Fydd llanc 15 oed gafodd ei arestio fis Ebrill mewn perthynas â negeseuon bygythiol am Ysgol Dyffryn Aman ddim yn wynebu unrhyw gamau pellach.

Cafodd ei arestio ar Ebrill 25 yn ardal Crosshands yn Sir Gaerfyrddin.

Roedd hyn yn dilyn digwyddiad yn yr ysgol, pan gafodd tair o bobol eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty.

Cafodd merch 13 oed ei chyhuddo o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn y digwyddiad hwnnw.

Yn rhan o fechnïaeth y bachgen 15 oed, doedd dim hawl ganddo fe i fynd i rai sefydliadau addysg nac i ardaloedd Dyffryn Aman neu Gwm Gwendraeth.

Roedd amodau ei fechnïaeth hefyd yn cynnwys cyrffiw, a doedd dim hawl ganddo fe i gael mynediad i gyfryngau cymdeithasol heb oruchwyliaeth.

Bachgen, 15, ar fechnïaeth yn dilyn negeseuon bygythiol

Mae’r achos yn ymwneud â digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yr wythnos hon