Bydd trigolion yn y gogledd yn gorymdeithio trwy ganol tref y Rhyl ddydd Sadwrn (Ebrill 13), dros heddwch ym Mhalestina.

Yn ôl y trefnwyr, bwriad yr orymdaith yw codi ymwybyddiaeth a chreu “llais unedig dros heddwch” er mwyn galw am gadoediad parhaol yn Gaza.

Bydd y digwyddiad yn dechrau yng Ngorsaf y Rhyl am 11.15yb.

Bydd yr orymdaith yn cychwyn am 11.30yb, a bydd aelodau’r cyhoedd yn cerdded ar hyd Stryd Fawr y Rhyl, cyn gwneud eu ffordd i Arena Digwyddiadau’r Rhyl ar y Promenâd i wrando ar siaradwyr gwadd.

Llais unedig dros heddwch

Dros y pum mis diwethaf, mae grwpiau o Gaernarfon i Langollen wedi bod yn protestio dros gadoediad ym Mhalestina, gan annog arweinwyr lleol i gynrychioli eu barn o fewn cynghorau, y Senedd, a San Steffan.

“Ar draws gogledd Cymru, rydyn ni wedi gweld grwpiau bach yn dod at ei gilydd ac yn dod â chymunedau at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth o’r sefyllfa ym Mhalestina,” meddai Catherine Platt, cadeirydd Lleisiau Heddwch Prestatyn:

“Mae’r grwpiau yma wedi arwain gorymdeithiau heddychlon a demos, er mwyn ymgyrchu dros gadoediad ac i ddod â’r gwrthdaro ofnadwy yma i ben.

“Nawr mae’r grwpiau yma’n dod at ei gilydd ar gyfer demo ar draws gogledd Cymru, i godi ymwybyddiaeth a llais unedig dros heddwch.

“Rydym yn croesawu holl drigolion yr ardal i ymuno â’n gorymdaith, waeth beth fo’u hoedran, ethnigrwydd, crefydd a chredoau gwleidyddol”.

‘Amodau’n gwaethygu’

“Mae’r amodau ym Mhalestina yn gwaethygu, gyda dinasyddion bellach yn wynebu newyn yn ogystal â bygythiad uniongyrchol o ymosodiad,” meddai Anna Jane Evans, o Grŵp Cynllunio gwylnos Caernarfon.

“Rydym yn galw am gadoediad parhaol, yn ogystal â rhyddhau’r gwystlon sy’n cael eu cadw yn Gaza ar unwaith a phawb sy’n cael eu cadw dan glo gweinyddol yng ngharchardai Israel.”

Yn ôl Libby Nolan, cyd-gadeirydd Stop the War Cymru, “mae’r farwolaeth a’r dinistr yn parhau yn Gaza ac mae’n rhaid i ni ddyblu ein hymdrechion am gadoediad parhaol ar unwaith, ac i ddod â’r feddiannaeth i ben ac am heddwch parhaol”.

“Mae’r protestiadau byd-eang enfawr yn erbyn y lladd yn Gaza yn cael effaith ar farn y cyhoedd a gweithredu gwleidyddol.

“Mae’n rhaid gorfodi pleidlais cyngor diogelwch y Cenhedloedd Unedig dros gadoediad nawr a rhaid rhoi mynediad diogel i bobol newynog Gaza.”

Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “anwybyddu troseddau rhyfel”

Yn ôl Paul Penlington, cyn-gynghorydd Plaid Cymru dros ogledd Prestatyn, mae diffyg cydnabyddiaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig o lythyr diweddar gan aelodau seneddol yn galw arnyn nhw i roi’r gorau i werthu arfau i Israel yn eu gwneud nhw’n “rhan o’r hil-laddiad” yn Gaza.

“Mae gweithredoedd hunanladdol llywodraeth Israel wedi achosi marwolaethau torfol ac anafiadau, ac erbyn hyn mae miliynau yn wynebu newyn,” meddai.

“Nid yw babanod ym Mhalestina bellach yn wylo dagrau, gan eu bod yn marw o ddadhydradu.

“Er gwaethaf hyn, mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i gyflenwi arfau i Israel ac anwybyddu troseddau rhyfel.

“Cafodd llythyr diweddar wedi ei arwyddo gan lond llaw o aelodau seneddol ac arglwyddi yn galw ar y llywodraeth i roi’r gorau i werthu arfau ei anwybyddu gan y Cabinet a’r Cabinet cysgodol.

“Mae penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wrthod gweithredu yn eu gwneud nhw’n rhan o’r hil-laddiad.

“Mae’n amser am gamau pendant i atal y trychineb hwn.”