Mae Cyngor Merthyr Tudful yn cynnig ehangu addysg Gymraeg yn y sir drwy greu llefydd ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Mae’r awdurdod lleol yn cynnal ymgynghoriad ar y syniad y gall Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug sefydlu canolfan adnoddau dysgu i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg.

Ar hyn o bryd, mae gan y Cyngor 13 o ganolfannau adnoddau dysgu drwy gyfrwng y Saesneg mewn ysgolion cynradd prif ffrwd ar draws y sir, gan gynnig llefydd ar gyfer hyd at 136 o ddisgyblion, ac mae’r capasiti hwn wedi cynyddu dros y ddwy flynedd ddiwethaf wrth i fwy o ddisgyblion gael eu cyfeirio ar gyfer llefydd.

Ar hyn o bryd, dydy’r un ddarpariaeth ddim ar gael mewn ysgolion cynradd Cymraeg.

Mae disgyblion ysgolion Cymraeg yn cyfrif am oddeutu 12.5% o’r cyfanswm mewn addysg gynradd yn sir, felly byddai’n rhesymol disgwyl cyflenwad cyfatebol pro-rata o lefydd mewn canolfannau i ddisgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, yn ôl dogfen yr ymgynghoriad.

Strategaeth

Mae Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2022-32 y Cyngor yn nodi’r nod o sefydlu canolfan adnoddau dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgol gynradd brif ffrwd er mwyn cynyddu a gwella’r ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ac i ddarparu cynnig teg ar gyfer addysg.

Mae’r Cyngor yn cynnig sefydlu canolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug i ddeuddeg o ddisgyblion Derbyn hyd at Flwyddyn 6 sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Byddai’n darparu ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol sydd angen bod mewn dosbarth arbenigol, gan ddarparu ar gyfer ystod o anghenion.

Bydd y dosbarth yn cynnig opsiynau tymor byr a hirdymor er budd holl deuluoedd disgyblion sy’n dymuno derbyn addysg Gymraeg, ond sydd angen cefnogaeth benodol ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn amgylchedd sy’n briodol a diogel, medd dogfen yr ymgynghoriad.

Dywed na fydd unrhyw effaith andwyol ar ddarpariaeth brif ffrwd yr ysgol.

Bydd y ganolfan adnoddau dysgu o fewn yr ysgol, a hynny yn ei hardal ei hun.

Bydd llai o ddisgyblion yn y dosbarth nag sydd mewn dosbarth prif ffrwd, a bydd cymhareb uwch o ran oedolion i bob disgybl.

Ethos y ganolfan adnoddau dysgu yw darparu cefnogaeth arbenigol i’r disgybl unigol yn seiliedig ar lefel ei anghenion, gyda’r bwriad mewn rhai achosion o ailintegreiddio’r unigolyn yn ôl mewn dosbarth prif ffrwd, lle bo hynny’n briodol.

Bydd derbyn a gadael y ganolfan adnoddau dysgu’n cael ei benderfynu gan banel anghenion dysgu ychwanegol y Cyngor, sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod unigolion unigol sydd wedi cael eu cyfeirio ar gyfer darpariaeth arbenigol.

Byddai’r dosbarth yn cael ei sefydlu o fis Medi 2025.

Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug

Ysgol Gymraeg tair i unarddeg oed yw Ysgol Gymraeg Rhyd y Grug, ac mae’n cael ei chynnal a’i chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, sy’n gwasanaethu de’r sir ac sydd wedi’i leoli yn Aberfan.

Ar hyn o bryd, mae’n ysgol gynradd mynediad un ffurf ar hyn o bryd, ac mae ganddi gapasiti ar gyfer 288 o ddisgyblion oed ysgol statudol, a nifer mynediad o 40.

Mae yna ddosbarth meithrin hefyd, sy’n gallu derbyn 49 o ddisgybloin cyfatebol llawn amser, gan gynnwys dosbarth cyn-feithrin bob mis Ionawr a mis Ebrill yn rhan amser.

Mae’r Cyngor wedi sicrhau arian grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru er mwyn ehangu maint capasiti’r ysgol i 329, cynyddu nifer y derbyniadau i 47, a gwneud yr ysgol yn fynediad 1.5 er mwyn tyfu cyflenwad llefydd cynradd Cymraeg drwyddi draw.

Bydd hyn hefyd yn galluogi’r ysgol i gynnal 63 o lefydd meithrin cyfatebol llawn amser, gyda lle i 47 o ddisgyblion llawn amser bob mis Medi, a 32 o ddisgyblion rhan amser ychwanegol bob mis Ionawr a mis Ebrill.

Yn rhan o’r prosiect grant cyfalaf, mae’r Cyngor wedi sicrhau arian i ddatblygu dosbarth canolfan adnoddau dysgu yn yr ysgol.

Mae’r Cyngor hefyd wedi sicrhau arian grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu cyfleuster ystafell gymunedol a chyd-leoli darpariaeth gofal plant Cylch Meithrin yn yr ysgol.

Bydd y prosiect i gynyddu capasiti’r ysgol, datblygu gofod dosbarth canolfan adnoddau dysgu, a darparu ystafell gymunedol a chyfleuster gofal plant Cylch Meithrin yn cael ei gyflwyno fel prosiect unigol gan ddefnyddio arian Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfnod ymgynghori yn para tan Fehefin 2.