Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud yn gyhoeddus am y tro cyntaf fod Llywodraeth Cymru’n cefnogi cadoediad yn Gaza.
Wrth ymateb i alwadau Plaid Cymru yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 23), dywedodd Vaughan Gething mai safbwynt Llywodraeth Cymru “ers peth amser” yw y dylid cael cadoediad ar unwaith.
Fe wnaeth Plaid Cymru gynnal dadl flaenorol ar Dachwedd 8 y llynedd yn galw am gadoediad.
Er bod y Senedd wedi pasio’r cynnig hwnnw, fe wnaeth Cabinet Llywodraeth Cymru ymatal rhag pleidleisio, gan gynnwys y Prif Weinidog newydd.
Peredur Owen Griffiths, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru, gododd y mater y tro hwn, wrth holi am gefnogaeth i deuluoedd y rhai yng Nghymru sydd wedi colli anwyliaid yn y gwrthdaro.
Mae o leiaf 30,000 o bobol wedi marw yn Gaza, wedi i Israel ymateb i ymosodiad grŵp militaraidd Hamas ar y wlad ar Hydref 7.
‘Croesawu’r sylwadau’
Yn rhan o’i gwestiwn, gofynnodd Peredur Owen Griffiths, a yw Vaughan Gething bellach yn cytuno â’r aelodau ar feinciau Plaid Cymru mai cadoediad ar unwaith yw’r “unig ffordd o sicrhau diwedd i’r colli gwaed, ar gyfer dychwelyd y gwystlon, a rhoi stop ar y newyn a welwn yn Gaza?”
Atebodd y Prif Weinidog gan ddweud ei bod hi wedi “bod yn safbwynt Llywodraeth Cymru ers peth amser y dylid cael cadoediad ar unwaith”.
“Mae Llafur – ar lefel y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru – wedi mwydro ac wedi tincera â geiriad cynigion seneddol gafodd eu cyflwyno gan Blaid Cymru ac eraill,” meddai Peredur Owen Griffiths wedyn.
“Rydym yn croesawu sylwadau’r Prif Weinidog yn y Senedd fod angen cadoediad ar unwaith yn Gaza, ond mae ei honiad mai hyn oedd safbwynt y Llywodraeth “ers peth amser” wedi ein drysu.
“Rwyf i – a llawer o ymgyrchwyr gwrth-ryfel – wedi methu’r honiad blaenorol hwn gan Lywodraeth Cymru fod angen cadoediad ar unwaith, a byddwn yn gwerthfawrogi eglurder ynghylch pryd y gwnaed hyn.
“Rydyn ni’n gwybod fod holl weinidogion Llywodraeth Cymru wedi ymatal pan roddodd Plaid Cymru gyfle iddyn nhw ym mis Tachwedd i gefnogi cadoediad ar unwaith yn Gaza.
“Ers hynny, mae dros 30,000 o Balestiniaid diniwed yn Gaza wedi cael eu lladd, llawer ohonyn nhw mewn ysbytai ac ysgolion sydd wedi’u bomio.
“Mae cymaint o isadeiledd wedi’i ddinistrio, ynghyd â llawer o safleoedd o arwyddocâd diwylliannol.”
Ychwanega fod y rhyfel yn cael effaith yng Nghymru hefyd, a bod angen i bobol sydd wedi colli perthnasau yn Gaza ac yn ystod ymosodiad Hamas dderbyn cefnogaeth gan y llywodraeth.
“O ystyried bod pawb wedi colli datganiad o gefnogaeth ar gyfer cadoediad ar unwaith gan Lywodraeth Cymru, mae’n hanfodol bod datganiad diamwys yn cael ei gyhoeddi ar frys ganddyn nhw, i ychwanegu pwysau at y gymuned ryngwladol gynyddol sy’n cael ei chythruddo gan y farwolaeth a’r dinistr sy’n mynd rhagddo yn Gaza,” meddai.