Mae awgrym y gallai cynllun tai fforddiadwy ar safle oedd unwaith yn ysgol gynradd ym Mangor “gyfrannu” at ddiwallu anghenion tai canol y ddinas.
Mae cynllunwyr yng Ngwynedd wedi cymeradwyo cynnig i ddatblygu tai cyngor ar safle’r hen Ysgol Babanod Coed Mawr.
Roedd yr hen ysgol wedi’i lleoli mewn ardal breswyl i’r de o ganol y ddinas, rhwng Ffordd Caernarfon a Ffordd Penrhos.
Fe wnaeth yr ysgol gau ei drysau yn 2018 yn rhan o fuddsoddiad gwerth £12.7m mewn addysg gynradd ym Mangor.
Fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd gytuno i gais llawn i godi tai fforddiadwy canolig ar y safle, ynghyd â gwaith cysylltiedig, yn eu cyfarfod cynllunio’n ddiweddar (dydd Llun, Gorffennaf 29).
Roedden nhw wedi derbyn cynnig wedi’i ailgyflwyno ar gyfer datblygiad oedd wedi cael ei gymeradwyo fis Ebrill y llynedd.
Ers hynny, mae’r cynigion wedi cael eu haddasu er mwyn galluogi newidiadau i’r dyluniad er mwyn “ymateb i’r gofynion draenio”, ac mae’n golygu bod gosodiad y datblygiad wedi newid.
Roedd yn rhaid ceisio caniatâd eto, gan fod hyn wedi golygu “newidiadau sylfaenol” i’r hyn oedd eisoes wedi cael ei gymeradwyo.
Fodd bynnag, yr unig wahaniaeth rhwng y ddau gynllun, yn ôl adroddiad cynllunio, oedd “y newid i drefniadau’r safle i gynnwys system draenio dŵr wyneb wedi’i addasu”.
Doedd dim newid i nifer yr unedau na’r dull daliadaeth ar gyfer y tai arfaethedig.
Y safle
Cafodd y cais ei gyflwyno gan Rhys Carden ar ran Cyngor Gwynedd, drwy’r asiant Jamie Bradshaw o Owen Devenport.
Mae’r safle presennol yn cynnwys gweddillion hen adeilad yr ysgol.
Mae’r safle yn ymyl cartrefi ar Ffordd Coed Mawr i’r gogledd, Toronnen i’r dwyrain, a Lôn y Bedw i’r de.
I’r gorllewin roedd priffordd sirol heb ei ddosbarthu, ac eiddo preswyl Bron y De hefyd.
Nododd yr adroddiad cynlluinio na fyddai’r datblygiad yn creu “strwythurau gormesol” ac na fyddai’n golygu “edrych dros unman na cholli preifatrwydd i raddau helaeth ar draul cyfleusterau preswyliaid cyfagos”.
Ymgynghoriad cyhoeddus
Yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus, cafodd hysbysiadau eu gosod ar y safle, yn y wasg, ac roedd trigolion lleol wedi’u hysbysu, medd adroddiad.
Cafodd gohebiaeth ei derbyn oedd yn “mynegi cefnogaeth”, medd y cynlluniau.
Roedd Dŵr Cymru wedi cynnig sylwadau ynghylch yr angen i warchod carthffosiaeth a dŵr, ac roedden nhw wedi darparu “canllawiau penodol” ar gyfer yr ymgeiswyr.
Roedd swyddogion gwarchod y cyhoedd hefyd yn teimlo y gallai’r gwaith adeiladu “achosi problemau sŵn a llwch i drigolion cyfagos”.
Roedden nhw wedi gwneud cais am “amodau i reoli oriau gwaith a sicrhau cynllun manwl i reoli llwch, sŵn a dirgryniadau o ganlyniad i’r gwaith adeiladu cyn dechrau’r gwaith ar y safle”.
‘Gwella sut mae’r safle’n edrych’
I gloi, roedd y swyddfa gynllunio’n teimlo y byddai’r “cynnig, fel y cafodd ei gyflwyno, yn gwella sut mae’r safle, sy’n wag ar hyn o bryd, yn edrych”.
“Ymhellach, mae lle i gredu bod y ffaith y bydd 100% o’r eiddo preswyl arfaethedig yn fforddiadwy ac yn ymateb i anghenion penodol y gymuned yn golygu y byddai’r cynllun hwn yn cyfrannu’n sylweddol at anghenion tai fforddiadwy canol y ddinas,” meddai’r adroddiad.
Mae’n nodi “na chafodd unrhyw effaith niweidiol sylweddol ei nodi sy’n groes i bolisi cynllunio lleol na chyngor cenedlaethol perthnasol”.
Roedd lle i gredu bod y cynllun “yn dderbyniol, yn amodol ar gynnwys amodau perthnasol”, a’r argymhelliad oedd ei gymeradwyo.
Cafodd y mater ei basio, gyda deg pleidlais o blaid.