Mae digwyddiad difrifol ar y gweill yn Ysgol Dyffryn Aman.

Mae’r Gwasanaeth Ambiwlans wedi cadarnhau bod yr Ambiwlans Awyr wedi ymateb i’r digwyddiad drwy anfon dau hofrennydd yno.

Mae un hofrennydd bellach wedi gadael tir yr ysgol, ac ar ei ffordd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Yn ôl adroddiadau llygad dystion, roedd nifer fawr o gerbydau’r gwasanaethau brys – gan gynnwys hyd at ddeg car heddlu a phum neu chwech ambwilans – ar y safle fore heddiw (dydd Mercher, Ebrill 24).

Dywed Heddlu Dyfed-Powys fod tri o bobol wedi cael eu hanafu ac yn derbyn triniaeth, bod un person wedi’i arestio, ac nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â’r digwyddiad.

Maen nhw’n dweud bod y gwasanaethau brys yn dal ar y safle, a bod yr ysgol ynghau wrth i’r ymchwiliad barhau.

Mae’r heddlu’n cydweithio’n agos â’r ysgol a Chyngor Sir Caerfyrddin, medden nhw, ac maen nhw’n gofyn am ddileu deunydd o’r digwyddiad sydd wedi’i gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol, a hynny er mwyn osgoi dirmyg llys a phryder i’r rhai sydd ynghlwm wrth y digwyddiad.

Maen nhw hefyd yn gofyn i bobol beidio â dyfalu am y digwyddiad tra bo’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Dydy’r gwasanaethau brys ddim wedi ymateb i honiadau bod achos o drywanu wedi bod ar dir yr ysgol.

‘Brawychus’

Mae Adam Price, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn un o gyn-ddisgyblion Ysgol Dyffryn Aman, a dywed wrth golwg360 na fyddai neb wedi dychmygu rhywbeth fel hyn yn digwydd yno.

“Mae’n newyddion brawychus, wrth gwrs, rydyn ni gyd wedi cael ein hysgwyd gan y newyddion o’r digwyddiad erchyll yn gynharach heddiw,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae ein meddyliau ni gyd gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad, ac yn arbennig ar y foment hon, gyda theuluoedd y rhai sydd wedi cael eu hanafu a’r unigolion sydd wedi cael eu hanafu, gan obeithio y byddan nhw’n cael triniaeth lwyddiannus yn ystod y cyfnod allweddol yma.

“Mae ein gweddïau ni gyda nhw i gyd.”

Bu Adam Price yn brif ddisgybl yno yn y 1980au, a dywed bod yr ysgol yn agos iawn at ei galon, a chalonnau’r gymuned gyfan.

“Fyddai neb wedi dychmygu rhywbeth fel hyn yn digwydd yn Ysgol Dyffryn Aman, ond yn anffodus mae digwyddiadau fel hyn yn digwydd yn gynyddol mewn ysgolion ar hyd a lled y wlad.”

Ychwanega fod rhaid canmol staff yr ysgol am eu hymateb i sefyllfa heriol, a diolch i’r gwasanaethau brys.

“Dw i’n deall nad yw’r sefyllfa yn un gyfredol, yn yr ystyr nad oes bygythiad pellach, does dim gofid bod hwn yn fwy na digwyddiad unigol, ond dyw hynny ddim yn tynnu mewn unrhyw ffwrdd oddi ar yr ing a’r trawma fydd e wedi achosi i’r myfyrwyr, i’r staff ac i’r teuluoedd fyddai wedi clywed y newyddion ac wedi gofidio yn sgil hynny,” meddai.

‘Sioc ryfeddol’

Ychwanega Jonathan Edwards, Aelod Seneddol yr etholaeth, fod yr hyn sydd wedi digwydd heddiw’n “sioc ryfeddol” i’r gymuned.

“Mae cymunedau Sir Gaerfyrddin yn rhai rhyfeddol o saff, dw i’n dod o Ddyffryn Aman ac mae’n gymuned saff, felly mae’n sioc ofnadwy bod rhywbeth fel hyn wedi digwydd,” meddai wrth golwg360.

