Pwy fyddai’n meddwl bod opera yn gallu bod gymaint o hwyl – ac yn enwedig opera sy’n drasiedi!

Yr opera yn yr achos hwn yw Macbeth, a dehongliad carlamus Verdi o ddrama Shakespeare. Bu Opera Canolbarth Cymru yn teithio drwy Gymru gyfan yn ystod mis Mawrth, gan orffen y daith yn Aberhonddu.

Gyda chanu a llwyfannu o’r safon ryngwladol orau bosibl, dyna fraint oedd cael y cyfle anhygoel i fod yn rhan o’r cynhyrchiad. Dros y blynyddoedd, mae tîm bach Opera Canolbarth Cymru wedi ymddiried mewn cantorion lleol ac agor eu drysau iddyn nhw o bryd i’w gilydd. Ar gyfer Macbeth, cafodd cyfle ei roi i unrhyw un ymuno am chwarter awr wefreiddiol fel rhan o gorws y ffoaduriaid, ymhlith y cantorion anhygoel sy’n perfformio’n fyd-eang.

Yn gyntaf, mi wna i sôn am y gwrachod enwog o’r ddrama Macbeth. Roedd chwe gwrach, i gyd wedi’u gwisgo mewn tartan gwyrdd, esgidiau coch llachar, a cholur zombie! Perfformiadau llawn hiwmor a thalent oedd y rhain. Dyma nhw – Erin Fflur, Elen Lloyd Roberts, Rachel Morás, Hazel Neighbour, Siân Roberts a Stephanie Smith. Y gwrthgyferbyniad i’r chwech hynod oedd milwyr a llofruddwyr Macbeth yn eu gwisgoedd du militaraidd, llawn bygythiad â’u glaswenu gwawdlyd – Will Diggle, Steffan Lloyd Owen, Matthew Siveter, Samuel Snowden a Dafydd Allen. Llenwon nhw’r llwyfan efo’u lleisiau a’u cymeriadau hyderus. Y set o’u cwmpas mor syml, ond eto mor effeithiol, ac yn ein atgoffa o gastell barwn Albanaidd wedi’i groesi efo gwallgofdy noeth.

A throi at y prif gymeriadau, y baritôn o Ganada, Jean-Kristof Bouton gymerodd ran y gormeswr Macbeth (ymgartrefodd Jean-Kristof yn y canolbarth dros y daith), ac mi lwyddodd i gyfleu’r emosiynau cymhleth i’r dim, a thôn ei lais yn gyfoethog ac urddasol. Hawliodd Mari Wyn Williams y llwyfan fel yr Arglwyddes Macbeth â’i llais addas a gogoneddus. Dyna fraint hefyd oedd clywed canu anhygoel – yn y coridorau yn ogystal ag ar y llwyfan – Rebecca Afonwy-Jones, Emyr Wyn Jones (Banquo), Robyn Lyn (Macduff), Joseph Buckmaster (Malcolm) a Steffan eto (y Meddyg).

Cyfieithu’r opera

I’m hen glustiau innau, roedd yr ynganiad o’r cyfieithiad carlamus yn arbennig o dda. Er syndod i mi, ac yn ddiddorol, roedd acwstig pob theatr yn amrywio’n sylweddol, ac mae hyn wir yn amlygu’i hun efo canu opera. Heb os, acwstig arbennig y Drwm yn Llanelli oedd yn cipio’r wobr gyntaf.

Ie, mi fyddai cyfieithiad Cymraeg o’r Eidaleg, yn hytrach na Saesneg, wedi bod yn syniad braf. Er hynny, yn y bôn mae’n rhaid i gwmni fel Opera Canolbarth Cymru gael penolau ar seddi, ac mae’n siŵr ei fod yn benbleth parhaol o bwyso a mesur y perygl o golli cynulleidfa ffyddlon yn erbyn y gobaith o ennill un newydd.

Rwyf innau yn edmygwraig weddol newydd o opera, efo fy nghalon ym myd roc, jazz, reggae a gwerin, ond mae’n drueni na chaiff mwy o Gymry eu denu i roi cyfle i’r cyfrwng, pa bynnag iaith yw’r cynhyrchiad. Ryden ni yn dueddol fel Cymry o ladd ar ein hunain ac ar ragoroldeb, ond y gobaith yw y cawn ddarganfod lle i bob math o gerddoriaeth yng Nghymru cyn ei bod yn rhy hwyr!

Er hynny, mae buddugoliaethau cynnil yma i’r iaith Gymraeg. Er enghraifft, mor wefreiddiol ydoedd clywed digonedd o Gymraeg unwaith eto yn Henffordd! Roedd y bar a chaffi’r theatr yn cynnal trafodaeth frwd a chefnogol am yr iaith, y cyhoeddiadau dros y system sain yn ddwyieithog, a chanran uchel o’r cast a’r gymuned tu ôl y llenni yn sgwrsio a chwethin efo’u gilydd yn Gymraeg. Yr un oedd y stori yn Aberdaugleddau, Casnewydd, Wrecsam ac Aberhonddu, yn ogystal â chadarnleoedd yr iaith yn Pontio, Hafren ac Aberystwyth.

Drwyddi draw, dyma brofiad o lawenydd a gorfoledd, ac o gelfyddydau Cymru ar eu gorau. Diolch o’r galon i Richard Studer a Jon Lyness, y Cyfarwyddwyr Artistig a Cherdd; Bridget, Gill â’u tîm bach. Maen nhw i gyd yn brwydro i gadw’r trysor yma i fynd ar gyfer talent ifanc Cymraeg y dyfodol. Mae’n rhaid sôn hefyd, wrth gwrs, am Ensemble Cymru, oedd yn gorfod gweithio mor, mor galed drwy’r Verdi yma. Gwych!

Dyfodol yr opera yng Nghymru

O’r profiad bythgofiadwy hwn, mi ddysgais nad maes elitaidd nac un i’r crachach mo opera, ac yn sicr ddim ymhlith Opera Canolbarth Cymru, lle mae’r traed ar ddaear canolbarth a gogledd Cymru. Heb os nac oni bai, mae opera yn ddilyniant naturiol i rai o’r goreuon ymhlith ein cantorion clasurol yn yr Eisteddfod, ond prin iawn yw’r cyfleon, sy’n diflannu, iddyn nhw ganu yng Nghymru ac yn enwedig tu allan i Gaerdydd neu Landudno.

Y drasiedi yn y pen draw yw fod Cyngor Celfyddydau Cymru wedi difa’r cyllid i Opera Canolbarth Cymru, ac mae ei ddyfodol wir yn y fantol. Os na frwydrwn i gadw cwmni fel hwn i redeg, mi fydd yn gam gwag anferthol i Gymru. Y peryg yw y collwn ein cantorion gorau ar ôl yr holl fuddsoddi cynnar yng Nghymru ac yn ein colegau. Yr unig obaith yw i’r holl rai sydd â dylanwad a grym ym myd cerddorol Cymru sefyll yn gadarn a cheisio gwneud popeth yn eu nerth a’u hadnoddau i ddiogelu dyfodol y trysor anhygoel hwn ar gyfer cantorion ifanc o Gymru gyfan.