Dyma gyfres newydd lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Chris Davies o Landrillo-yn-rhos ger Bae Colwyn sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Sgwrs Dan y Lloer, sy’n cael ei chyflwyno gan Elin Fflur.

Mae Chris wedi bod yn dysgu Cymraeg ers yr Hydref 2016. Roedd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn Llyfrgell Bae Colwyn efo Cwrs Wlpan. Mae o newydd orffen lefel Canolradd.


Chris, beth ydy dy hoff raglen ar S4C?

Ar hyn y bryd, fy hoff raglen ydy Sgwrs Dan y Lloer. Dw i wedi ei recordio. Dyma’r gyfres lle mae Elin Fflur yn siarad efo rhai o bobl enwog Cymru o dan y sêr.

Pam wyt ti’n hoffi’r rhaglen?

Mae’n ddiddorol clywed am gefndir pobl enwog Cymru.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynydd?

Mae Elin Fflur yn cyflwyno’r sgwrs yn dda iawn. Ond mae hi’n siarad yn gyflym, wrth gwrs, ac yn chwerthin llawer! Rhaid i mi ddefnyddio is-deitlau o dro i dro.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Wnes i wylio’r rhaglen lle’r oedd Elin Fflur yn siarad efo’r arweinydd Trystan Lewis. Roedd o’n siarad yn glir ac felly roedd yn hawdd ei ddeall.

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Roedd Trystan Lewis yn siarad iaith y gogledd. Ond mae gwesteion o bob rhan o Gymru.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Byswn. Mae’n ddiddorol iawn clywed y gwesteion yn sgwrsio.

Mae Sgwrs Dan y Lloer ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.