Mae Plac Porffor Cymru, yr unfed ar bymtheg o’i fath, wedi cael ei ddadorchuddio am 1yp ddydd Gwener (Ebrill 26), i gofio Dorothy ‘Dot’ Miles.
Mae’r plac wedi cael ei osod ar ei hen gartref yn 27 Westbourne Avenue yn y Rhyl.
Bu Lesley Griffith, Ysgrifennydd Diwylliant Cymru, yn siarad yn ystod y digwyddiad, a bydd Liz Deverill, nith Dorothy Miles, a Sue Essex, cadeirydd Placiau Porffor Cymru, hefyd yn bresennol.
Nod y cynllun Placiau Porffor yw dathlu menywod nodedig yng Nghymru, sef gweledigaeth Julie Morgan a Jane Hutt, dwy Aelod o’r Senedd, yn 2017.
Ers hynny, mae grŵp o gwirfoddolwyr annibynnol benywaidd, wedi’i gadeirio gan Sue Essex, cyn-Aelod o’r Senedd, wedi gweithio i gael placiau i ystod eang o fenywod ym mhob cwr o Gymru ac o bob cefndir a maes gwaith.
Maen nhw’n dod â menywod arloesol i’r amlwg, a’r rheiny i gyd wedi cael effaith yng Nghymru ond heb gael eu dathlu neu wedi cael eu hepgor o’r llyfrau hanes yn gyfangwbl.
Llenor ac ymgyrchydd oedd Dorothy Miles, ac mae’n fyd-enwog yn y gymuned Fyddar.
(Fideo: Sara Louise Wheeler)
Bywyd a gwaith
Cafodd Dorothy Miles ar Awst 19, 1931 yn y Waun (Gwernaffield-y-Waun), pentref bach tair milltir o’r Wyddgrug.
Hi oedd yr ieuengaf o blith pump o blant oedd wedi goroesi.
Mynychodd yr ysgol gynradd leol cyn i’w theulu symud i’r Rhyl.
Roedd ei mam Amy Squire yn ddramodydd, a phan oedd Dorothy yn bedair oed perfformiodd ar lwyfan yn un o ddramâu ei mam, gan fagu diddordeb gydol oes yn y theatr.
Fis Chwefror 1940, a hithau’n wyth oed, bu Dorothy’n sâl â llid yr ymennydd a bu mewn coma am dair wythnos gan orfod dysgu sut i gerdded eto.
Daeth i sylweddoli bod distawrwydd ei hystafell salwch bellach yn gyflwr parhaol, a hithau bellach yn fyddar.
Faciwî o Gymru i Fanceinion
Y drefn ar y pryd oedd fod plant byddar yn mynd i ysgolion preswyl arbennig ar eu cyfer, ac roedd plant gogledd-ddwyrain Cymru’n cael ei hanfon i Lerpwl neu Fanceinion.
Ar Fehefin 10, 1940, ar adeg pan oedd plant ardaloedd dinesig Manceinion yn cael eu hanfon draw i Gymru rhag bomiau’r Ail Ryfel Byd, aeth Dorothy i fod yn fyfyriwr preswyl yn ‘The Royal Schools for the Deaf, Manchester’ (Seashell Trust bellach).
A hithau’n ffan o waith Enid Byton, roedd Dorothy yn edrych ymlaen.
Ond ar ôl cyrraedd, gwelodd nad oedd yr ysgol yn debyg i’r rhai mewn straeon, a theimlai fod ei theulu wedi ei gwrthod a’i gadael.
Prin y câi fynd adref i’r Rhyl yn ystod y gwyliau, oherwydd cyfyngiadau’r rhyfel.
Ond yn yr ysgol ym Manceinion y dysgodd hi Iaith Arwyddion Prydeinig, ac roedd hi, yn ôl pob tebyg, yn canu ac yn arwyddo caneuon ddysgodd hi tra roedd hi’n dal yn medru clywed.
Pasiodd yr arholiad mynediad i’r ysgol ramadeg newydd i rai byddar draw yn Burgess Hill, a dechreuodd yn ysgol ramadeg Mary Hare yn 1946.
Nododd fod hyn yn drobwynt yn ei bywyd, a gwnaeth hi ffynnu’n academaidd ac mewn gweithgareddau tu allan i’r dosbarth, gan gynnwys drama, barddoniaeth, ac ysgrifennu i gylchgrawn yr ysgol.
Gwaith ac addysg bellach
Gweithiodd am gyfnod cyn cael ysgoloriaeth gan y British Deaf and Dumb Association i gael mynd i’r Unol Daleithiau.
