Mae pryderon wedi’u mynegi ar ôl i’r trafodaethau rhwng cwmni dur Tata ac undebau ddod i ben.
Mae’n golygu y bydd y cwmni’n parhau â’u cynlluniau i gau ffwrneisi chwyth ar safle Port Talbot, ac y bydd swyddi’n cael eu colli yn groes i obeithion yr undebau, sy’n dweud y byddan nhw’n parhau i frwydro dros y gweithwyr.
Byddai cynlluniau’r undebau wedi gallu achub miloedd o swyddi.
Daw hyn ar ôl i’r perchnogion o India ddweud eu bod nhw am gau ffwrneisi a’u disodli nhw gan ddefnyddio ffwrneisi arc trydan er mwyn lleihau costau ac allyriadau.
‘Ergyd yn y stumog i bobol ym Mhort Talbot’
Dywed Jo Stevens, llefarydd materion Cymreig y Blaid Lafur, fod y newyddion yn “ergyd yn y stumog” i drigolion Port Talbot, ac y “bydd y canlyniadau economaidd posib yn atseinio ar draws de Cymru am flynyddoedd”.
“Mae’r Ysgrifennydd Cymru Ceidwadol wedi dweud na fydd neb yn cael ei adael ar ôl os ydyn nhw’n colli eu swyddi,” meddai.
“Byddaf yn ei ddwyn i gyfrif ar hynny bob cam o’r ffordd.
“Bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn buddsoddi yn ein diwydiant dur er mwyn sicrhau bod dyfodol dur y Deyrnas Unedig wedi’i danio gn sgiliau, doniau ac uchelgais gweithwyr dur Cymreig.”
‘Goblygiadau mawr’
Yn ôl Paul Davies, cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Senedd, bydd “goblygiadau mawr” i’r penderfyniad.
“Mae’n drist iawn clywed bod Tata wedi rhoi’r gorau i’w drafodaethau â’r undebau dur a’i fod yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynigion i gau’r ddwy ffwrnais chwyth,” meddai.
“Mae’r Senedd gyfan wedi bod yn glir mai’r peth cywir i’w wneud fyddai cadw ffwrnais chwyth ar agor ym Mhort Talbot yn ystod y cyfnod o bontio i ffwrnais arc trydan.
“Bydd goblygiadau mawr i weithwyr a’u cymunedau yn sgil y penderfyniad hwn.
“Mae’n hanfodol eu bod yn cael eu cefnogi drwy’r newid enfawr hwn.
“Rydym hefyd yn siomedig o weld Tata yn defnyddio cynigion diswyddo fel sglodyn bargeinio â’r gweithlu – dylai pob gweithiwr sy’n cael ei ddiswyddo allu hawlio’r pecyn diswyddo uwch a gynigiwyd eisoes – heb fod unrhyw amodau ychwanegol ynghlwm”.
“Rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru weithredu’n gyflym i gefnogi’r rhai a gaiff eu diswyddo i symud i gyflogaeth newydd o safon, ac i sicrhau na fyddwn yn colli’r gronfa dalent gref sydd gennym ar hyn o bryd yng ngweithfeydd dur de Cymru.”