“Sa i’n cofio unrhyw beth fel hyn yn digwydd yng Nghymru o’r blaen.

“Yn amlwg, wedyn, mae yna linell wedi’i chroesi. Rydych chi’n siarad gydag athrawon, ac rydych chi’n clywed bod sefyllfaoedd yn gallu bod yn ddigon anodd mewn ysgolion y dyddiau yma… yn amlwg, mae llinell wedi’i chroesi.

“Does dim pwynt dyfalu gormod ar hyn o bryd, achos dydyn ni ddim yn gwybod y ffeithiau i gyd ond unwaith mae’r awdurdodau wedi gorffen eu hymchwiliadau a’u hadroddiadau, dw i’n credu bod rhaid i ni eistedd lawr i weithio ma’s fel rydyn ni’n mynd i gadw’n disgyblion a’n hathrawon yn saff o hyn ymlaen.

“Mae’n sioc ryfeddol i’r gymuned, ond mae cymunedau Dyffryn Aman yn rhai rhyfeddol o agos, a dw i’n ffyddiog iawn y byddwn ni’n wynebu’r hyn sydd wedi digwydd heddiw a symud ymlaen gyda’n gilydd.”

‘Newyddion pryderus tu hwnt’

Mae Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, yn dweud bod “hyn yn newyddion pryderus tu hwnt”.

“A tra ein bod yn aros am eglurder ar y sefyllfa, mae fy meddyliau gyda’r athrawon, disgyblion a theuluoedd,” meddai ar X (Twitter gynt).

Dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, fod “yr adroddiadau am y digwyddiad difrifol yn Ysgol Dyffryn Aman yn newyddion difrifol a phryderus iawn”.

“Yn meddwl am bawb sydd wedi eu heffeithio, ac yn diolch i’r gwasanaethau brys sy’n ymateb i’r digwyddiad,” meddai.

“Mae’n meddyliau ni oll gyda chymuned glos Rhydaman.”

“Mae fy nghalon yn mynd allan at ddisgyblion, teuluoedd a staff yr ysgol, ac i’r gwasanaethau brys sy’n ymateb i’r sefyllfa,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.

‘Amser pryderus tu hwnt’

Dywed Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, fod hyn yn “newyddion ofnadwy” ac yn “amser pryderus tu hwnt i’r ysgol, teuluoedd a’r gymuned”.

“Diolch i’r ymatebwyr cyntaf,” meddai.

“Dw i’n meddwl am y gymuned wrth i ni geisio canfod mwy o wybodaeth.”

Neges debyg sydd gan David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru, ar ei gyfrif yntau hefyd.

Dywed fod ei “feddyliau gyda phobol, rhieni ac athrawon Ysgol Dyffryn Aman, y gwasanaethau brys a’r gymuned ehangach yn ystod yr amser eithriadol o bryderus yma,” meddai.

Dywed Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod ei “feddyliau gyda holl staff a disgyblion yr ysgol”, a’i fod yn “diolch i’r gwasanaethau brys am eu gwaith”.

Mae Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi mynegi ei “sioc”, gan ddiolch i’r gwasanaethau brys a dweud bod ei “feddyliau gyda phawb sydd wedi cael eu heffeithio”.

Galw am ymchwiliad

Yn y cyfamser, mae Eluned Morgan wedi galw am ymchwiliad i’r digwyddiad.

“Dw i’n drist iawn ac mewn sioc yn sgil y newyddion am y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman,” meddai’r Ysgrifennydd Iechyd.

“Mae fy meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u hanafu a’u teuluoedd a phawb gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad brawychus hwn.

“Mae diogelwch a lles myfyrwyr a staff yn hollbwysig, ac mae unrhyw ddigwyddiad treisgar o fewn ein hysgolion yn gwbl annerbyniol.

“Rwy’n annog yr awdurdodau lleol i ymchwilio’r mater hwn yn drylwyr, a sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu cymryd i atal y fath ddigwyddiadau rhag digwydd eto.”