Mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur bellach wedi cefnu ar addewid blaenorol i wneud Dydd Gŵyl Dewi – a diwrnodau nawddsaint eraill gwledydd Prydain – yn ddiwrnod gŵyl banc.

Daeth yr addewid gan Jeremy Corbyn, rhagflaenydd yr arweinydd presennol Syr Keir Starmer.

Ond mae Starmer yn dweud y byddai’n “dechrau o’r dechrau” ac yn rhoi’r gorau i’r ymgyrch ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi a Dydd San Siôr pe bai ei blaid yn dod i rym ar ôl yr etholiad cyffredinol nesaf.

Mae Dydd San Andreas eisoes yn ŵyl banc yn yr Alban.

Eisoes, mae deiseb i sicrhau bod Dydd Gŵyl Dewi yn dod yn ddiwrnod gŵyl banc wedi denu dros 10,000 o lofnodion.

Beth yw eich barn chi, felly? Pleidleisiwch yn ein pôl piniwn ar X (Twitter gynt) isod, neu ar Instagram.