Mae Cyngor Cernyw yn pwyso am yr un warchodaeth i’r Gernyweg ag sydd gan y Gymraeg, yr Wyddeleg ac Albaneg.

Daw’r alwad ddeng mlynedd ers i Gernyw gael ei chydnabod yn lleiafrif cenedlaethol dan Fframwaith y Confensiwn Gwarchod Lleiafrifoedd Cenedlaethol.

O dan y fframwaith, daeth cydnabyddiaeth i hawl pobol yng Nghernyw i fynegi, cadw, rhannu a datblygu eu diwylliant a’u hunaniaeth.

Ehangu’r Siarter

Y Gernyweg yw’r unig iaith Geltaidd yng ngwledydd Prydain sydd heb warchodaeth Siarter Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol Ewrop.

Mae pum arweinydd Cyngor Cernyw, sy’n cynrychioli’r 87 cynghorydd, wedi llofnodi llythyr yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ehangu rhan o’r Siarter er mwyn cynnwys y Gernyweg.

Aeth 22 o flynyddoedd heibio bellach ers i’r Llywodraeth gydnabod y Gernyweg yn rhan o Ran II (Erthygl 7) y Siarter, ac fe fu rhywfaint o adfywiad yn yr iaith dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae 8,000 o blant cynradd wedi bod yn rhan o gynllun iaith ysgolion cynradd gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Cernyw, ac mae cannoedd o oedolion bellach yn derbyn gwersi Cernyweg hefyd.

‘Cadw’r iaith ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol’

Mae Pol Hodge, Archdderwydd Gorsedh Kernow, yn dweud bod yr “iaith yn rhan mor bwysig” o hunaniaeth ddiwylliannol Cernyw, a bod “rhaid ei chadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol”.

“Mae gwaith enfawr wedi’i wneud i hyrwyddo’r Gernyweg, ac mae’n wych gweld bod mwy a mwy o bobol, yn blant ac yn oedolion, yn ei chofleidio,” meddai.

“Felly, ar y diwrnod rydym yn dathlu degfed pen-blwydd dynodi statws lleiafrif cenedlaethol i Gernywiaid, rydym yn galw ar y Llywodraeth i ddynodi’r un statws i’r Gernyweg ag sydd gan yr ieithoedd Celtaidd eraill.”