Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi awgrymu nad yw’r Gymraeg yn ystyriaeth wrth gymeradwyo cais cynllunio ar gyfer datblygiad tai yn y sir.
Roedd y cais cynllunio wedi’i gyflwyno gan Jones Bros. (Henllan) Ltd a grŵp Pobl i godi 39 o dai a phedair fflat breswyl ar dir fferm Wern Fraith ym Mhorth-y-Rhyd.
Ond roedd nifer sylweddol o wrthwynebwyr i’r cais wedi codi pryderon am effaith y datblygiad ar y Gymraeg yn yr ardal, sydd ag arwyddocâd ieithyddol arbennig o ystyried y ganran uchel o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yno.
Roedd gwrthwynebwyr yn dweud y byddai’r datblygiad yn cael effaith ar y cydbwysedd ieithyddol, ac roedden nhw wedi bod yn galw am asesiad ieithyddol o unrhyw gamau sydd wedi’u cymryd i warchod y Gymraeg.
Yn ôl polisi sy’n rhan o Gynllun Datblygu Lleol y sir, mae angen cyflwyno datblygiadau tai fesul cam os ydyn nhw ar dir lle mae mwy na phum eiddo o fewn cymunedau lle mae 60% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg.
Roedd y ddogfen gynllunio hefyd yn dweud y byddai’r datblygiad yn cynnwys tai fforddiadwy i bobol leol sy’n medru’r iaith ac sydd eisiau aros yn eu milltir sgwâr, ac y byddai eu plant yn gallu mynd i un o ysgolion Cymraeg yr ardal yn Llanddarog neu Faes y Gwendraeth.
Yn ôl swyddog tai yn ystod y cyfarfod, mae mwy na 4,000 o bobol ar gofrestr dai y sir, ac mae eu hanner nhw’n ‘flaenoriaeth uchel’.
Mae oddeutu 80 o dai ym Mhorth-y-rhyd, ond bydd hynny’n cynyddu ar ôl i’r datblygiad o 42 o dai gael ei dderbyn, gyda 29 ohonyn nhw’n dai fforddiadwy.
Denu pobol ddi-Gymraeg
Ond roedd gwrthwynebwyr yn gofidio y byddai’r rhan fwyaf o bobol sy’n prynu’r tai yn dod o’r tu allan ac yn bobol ddi-Gymraeg, er nad oedden nhw wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi hynny, medd y ddogfen.
Er bod gwrthwynebwyr yn nodi’r angen i hysbysebu eiddo cyd-berchnogaeth a marchnad agored am wyth wythnos ar gyfer pobol leol fel man cychwyn, ac yn dymuno cyflwyno amod tebyg wrth werthu’r eiddo yn y dyfodol, mae’r Cyngor yn dweud y byddai hynny y tu hwnt i reolaeth gynllunio.
Yn ôl arolwg gafodd ei gwblhau fis Hydref y llynedd, mae 68.5% o drigolion Porth-y-rhyd yn medru’r Gymraeg ond dywed y Cyngor mai’r mesur mwyaf dibynadwy yw’r Cyfrifiad yn 2021, oedd yn nodi mai 55.8% o bobol leol sy’n medru’r iaith yn Llanddarog, sef y ward sy’n cwmpasu Porth-y-rhyd (i lawr o 59.4% yn 2011).
Felly mae’r ffigwr o dan y trothwy o 60% ar gyfer dull graddedig o asesu’r iaith wrth gyflwyno tai newydd i’r ardal.
Yn ôl y ddogfen, byddai rhoi ystyriaeth i’r Gymraeg yn achosi “oedi diangen” cyn cyflwyno manteision cymdeithasol i’r ardal yn sgil y datblygiad fyddai’n diwallu anghenion tai yr ardal.
Daeth y ddogfen i’r casgliad, felly, na fyddai’r datblygiad yn cael “effaith annerbyniol ar y defnydd o’r Gymraeg yn y datblygiad hwnnw na’r ardal gyfagos”.