’r Comisiwn edrych ar y defnydd o’r Gymraeg yn holl ardaloedd Cymru a thu hwnt.

“Rydyn ni eisiau i fwy o bobol ddefnyddio mwy ar y Gymraeg bob dydd ac i wneud hynny mae angen mwy o gyfleoedd i’w defnyddio hi mewn bywyd bob dydd ac yn gymdeithasol.

“Alla i ddim meddwl am unman gwell i lansio cam nesaf gwaith y Comisiwn nag yma ym Mhontypridd, tref sydd â sîn gymdeithasol Gymraeg ffyniannus, diolch i weledigaeth ac ymroddiad criw o wirfoddolwyr gweithgar.”

Bydd ail gam y Comisiwn hefyd yn cael ei gadeirio gan Dr Simon Brooks, a bydd ei adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi yn haf 2026.

Croesawu’r adroddiad

Mae Hawl i Fyw Adra wedi croesawu adroddiad y Comisiwn a’i argymhellion.

“Mae Hawl i Fyw Adra yn cefnogi’r syniad o sefydlu Ardaloedd o Arwyddocad Ieithyddol Dwysedd Uwch,” meddai llefarydd.

“Mae’n hen bryd ac yn dyngedfennol bwysig i roi pwyslais polisi ar y Gymraeg mewn ardaloedd ymhle mae hi’n iaith bob dydd, yn iaith y stryd.

“Heb wneud hynny fe wneir cam mawr a’n hiaith ac bydd ei dyfodol fel iaith fyw yn gwbwl ansicr.

“Heb amheuaeth, byddai dynodi ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch trwy ddeddf yn rhoi sylfaen gadarn at gadw’n hiaith yn hyfyw yn ein cymunedau.

“Bydd y dynodiad yn galluogi ymyrraethau pellgyrhaeddol mewn sawl maes ac yn grymuso’r Gymraeg.

“Bydd y dynodiadau yn gam arwyddocaol at sicrhau bod pobol leol yn gallu byw adra a byw’n Gymraeg.”

Mae Cylch yr Iaith hefyd wedi croesawu’r adroddiad, yn enwedig sefydlu Ardaloedd o Arwyddocâd Ieithyddol Dwysedd Uwch.

“Dyma symudiad gobeithiol yn yr argyfwng presennol oherwydd byddai’r dynodiad yn arwain at gryfhau grymoedd awdurdodau lleol i warchod gwead a strwythur cymdeithasol ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith y gymuned,” meddai llefarydd.

Galw am gydnabod argyfwng

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i “gydnabod yr argyfwng” ac i weithredu ar frys.

“Rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod yr egwyddor bod cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg yn hollbwysig i ddyfodol yr iaith ar draws Cymru gyfan fel iaith gymunedol fyw,” meddai’r cadeirydd Joseff Gnagbo.

“Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio’r ffaith ei bod hi’n argyfwng o ran yr iaith yn ein cymunedau Cymraeg ac y bydd gweithredu yn y blynyddoedd nesaf yn penderfynu eu tynged.

“Cyfrifoldeb y Llywodraeth nawr yw cydnabod yr argyfwng a gweithredu er mwyn ei wrthdroi.

“Mae’r adroddiad yn galw ar symud yr holl ysgolion ar hyd y continwwm i ddod yn ysgolion Cymraeg, fel y ffordd fwyaf effeithiol o greu siaradwyr Cymraeg newydd.

“Mae’n rhaid i hyn ddigwydd yn gyflym iawn yn y siroedd lle mae’r Gymraeg ar ei chryfaf.

“Mae angen cynllunio a chyllido sylweddol uwch gan Lywodraeth Cymru i wireddu hynny.

“O ran tai, mae’r adroddiad yn symud y drafodaeth ymlaen o ail gartrefi yn unig ac yn cydnabod bod y farchnad dai agored yn ehangach yn fygythiad i’n cymunedau.

“Gan fod y farchnad dai ar hyn o bryd yn trin tai fel asedau masnachol yn hytrach na chartrefi, mae teuluoedd a phobol ifanc yn cael eu gorfodi o’u cymunedau, sy’n gwanhau’r iaith yn y cymunedau hyn o fis i fis.

“Rydyn ni felly’n croesawu llu o’r polisïau sy’n cael eu hargymell, er enghraifft cynllunio yn ôl angen cymunedau lleol, darparu cymorth cyfalaf er mwyn hwyluso mentrau tai cymdeithasol a chynllun peilot ar stad o dai cymdeithasol yn y gogledd-orllewin i dreialu ymyraethau i wrthdroi dirywiad yr iaith.

“Bydd y rhain yn sicr o leddfu peth ar yr argyfwng, ond fydd dim llai na Deddf Eiddo gyflawn, fyddai’n sefydlu hawl cyfreithiol pobol Cymru i dŷ yn lleol, yn mynd i’r afael go iawn â niwed y farchnad dai agored yn ein cymunedau.”

‘Rhaid clywed lleisiau’

Mae Heledd Fychan, llefarydd Plaid Cymru dros y Gymraeg, fod “rhaid i’w ganfyddiadau, ynghyd â lleisiau’n cymunedau Cymraeg eu hiaith gael eu clywed yn uchel ac yn glir gan Lywodraeth Cymru, a gan y Prif Weinidog newydd, Eluned Morgan, sydd hefyd wedi cymryd cyfrifoldeb dros y Gymraeg”.

“Rhaid i ni weld gweithredu’n awr – ni all y llywodraeth hunanfodloni yn eu hymagwedd bellach, fel y dywedwyd yn yr adroddiad ei hun, mae angen newid radical.

“Mae galluogi mynediad i’r Gymraeg i bawb yn hanfodol er mwyn caniatau i bawb yng Nghymru fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth a chymryd rhan a chael mynediad at bob agwedd ar ddiwylliant Cymraeg ei iaith.”

  • Bydd Dr Simon Brooks, cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, yn trafod cynnwys yr adroddiad ac argymhellion terfynol y Comisiwn, ac yn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru, am 12 o’r gloch ym Mhabell y Cymdeithasau am 12 o’r gloch.