Mae llanc wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod ag arf yn Rhydaman, oriau ar ôl i ferch yn ei harddegau gael ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn Ysgol Dyffryn Aman yn y dref.

Cafwyd hyd i ddryll BB mewn eiddo yn y dref ar ôl i’r llanc fod yn gwneud bygythiadau.

Mae’r llanc yn y ddalfa, medd Heddlu Dyfed-Powys, sy’n dweud y byddan nhw’n rhoi diweddariad yn nes ymlaen heddiw.

Ysgol Dyffryn Aman

Mae Ysgol Dyffryn Aman ynghau heddiw (dydd Iau, Ebrill 25) ar ôl i dri o bobol – un disgybl a dau o athrawon – gael eu trywanu yno ddoe (dydd Mercher, Ebrill 24).

Cafodd yr heddlu eu galw i’r ysgol ddwyieithog yn Rhydaman am 11.20yb, a bu’n rhaid cadw’r ysgol ynghau wrth i’r digwyddiad fynd rhagddo.

Cafodd tri o bobol eu cludo i’r ysbyty ag anafiadau, ac maen nhw i gyd wedi cael mynd adref erbyn hyn.

Mae’r ferch sydd wedi’i harestio yn cael ei holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu wedi sicrhau rheini a’r cyhoedd fod y digwyddiad bellach wedi dod i ben, ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall.

Heddwas

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Cafodd tri o bobol eu trywanu, medd Heddlu Dyfed-Powys