Mae Ysgrifennydd Economi newydd Cymru wedi amlinellu ei flaenoriaethau yn wyneb cynnydd sylweddol mewn diffyg gweithgarwch economaidd a chwymp mewn cyflogaeth o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Amlinellodd Jeremy Miles ei nod o wneud Cymru y lle gorau i ddechrau, buddsoddi a thyfu busnes drwy wella cynhyrchiant, denu buddsoddiad ac ailddylunio cefnogaeth sgiliau.

Mewn datganiad i’r Senedd ddoe (dydd Mawrth, Ebrill 23) ynghylch ei weledigaeth economaidd, dywedodd Jeremy Miles mai cynyddu cynhyrchiant a dynamiaeth economaidd fydd ei brif flaenoriaeth.

Dywedodd wrth y Siambr mai ei ail flaenoriaeth fydd denu ac annog buddsoddiad busnes, o ran busnesau hirsefydledig yng Nghymru a buddsoddwyr newydd.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi mai ei drydedd flaenoriaeth yw ailddylunio cefnogaeth cyflogadwyedd a sgiliau, gan sicrhau bod blaenoriaethau economaidd, prentisiaethau ac addysg alwedigaethol wedi’u halinio.

Fodd bynnag, rhybuddiodd Aelodau o’r Senedd o’r gwrthbleidiau fod economi Cymru’n tanberfformio, ac fe wnaethon nhw annog Llywodraeth Cymru i osod targedau cadarn er mwyn mesur llwyddiant.

‘Trwsgl’

Fe wnaeth Jeremy Miles, sydd hefyd yn gyfrifol am ynni, rybuddio bod cyfyngiadau ariannol parhaus, ynghyd ag ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar lefel y Deyrnas Unedig, yn gwneud y nodau’n fwy heriol.

“Mae gwaddol yr ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd, y pandemig a chyfyngiadau parhaus o ran y gyllideb wedi gwanhau’r economi,” meddai.

“Mae arafwch cynhyrchiant y Deyrnas Unedig wedi cael effaith ar allbwn, cyflogau ac incwm aelwydydd, ac roedd yr anghydraddoldebau hyn eisoes yn fwy aciwt yng Nghymru cyn hyn.”

Fe wnaeth y cyn-Weinidog Addysg, sydd wedi cadw ei gyfrifoldeb dros y Gymraeg, feirniadu dull ‘trwsgl’ Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, tuag at y diwylliant nodyn salwch honedig.

Fe wnaeth Jeremy Miles ddisgrifio dulliau Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ostwng nifer y bobol sy’n cael eu hesgusodi o’r gwaith fel ffordd giaidd o fynd i’r afael â her gymhleth iawn.

‘Syfrdanol’

Fe wnaeth Samuel Kurtz, llefarydd economi newydd y Ceidwadwyr Cymreig, godi pryderon ynghylch tueddiadau pryderus o ran diffyg gweithgarwch economaidd a chyflogaeth.

Dywedodd wrth y Siambr fod ystadegau’n dangos bod cyfradd diweithdra Cymru 60% yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig yn ystod y tri mis hyd at fis Chwefror.

Fe wnaeth y Tori godi pryderon am gyfradd diffyg gweithgarwch economaidd “syfrdanol” o 26.2%, sydd bron i 27% yn uwch na chyfartaledd y Deyrnas Unedig, meddai, ac sy’n codi dair gwaith yn gynt.

Fe wnaeth Samuel Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro, alw ar Ysgrifennydd yr Economi i gyflwyno targedau creu swyddi.

Dywedodd y dylai fod yn destun cywilydd i Lywodraeth Cymru fod gweithwyr Cymru, ers amser hir, wedi mynd adref â llai o arian na’u cydweithwyr yn unman arall yn y Deyrnas Unedig.

‘Bys yn yr awyr’

Dywedodd Luke Fletcher ar ran Plaid Cymru fod sectorau ar draws yr economi wedi bod yn galw am strategaeth ddiwydiannol gynhwysfawr ac ystyrlon.

Fe wnaeth Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru ddisgrifio datganiad Ysgrifennydd yr Economi fel “rhestr o nwyddau economaidd y byddai’r llywodraeth yn hoffi eu gweld yng Nghymru, yn ei hanfod”.

“Ond does dim cynllun cadarn ynghylch sut y bydd y nwyddau hyn yn cael eu cyflwyno, dim map ffordd, dim marcwyr ar hyd y ffordd, a dim synnwyr yn benodol o ben draw’r daith.”

Fe wnaeth y llefarydd economaidd godi pryderon am brinder sgiliau yn y sector gwyrdd, gan alw am gydweithio agosach â darparwyr addysg bellach.

“Ar hyn o bryd, mae’n fater o roi eu bys yn yr awyr, gweld pa ffordd mae’r gwynt yn chwythu, a gobeithio am y gorau,” meddai.

“Dydy hynny ddim yn fy llenwi â llawer o obaith.”

Tata

Dywedodd Jeremy Miles wrth Aelodau’r Senedd mai’r posibilrwydd o golli swyddi yn Tata yw’r pryder amlycaf o hyd, gan addo y bydd Llywodraeth Cymru’n gwneud popeth o fewn eu gallu i warchod swyddi a’r diwydiant dur.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi fod etholiad cyffredinol yn cynnig posibilrwydd go iawn o bolisi economaidd gwell a thecach gan Lywodraeth newydd y Deyrnas Unedig.

Galwodd Sam Kurtz ar Lywodraeth Cymru i gadarnhau a ydyn nhw wedi rhoi unrhyw gefnogaeth ariannol sydd ar gael i fwrdd trawsnewid Port Talbot gwerth £100m gafodd ei sefydlu gan weinidogion y Deyrnas Unedig.

Yn y cyfamser, fe wnaeth Luke Fletcher annog Ysgrifennydd yr Economi i edrych ar ddefnyddio’r system gynllunio i warchod dyfodol y ffwrneisi chwyth.

Pwysleisiodd Jeremy Miles fod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi Tata drwy fuddsoddiad cyfalaf a chefnogaeth sgiliau ers nifer o flynyddoedd.

“Rydyn ni wedi bod yn pwyso ers 14 mlynedd ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gymryd dyfodol dur o ddifrif, a chynllunio ar gyfer trawsnewid tuag at gynhyrchu gwyrddach,” meddai.