Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ceisio darganfod a oes cysylltiad rhwng dau ddigwyddiad yn Rhydaman dros y 24 awr diwethaf.
Mae llanc o ardal Crosshands yn dal yn y ddalfa ar ôl gwneud bygythiadau oedd yn cyfeirio at achos o drywanu yn Ysgol Dyffryn Aman, lle cafodd tri o bobol eu trywanu.
Derbyniodd yr heddlu adroddiadau o negeseuon bygythiol ar y cyfryngau cymdeithasol, a chafodd y llanc ei arestio yn ei gartref fore heddiw (dydd Iau, Ebrill 25).
Dywed yr heddlu fod ymchwiliadau i’r ddau ddigwyddiad yn cael eu rhedeg ar wahân, ond eu bod nhw hefyd yn ystyried a oes cysylltiad rhyngddyn nhw ac a oedd y bygythiadau’n rhai credadwy.
Mae’r heddlu wedi ailadrodd na ddylai neb rannu delweddau na fideos ar y cyfryngau cymdeithasol mewn perthynas â’r digwyddiadau.