Caerfyrddin fydd lleoliad yr orymdaith annibyniaeth nesaf.

Mae YesCymru a Pawb Dan Un Faner Cymru (AUOB Cymru) wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei chynnal ar Fehefin 22.

Dyma’r tro cyntaf i orymdaith o’r fath gael ei chynnal yn hen sir Dyfed, ac mae Caerfyrddin yn cael ei hychwanegu at restr o leoliadau sy’n cynnwys Caernarfon, Merthyr Tudful, Wrecsam, Bangor, Abertawe a Chaerdydd.

Mae gofyn i’r rhai sydd eisiau bod yn rhan o’r orymdaith ymgynnull ym Mharc Caerfyrddin am 11yb, a bydd yr orymdaith yn dechrau am 1yp, gydag unigolion a theuluoedd yn cael eu hannog i ddod â baneri, chwibanau a drymiau gyda nhw.

‘Rhan flaenllaw yn hanes Cymru’

“Mae tref Caerfyrddin a Sir Gâr wedi chwarae rhan flaenllaw yn hanes Cymru o gyfnod y Llyfr Du i ethol aelodau seneddol radicalaidd oedd am herio a gwella’r broses ddemocrataidd,” meddai Gaynor Jones ar ran YesCymru.

“Tref annibynnol ei meddwl yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer yr orymdaith Annibyniaeth nesaf.

“Dydy’r drefn gyfansoddiadol bresennol yn amlwg ddim yn gweithio.

“Byddwn ni’n croesawu pawb sydd eisiau Cymru annibynnol, a rheiny sydd eisiau gwybod mwy i gyd-gerdded gyda ni ar Fehefin 22.”

‘Arddangosiad pwerus o benderfyniad pobol Cymru’

“Mae’r Orymdaith dros Annibyniaeth sy’n dod i Gaerfyrddin yn argoeli i fod yn arddangosiad pwerus o benderfyniad pobl Cymru i ymuno â’r teulu byd-eang o genhedloedd annibynnol,” meddai Hedd Gwynfor ar ran AUOBCymru.

“Mae AUOBCymru eisiau Cymru well i bawb, a dyna pam rydyn ni’n ymladd dros annibyniaeth.

“Ymunwch â ni yng Nghaerfyrddin ar Fehefin 22; pawb dan un faner.”

Yn ôl Dylan Phillips, cadeirydd YesCymru Caerfyrddin, “mae ysbryd rhyddid yn gwau drwy hanes y de orllewin fel edefyn arian”.

“Cofiwn am Gwenllïan, ac am Ferched Beca.

“Braint fydd gweld yr orymdaith nesa dros annibyniaeth Cymru yn cael ei chynnal yng Nghaerfyrddin a chroesawn bawb o bob cwr o’r wlad.

“Ymunwch gyda ni ar Fehefin 22 yn nhref chwedloniaeth Myrddin a buddugoliaeth Gwynfor, nid i edrych nôl, ond i edrych ymlaen ac i alw am Gymru decach, Cymru gyfoethocach, Cymru rydd.”

Bydd rhagor o wybodaeth am yr Orymdaith dros Annibyniaeth yng Nghaerfyrddin, gan gynnwys diweddariad a manylion eraill, ar gael yn fuan ar wefannau YesCymru ac AUOBCymru.

Mae modd dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol gan chwilio am hashnodau #yesCymru, #AUOBCaerfyrddin, #indyWales ac #Annibyniaeth.