Bu’n fyfyriwr yng ngholeg Gallaudet (sydd bellach yn brifysgol) rhwng 1957 a 1961, cyfnod dryslyd a heriol wrth iddi ddysgu Arwyddiaith Americanaidd, sy’n wahanol iawn i Iaith Arwyddion Prydeinig.
Roedd hi hefyd yn dal i geisio dod o hyd i’w lle mewn bywyd.
Ymroddodd i fyd y ddrama yn ei blwyddyn gyntaf, ac yn ei hail flwyddyn yn 1958 y priododd ei chyd-fyfyriwr Robert Thomas Miles.
Daeth yn golygydd Buff and Blue, papur newydd y myfyrwyr.
Ond erbyn diwedd 1959, roedd hi a’i gŵr wedi gwahanu, er iddi gadw ei enw am weddill ei hoes.
Yn 1960, ysgrifennodd yr arwydd-gerdd ‘Bison’s song’ i Gallaudet, ac mae’n parhau i fod yn boblogaidd hyd heddiw.
Graddiodd yn 1961 gyda BA mewn Saesneg.
‘Bright memory’ oedd ei cherdd fwyaf adnabyddus, ac roedd hefyd yn deitl llyfr gafodd ei gyhoeddi gan Gymdeithas Fyddar Prydain yn 1998.
Bu’n myfyriwr M.A. mewn Cymdeithaseg tan Mai 1962, ond wynebodd hi broblemau ariannol, ac felly gadawodd ei hastudiaethau a bu’n gweithio mewn amrywiaeth o swyddi ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys gweithio’n llawrydd.
Bu’n teithio’n frwd rhwng yr Unol Daleithiau, gwledydd Prydain a Seland Newydd yn ystod y blynyddoedd ddilynodd.
Celfyddydau Byddar a phroblemau iechyd meddwl
Roedd Dorothy Miles yn byw â’r cyflwr rydym yn ei alw’n anhwylder deubegwn (bi-polar) heddiw.
Cafodd gyfnodau niferus o iselder a phyliau’n ymwneud ag anhwylder deubegynnol, yn enwedig yn y 1970au, gan gynnwys cyfnodau mewn ysbytai iechyd meddwl.
Trwy’r cyfan, bu’n ysgrifennu’n greadigol ac yn hunanfywgraffyddol.
Bu’n ymwneud â’r National Theatre for the Deaf rhwng 1968 a 1973, ond ddiwedd 1973 bu’n sâl a bu’n rhaid iddi adael.
Astudiodd yng ngholeg Connecticut a graddio ag MA mewn Addysg Theatr.
Yn 1977, tra roedd hi yn Sweden ar gyfer seminar, cafodd gyfnod o salwch berodd iddi benderfynu peidio dychwelyd i’r Unol Daleithiau, a symudodd i Loegr at ei chwaer am gyfnod.
Yn 1980, bu draw yn Gallaudet am gyfnod byr gan iddyn nhw roi gwobr iddi i gydnabod ei gwaith arloesol yn y celfyddydau Byddar.
Yn 1990, adeg canmlwyddiant Cymdeithas Fyddar Prydain, ysgrifennodd hi’r gân ‘The BDA is…’ fu’n boblogaidd iawn ymhlith y gynulleidfa.
Marwolaeth a gwaddol
Ar Ionawr 30, 1993, disgynnodd Dorothy Miles o ffenest ei fflat yn Llundain.
Dyfarniad y crwner yn ei chwest oedd ei bod hi wedi lladd ei hun yn ystod pwl o iselder deubegynnol.
Mae’r problemau iechyd meddwl hyn yn thema cryf yn ei gwaith creadigol, ac yn hynny o beth mae’n ffigwr pwysig yn y maes.
Roedd cariad hefyd yn thema bwysig yn ei barddoniaeth, ac roedd hi’n rhan o’r gymuned LHDTC+.
Ond ei gwaddol fwyaf yw ei barddoniaeth iaith arwyddion.
Mae llawer yn ei chydnabod fel sylfaenydd yr holl farddoniaeth iaith arwyddion gaiff ei chyfansoddi a’i pherfformio’n fyd-eang heddiw.
Mae’n ffigwr allweddol ym maes llenyddiaeth ieithoedd arwyddion y byd.
Yn 1993, ar ôl ei marwolaeth, rhoddodd Cymdeithas Fyddar Prydain fedal anrhydedd iddi.
Bu sawl dathliad o’i bywyd dros y blynyddoedd ers hynny, a’r plac porffor yw’r diweddaraf ohonyn nhw.