Mae darpar Taoiseach (prif weinidog) Iwerddon wedi datgan ei fwriad i ddysgu Gwyddeleg, gan gyfeirio at Gymru a’r Gymraeg fel enghraifft dda o sut i hybu iaith.

Simon Harris, arweinydd newydd plaid Fine Gael, fydd yr arweinydd nesaf, ac mae eisoes wedi cael ei holi am y ffaith nad yw’n medru’r iaith ar hyn o bryd.

Ond mae’n dweud bod y “cwestiwn yn deg iawn”.

“Does gen i fawr o Wyddeleg, a dw i’n onest iawn mewn perthynas â hynny,” meddai wrth y wasg.

“Dw i’n sicr yn bwriadu gwella’n sylweddol o ran hynny.”

Dywed ei fod e wedi cael cynnig “caredig iawn” gan fudiad Conradh na Gaeilge i’w gefnogi ar ei daith iaith.

Ymrwymiad

Er nad yw’n medru’r iaith ar hyn o bryd, dywed Simon Harris na ddylid dehongli hynny fel diffyg ymrwymiad i’r Wyddeleg ganddo fe na’i lywodraeth.

Dywed fod angen “gwneud llawer iawn mwy” i hyrwyddo’r iaith, gan gyfeirio at Gymru fel esiampl i’w dilyn.

Yn 2017, aeth Leo Varadkar ati i gwblhau cwrs Gwyddeleg, gan dderbyn tystysgrif am ei ymdrechion.