Mae’n “bryder” ac yn “syndod” na fydd Prifysgol Aberystwyth yn parhau i gynnig cyrsiau ymarfer dysgu, yn ôl cyn-fyfyriwr.
Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, cafodd myfyrwyr wybod fod y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn dod i ben, ac mae Prifysgol Aberystwyth bellach wedi cadarnhau hynny.
Fydd y cwrs ddim yn cael ei gynnig o fis Medi, ar ôl i Gyngor y Gweithlu Addysg beidio ailachredu’r rhaglen.
Fe wnaeth Heledd Evans, sydd bellach yn gweithio fel athrawes uwchradd, ddilyn y cwrs TAR ddwy flynedd yn ôl, ac mae ganddi bryderon fod dod â’r cwrs i ben yn effeithio ar hygyrchedd cyrsiau ymarfer dysgu.
“Does dim dwywaith fod y newyddion yn y penawdau ynglŷn â dod â’r cwrs TAR yma ym Mhrifysgol Aberystwyth i ben wir wedi bod yn syndod,” meddai wrth golwg360.
“Pan oeddwn i yn y brifysgol yn Aberystwyth yn astudio BA Cymraeg a Drama, roeddwn i mewn tŷ o wyth.
“Fe wnaeth chwech ohonom ni fynd ymlaen i astudio cwrs TAR drwy gyfrwng y Gymraeg, a’r mwyafrif ohonom ym Mhrifysgol Aberystwyth.
“Mae hygyrchedd y cwrs bellach yn mynd i leihau o ganlyniad i’r cwrs yma’n dod i ben.
“Mae e’n codi’r cwestiwn, beth ydy dyfodol ein darpar fyfyrwyr addysg ni os ydy hygyrchedd y cwrs yn lleihau’n sylweddol?
“Mae gymaint o gyn-fyfyrwyr Aberystwyth yn parhau gyda’u hastudiaethau yn Aberystwyth oherwydd cyfleustra’r cwrs, a bellach bydd rhaid i’r myfyrwyr sydd yno nawr fynd i edrych ymaith er mwyn gallu parhau gyda’r bwriad o astudio cwrs TAR.
“Efallai y bydd rhai yn penderfynu mai newid trywydd gyrfa ydy’r unig opsiwn o ganlyniad i’r lleihad mewn hygyrchedd.”
‘Gwneud i mi bryderu’
Ychwanega Heledd Evans ei bod hi wedi mwynhau bob eiliad o’r cwrs, a bod cefnogaeth tiwtoriaid wedi bod yn gymorth mawr iddi.
“Fydden i wedi argymell unrhyw un i ddilyn cwrs TAR Aberystwyth yn dilyn fy mhrofiad i,” meddai.
“Mae’n drueni na fyddaf yn gallu awgrymu’r cwrs yma bellach i fyfyrwyr.
“Efallai y bydd hyn yn golygu bod yna leihad i’n darpar athrawon ni.
“Mae’n gwneud i mi bryderu, os rhywbeth, ynglŷn â dyfodol y cwrs TAR ar draws Cymru, a dyfodol athrawon cyfrwng Cymraeg, felly rhaid i ni fyw mewn gobaith bod yna gefnogaeth am gael ei gynnig mewn mannau eraill, a bod y myfyrwyr oedd yn bwriadu astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn mynd i edrych tu hwnt ar gyrsiau TAR eraill, yn hytrach na phenderfynu rhoi’r gorau i’w breuddwyd neu eu bwriad o fod yn athrawon a dilyn ryw lwybr arall.”
@golwg360 Ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, cafodd myfyrwyr wybod fod y cwrs TAR (Tystysgrif Addysg i Raddedigion) yn dod i ben, ac mae Prifysgol Aberystwyth bellach wedi cadarnhau hynny 📚 Fydd y cwrs ddim yn cael ei gynnig o fis Medi, ar ôl i Gyngor y Gweithlu Addysg beidio ailachredu’r rhaglen. 🧑🏫 Dyma Heledd Evans, sydd bellach yn gweithio fel athrawes uwchradd, ar ôl dilyn y cwrs TAR ddwy flynedd yn ôl, yn trafod ei bryderon fod dod â’r cwrs i ben yn effeithio ar hygyrchedd cyrsiau ymarfer dysgu. #cymru #prifysgol #aberystwyth #teaching
‘Dim effaith ar fyfyrwyr presennol’
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cadarnhau’r cyhoeddiad mewn datganiad.
“Yn sgil penderfyniad Cyngor y Gweithlu Addysg i beidio ail-achredu’r rhaglen TAR sy’n cael ei darparu gan Bartneriaeth Addysg Gychwynnol Addysg Aberystwyth ni fydd y Brifysgol yn cynnig cyrsiau TAR o ddiwedd y flwyddyn academaidd hon ymlaen,” meddai llefarydd ar ran y brifysgol.
“Ni fydd y penderfyniad yn cael effaith ar astudiaethau na chymwysterau’r myfyrwyr TAR presennol.
“Fe fydd ein Hysgol Addysg yn parhau i gynnal amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys graddau israddedig mewn Astudiaethau Plentyndod ac Addysg, cyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus i athrawon ar lefel graddau Meistr, a graddau ymchwil mewn Addysg.
“Mae ein hacademyddion hefyd ynghlwm ag ymchwil pwysig mewn meysydd pwysig fel iechyd a llesiant, datblygu’r cwricwlwm, polisïau addysg cenedlaethol a lleol, Deallusrwydd Artiffisial ac addysg cyfrwng Cymraeg.”
Bydd eu Prosiect Ymholi Proffesiynol Cenedlaethol gydag ysgolion yn parhau fel arfer, meddai’r llefarydd.