Mae Ysgol Dyffryn Aman yn cynnig gwersi ar-lein tra bo’r ysgol ynghau yn dilyn digwyddiad yno ddoe (dydd Mercher, Ebrill 24).

Dywed Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod nhw’n parhau i gydweithio â’r ysgol a Heddlu Dyfed-Powys wrth i ymchwiliadau barhau.

Yn ôl y Cyngor Sir, mae arweinwyr uwch yr ysgol yn blaenoriaethu’r gwaith o gysylltu â holl ddisgyblion a staff yr ysgol i’w holi ynghylch eu lles.

Mae gwersi ar-lein yn cael eu darparu i ddisgyblion sy’n dymuno dilyn eu hamserlen ddysgu arferol, ac mae’r ysgol eisoes wedi cyfathrebu â’r byrddau arholi i drafod unrhyw drefniadau amgen angenrheidiol ar gyfer dysgwyr sy’n sefyll arholiadau.

Mae’n debygol y bydd yr heddlu’n dirwyn eu hymchwiliad yn yr ysgol i ben erbyn diwedd y dydd heddiw (dydd Iau, Ebrill 25).

Bydd athrawon a staff yn dychwelyd fory (dydd Gwener, Ebrill 26) i baratoi’r adeilad, gyda’r bwriad y bydd pob disgybl yn dychwelyd yn ddiogel ddydd Llun (Ebrill 29), gyda rhagor o ohebiaeth i ddilyn am y drefn.

Tri wedi cael mynd adref o’r ysbyty

Mae tri o bobol gafodd eu hanafu – disgybl a dwy athrawes – bellach wedi cael mynd adref o’r ysbyty.

Mae merch gafodd ei harestio ar dir yr ysgol yn dal i gael ei holi yn y ddalfa, ac mae’r heddlu’n dweud y byddan nhw’n rhoi diweddariad o’r sefyllfa hon a digwyddiad arall yn Rhydaman, lle cafodd llanc ag arf ei arestio yn y dref, yn nes ymlaen heno.

“Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, hoffwn ddweud mor falch ydym bod y tri unigolyn gafodd eu hanafu wedi cael eu rhyddhau o’r ysbyty, ac rydym yn dymuno gwellhad buan iddyn nhw,” meddai Darren Price, arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin.

“Roedd y digwyddiad ddoe yn sioc fawr i bawb, a hoffwn gydnabod ymateb rhagorol y staff a disgyblion yr ysgol, staff y Cyngor a’r holl wasanaethau brys oedd ynghlwm gyda’r digwyddiad.

“Mae cryfder a phenderfyniad pawb dan sylw i sicrhau bod ein plant yn dychwelyd i’w hystafelloedd dosbarth cyn gynted ag y bydd yn ddiogel gwneud hynny wedi cael effaith fawr arnaf.”

Heddwas

Ysgol Dyffryn Aman: Merch wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio

Cafodd tri o bobol eu trywanu, medd Heddlu Dyfed-Powys