Mae heddluoedd Cymru’n dueddol o “gau’r rhengoedd”, yn ôl cyn-Gomisiynydd Heddlu’r Gogledd, sy’n eu rhybuddio nhw rhag gwneud yr un camgymeriadau â Heddlu Llundain.
Yn dilyn llofruddiaeth Sarah Everard yn 2021 gan Wayne Couzens, oedd yn gweithio i’r ‘Met’, cafodd adroddiad ei gomisiynu ac fe ddywedodd ei awdur, y Farwnes Casey, fod y llu’n esgeuluso menywod a phlant, a bod hiliaeth, rhywiaeth a homoffobia’n sefydliadol, yn fewnol ac o ran y ffordd mae’r llu yn plismona.
Yn ôl Arfon Jones, dydy hynny ddim yn unigryw i Heddlu Llundain, ac mae nifer o’r un problemau i’w gweld yn heddluoedd Cymru hefyd.
“Mae’r heddlu yn hanesyddol wedi bod yn ddeniadol i gyn-filwyr, sy’n meddwl bod yr heddlu yn recriwtio chwaraewyr tîm,” meddai wrth golwg360.
“O fewn gwasanaeth disgybledig, lle mae gorfod cymryd ordors sarjant sy’n dweud ‘Just do it’, fel plismon mae pobol o’r cefndir yna yn fwy tebygol o wneud o heb ofyn cwestiynau.
“Ond weithiau, os mae rhywbeth yn mynd o’i le, os oes gen ti afal drwg o fewn y tîm, mae yna dueddiad i gau’r rhengoedd er mwyn cau pethau lawr.
“Hefyd mae gwasanaethau heddlu yn amheus o’r cyhoedd pan maen nhw’n gofyn cwestiynau, dydy o ddim y gwasanaeth mwyaf agored, a dwi’n meddwl bod hwn yn ddiwylliant sy’n mynd trwy’r heddlu ers degawdau.
“Os ydy goruchwylwyr y swyddogion heddlu o’r un cefndir a’r un diwylliant, dydy’r goruchwylio ddim cystal â ddylsa fo fod.
“Mae rhaid cael mwy o unigolion efo mwy o flaengaredd am newid.
“Yn aml iawn, os wyt ti’n neud cais rhyddid gwybodaeth, mi wnân nhw [yr Heddlu] ddefnyddio’r eithriadau er mwyn peidio rhoi gwybodaeth i chdi, drwy ddweud bod y cais i wneud efo dulliau plismona, neu ddiogelwch, neu jest dweud eu bod nhw’n gwrthod cadarnhau neu wadu.”
Sut, felly, all yr heddlu wella’r diwylliant o fewn y gwasanaeth?
“Mae o’n cychwyn ffwrdd efo pwy wyt ti’n dewis recriwtio,” meddai.
“Yn bersonol, dw i eisiau gweld lot mwy o fenywod yn yr heddlu, oherwydd maen nhw fel awyr iach o safbwynt newid diwylliant.”
Ail farn gan Arfon Jones
Er na fu’n Gomisiynydd ers 2021, mae Arfon Jones yn dal i dderbyn galwadau yn gofyn am gyngor ar faterion sy’n ymwneud â thrais.
“Ddoe, ges i alwad gan ddwy fenyw yn gofyn am gyngor am drais yn y cartref,” meddai.
“Felly tair blynedd ar ôl gorffen, dw i’n dal i gael pobol sydd yn dioddef o’r math yma o drais yn cysylltu efo fi i alw am gyngor.
“Gan amlaf, dydyn nhw ddim yn hapus efo’r cyngor maen nhw’n ei gael gan yr heddlu, ac maen nhw eisiau ail farn.”