Bydd ymgeiswyr o bedair plaid wleidyddol yn brwydro i gael eu hethol yn Gomisiynydd Heddlu a Throsedd nesaf Gwent.

Mae’r Comisiynydd, sydd â’r pwerau i gyflogi a diswyddo’r Prif Gwnstabl, yn gyfrifol am oruchwylio Heddlu Gwent ac, ar y cyd â’r Prif Gwnstabl, am osod blaenoriaethau plismona’r ardal.

Bydd yn rhaid i’r Comisiynydd newydd benodi Prif Gwnstabl newydd, ar ôl i Pam Kelly gyhoeddi ei bwriad fis Mawrth i ymddeol eleni, a chydweithio â’r Comisiynydd newydd i benodi ei holynydd.

Cafodd Jeff Cuthbert, y Comisiynydd presennol, ei ethol ar ôl bod yn ymgeisydd Llafur yn etholiadau 2016.

Cadwodd e’r sedd, ac yntau unwaith eto’n ymgeisydd Llafur, yn yr etholiadau diwethaf yn 2021, ond roedd eisoes wedi cyhoeddi na fyddai’n ceisio cael ei ailethol eleni.

Camodd e o’r neilltu am gyfnod yn gynharach eleni o ganlyniad i salwch, ond mae bellach wedi dychwelyd at ei ddyletswyddau.

Yr ymgeiswyr

Mae Llafur am gyflwyno Jane Mudd, arweinydd presennol Cyngor Dinas Casnewydd, fel eu hymgeisydd i olynu Jeff Cuthbert.

Mae’r ymgeiswyr eraill i gyd yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol amrywiol, sef Donna Cushing (Plaid Cymru), Mike Hamilton (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) a Hannah Jarvis (Ceidwadwyr) sy’n cael ei disgrifio yn ei disgrifiad swyddogol fel “Ymgeisydd Ceidwadol – Rhagor o Heddlu, Strydoedd Mwy Diogel”.

Bydd yr etholiadau’n cael eu cynnal ar Fai 2, ac o ganlyniad i newid yn y gyfraith, bydd angen dull o adnabod, er enghraifft pasbort neu drwydded yrru, er mwyn pleidleisio wyneb yn wyneb.

Yn y rownd olaf ar ôl cyfri’r pleidleisiau yn etholiadau 2021, roedd gan Jeff Cuthbert 92,616 o bleidleisiau, tra bod y Ceidwadwr Hannah Jarvis wedi ennill 60,536 o bleidleisiau.