Mae llanc 15 oed gafodd ei arestio yn Crosshands fore ddoe (dydd Iau, Ebrill 25) wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu.

Cafodd ei arestio yn dilyn honiadau ynghylch negeseuon bygythiol mewn perthynas â’r digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, lle cafodd tair eu hanafu a’u cludo i’r ysbyty.

Mae merch 13 oed wedi’i chyhuddo o geisio llofruddio dwy athrawes a disgybl yn y digwyddiad hwnnw.

Yn rhan o fechnïaeth y bachgen 15 oed, does dim hawl ganddo fe i fynd i rai sefydliadau addysg nac i ardaloedd Dyffryn Aman neu Gwm Gwendraeth.

Mae amodau ei fechnïaeth hefyd yn cynnwys cyrffiw, a does dim hawl ganddo fe i gael mynediad i gyfryngau cymdeithasol heb oruchwyliaeth.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth, gan gynnwys lluniau o’r cyfryngau cymdeithasol, wrth i’w hymchwiliad barhau.

 

Arestio llanc ar amheuaeth o fod ag arf yn Rhydaman

Cafwyd hyd i ddryll BB mewn eiddo yn y dref, oriau ar ôl i dri o bobol gael eu trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman