Er bod arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru’n “siomedig” ynghylch penderfyniad Humza Yousaf, arweinydd yr SNP, i ddod â Chytundeb Tŷ Bute i ben, dywed na fydd yn cael effaith ar strategaeth y Blaid Werdd o gydweithio yng Nghymru.

Wrth siarad â golwg360, dywed Anthony Slaughter fod Prif Weinidog yr Alban wedi mynd yn ôl ar ei air, a bod Plaid Cymru’n “fwy blaengar” na’r SNP.

Daw hyn wrth i Humza Yousaf wynebu pleidlais hyder, yn dilyn ei benderfyniad i dynnu’n ôl o gytundeb i rannu grym â’r Blaid Werdd yn Holyrood.

Fe fu’n wynebu’r wasg fore heddiw (dydd Iau, Ebrill 25) er mwyn egluro’r sefyllfa ar ran ei blaid.

Daeth y newyddion ar ôl i Douglas Ross, arweinydd Plaid Geidwadol yr Alban, gyhoeddi cynnig i geisio pleidlais o ddiffyg hyder yn y Prif Weinidog.

Mae rheolau Senedd yr Alban yn golygu bod rhaid i o leiaf 25 o aelodau’r siambr gytuno i’r ddeiseb hyder cyn mynd i bleidlais lawn.

Gan fod gan y Ceidwadwyr 31 aelod sydd am bleidleisio o blaid y ddeiseb, bydd y Prif Weinidog ac arweinydd yr SNP yn wynebu pleidlais i benderfynu a fydd yn aros yn ei swydd.

“Bwriad cytundeb Tŷ Bute oedd rhoi sefydlogrwydd i lywodraeth yr Alban,” medd Humza Yousaf yn ystod cynhadledd i’r wasg.

“Ond mae’r cytundeb nawr wedi cyflawni’r hyn roedd e yno i’w gyflawni – dydy e ddim nawr yn sicrhau cytundeb seneddol sydd yn sefydlog.”

‘Cyferbyniad llwyr’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywedodd Patrick Harvie, un o gyd-arweinwyr Plaid Werdd yr Alban, fod y penderfyniad yn “gyferbyniad llwyr” â datganiadau gan Humza Yousaf dros y dyddiau diwethaf.

Ac wrth siarad â golwg360, mae’r arweinydd Cymreig yn dweud bod yr SNP “wedi dewis gwleidyddiaeth bleidiol uwchlaw gwleidyddiaeth flaengar”.

“Mae tensiynau wedi bod yn codi dros yr wythnosau diwethaf ar ôl i dargedau amgylcheddol gael eu gwthio’n ôl,” meddai Anthony Slaughter.

“Roedd y Gwyrddion yn yr Alban wrthi’n trefnu pleidlais ymysg yr aelodaeth i weld a oes hyder yn y cytundeb.

“Dwi’n meddwl bod hwn yn amlygu’r gwahaniaeth yn sut mae’r ddwy blaid yn gweithio.”

Yn ôl Anthony Slaughter, mae cydweithio yn rhan o fod yn wleidydd i’r Blaid Werdd, a bod y sefyllfa yn Holyrood yn adlewyrchu fwy ar wendidau’r SNP.

“Rydym yn credu mewn cydweithio ar draws llinellau pleidiol, oherwydd mai dyna’r peth cywir i’w wneud,” meddai.

“Ond mae’n rhaid cydnabod fod cydweithio hefyd yn golygu bod rhaid cyfaddawdu yn aml; dyma le mae Humza Yousaf a’r SNP wedi mynd yn anghywir.

“Dwi’n credu bod y sefyllfa wedi pwysleisio nad yw’r SNP mor flaengar yn eu polisïau ag y maen nhw’n ceisio cyflwyno eu hunain i fod.”

Wrth ateb a fydd y sefyllfa hon yn effeithio ar unrhyw benderfyniad i gydweithio yng Nghymru, dywed fod “rhaid cydweithio”, oherwydd fyddai dim byd yn digwydd yng nghyd-destun yr argyfwng hinsawdd pe bai pawb yn parhau i fod yn eu swigod eu hunain.

“Dw i’n credu bod lot o bobol blwyfol o fewn pob plaid, a byddan nhw yn gweld yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban fel tystiolaeth nad cydweithio yw’r ffordd ymlaen.

“Dw i’n fwy tueddol o edrych ar y stwff llwyddiannus yn y cytundeb, megis teithio am ddim i bobol ifanc, mwy o waith ar gyfiawnder, a gwneud pethau i wella’r sefyllfa o ganlyniad i’r argyfwng hinsawdd.

“Rydym sicr yn cyflawni mwy mewn grym a thu fewn i drafodaethau nag ar y tu allan.

“Yng Nghymru, mae cydweithio yn haws ac mi fyddwn yn dadlau bod Plaid Cymru yn fwy blaengar yn wleidyddol na’r SNP.”

Gobeithio am lwyddiant etholaethol yng Nghymru

Wrth siarad am obeithion y Blaid Werdd yn yr etholiad cyffredinol ac yn etholiadau’r Senedd, lle bydd mwy o gyfle i ennill seddi ar ôl ehangu’r sefydliad i 96 aelod, mae Anthony Slaughter yn dweud ei fod e “wedi cyffroi” ynghylch y cyfle.

“Rydym mewn lle da iawn ar hyn o bryd,” meddai.

“Mae ymgeisydd Gwyrdd yn sefyll ym mhob un o’r 32 etholaeth yn yr etholiad cyffredinol, ac fe fydd yr ymgyrch yma yn fan cychwyn i’r ymgyrch yn y Senedd yn arwain at 2026.

“Rydym yn hyderus iawn ein bod yn gallu cael un, efallai dau Aelod Senedd yn 2026; y rheswm dw i’n dweud hyn yw fod niferoedd mawr o aelodau anhapus y Blaid Lafur yn dewis ymuno â ni.