Mae’n rhaid newid proses ddisgyblu’r heddlu mewn ymateb i achosion mewnol yn Heddlu Gwent dros y blynyddoedd diwethaf, yn ôl un ymgeisydd yno i fod yn Gomisiynydd nesa’r llu.
Mae Hannah Jarvis, yr ymgeisydd Ceidwadol, yn dweud bod tua 80% o sgrysiau ar y stepan ddrws yn ymwneud â diolgelwch menywod.
Mae Heddlu Gwent yn un o nifer o heddluoedd yng ngwledydd Prydain sydd wedi bod o dan y chwyddwydr yn sgil honiadau o hiliaeth a rhywiaeth.
“Mae yna ambell sgandal wedi dod i’r brig, yn enwedig i wneud â chamymddwyn rhywiol ac o gwmpas diogelwch menywod,” meddai wrth golwg360.
“Fel dynes a mam i blentyn sydd yn ddeg mlwydd oed, rwy’n teimlo’n gryf iawn bod rhaid newid y broses ddisgyblu o fewn yr heddlu yma yng Ngwent.
“Mae tua 80% o fy sgyrsiau ar stepen y drws yn canolbwyntio ar destun diolgelwch menywod.
“Mae’n rhaid mabwysiadu ymagwedd llawer mwy cadarn a phendant yn y dyfodol.
“Rwyf hefyd yn teimlo fod y ffordd mae’r heddlu wedi trin dioddefwyr ddim yn ddigon da, a ddim wedi ffocysu digon ar y dioddefwr.
“Oherwydd hyn, mae canfyddiad a hyder y cyhoedd yn ein heddluoedd wedi gostwng.
“Dw i ddim yn dweud hyn fel ffordd o bardduo’r heddlu yn gyfan gwbl, oherwydd mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw yn gweithio’n galed iawn mewn amgylchiadau anodd.”
Bydd y Comisiynydd newydd ar gyfer Heddlu Gwent, fydd yn cael ei ethol ar Fai 2, yn cydweithio â Phrif Gwnstabl newydd, ar ôl i Pam Kelly gyhoeddi ei bod hi am ymddeol yn fuan.
‘Mwy o atebolrwydd’
Yn rhan o swydd Comisiynwyr Heddlu yng ngwledydd Prydain, mae’n rhaid cyhoeddi Cynllun Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal, sydd yn gorfod cael ei gytuno gan y Comisiynydd a’r Prif Gwnstabl.
Yn ôl Hannah Jarvis, bydd atebolrwydd i’r bobol ar frig ei hagenda hi pe bai’n llwyddianus yn yr etholiad.
“Mae Comisiynwyr Heddlu weithiau wedi ymwneud mwy efo delwedd yr heddlu, yn hytrach na mynd i’r afael â phroblemau yn uniongyrchol,” meddai.
“O fy safbwynt i, os bydda i’n cael fy ethol, rwy’n cytuno bod rhaid cael mwy o atebolrwydd, ac mi fydda i’n gwneud hyn drwy gael polisi drws agored gyda’r gymuned.
“Dw i o’r farn bod cael Comisiynwyr Heddlu yn syniad da, oherwydd eu bod nhw’n gallu cadw Prif Gwnstabliaid i gyfrif ar ran yr etholaeth sy’n eu hethol nhw.”