Bydd Huw Stephens a Beti George yn cyd-gyflwyno cyfres newydd sbon ar S4C heno (nos Lun, Ebrill 8), wrth iddyn nhw aros mewn llefydd ledled Cymru a sgwrsio dros fwyd.
Bydd y ddau yn ymweld â rhai o lefydd aros a bwyta gorau Cymru, wrth i’r gynulleidfa ddod i’w hadnabod yn well wrth wrando ar eu sgyrsiau dros fwyd.
Mae’r bwyd yn y gyfres yn sicr yn codi glafoer i’r ddau gyflwynydd ac i’r gwylwyr hefyd.
“Dyw menywod fy oedran i ddim fel arfer yn cael cyfle fel hyn; roedd e’n gyfle amheuthun â bod yn gwbwl onest,” meddai Beti George.
“Dim ond Mary Berry a fi sy’n gwneud y pethau yma bellach!
“Roeddwn i’n falch mai Huw oedd fy nghyd-gyflwynydd, achos mae e mor hawdd i fod yn ei gwmni, mae e mor annwyl.
“Roedd yna berthynas dda rhwng y ddau ohonom ni.
“Mae e a’i yrfa fe yn gwbwl wahanol i ‘ngyrfa i; roedd hi’n braf i’w holi fe am hynny a’i fywyd e.
“Wnes i fwynhau ei gwmni ma’s draw, mae’n rhaid dweud.
“Mae fy wyrion Manon a Fin sy’n byw yn Brighton, yn ffans mawr o Huw, felly mae hynny’n neis bo fi’n gallu dweud wrthyn nhw bod fi’n cyd-gyflwyno gyda Huw – roeddwn i wedi cyrraedd y top!”
Y gyfres
Mae’r bennod gyntaf mewn cyfres o chwe phennod yn ymweld â Palé Hall ger y Bala.
Mae Huw Stephens yn aros mewn ystafell sydd wedi’i henwi ar ôl Winston Churchill, a Beti George yn aros mewn ystafell sydd wedi’i henwi ar ôl y Frenhines Victoria.
Dydy’r enwau hyn ddim yn creu argraff ar y ddau.
“A bod yn gwbl onest, does gen i ddim diddordeb yn y teulu brenhinol,” meddai Beti George.
“Fe wrthodais i’r MBE, yn rhannol oherwydd y frenhiniaeth a’r ymerodraeth.
“Mae’n gas gen i feddwl am yr ymerodraeth.”
Mae moethusrwydd y gwesty a’r bwyd, serch hynny, yn taro deuddeg fel y gwna’r holl lefydd mae’r ddau yn ymweld â nhw ar draws Cymru – sydd yn cynnwys Ystâd Penarlâg, Y Grove yn Arberth, Parador 44 yng Nghaerdydd, a’r Albion yn Aberteifi.
Wrth ymweld ag Ynyshir yng Ngheredigion, mae’r ddau yn cael eu cyflwyno â dim llai na 30 o blatiau bwyd, gyda’r chef dwy seren Michelin, Gareth Ward yno i siarad drwyddyn nhw i gyd.
Daw’n amlwg fod Gareth Ward hefyd yn dipyn o ffan o Huw Stephens.
“Wnes i ddim cymryd hir i gytuno i ymweld â gwestai Cymru gyda Beti George, mae’n rhaid fi gyfaddef,” meddai Huw Stephens.
“Mae Beti yn gwmni gwych, roedd e’n hyfryd cael cwmni person mor ddiddorol.
“Roedd pob gwesty yn cynnig rhywbeth gwahanol, pob un yn unigryw.
“Roedd e jyst yn bleser gwneud y rhaglen.”
Cerddoriaeth
Cydymaith ychwanegol ar daith Huw Stephens a Beti George yw’r gerddoriaeth.
Mae dewis gofalus wedi’i wneud, er mwyn sicrhau bod y caneuon yn gweddu i’r lleoliadau arbennig.
Mae rhestr chwarae wedi’i chreu ar Spotify yn arbennig i gyd-fynd â’r gyfres.
“Pob man oedden ni’n mynd, roedd Beti a fi yn awgrymu cerddoriaeth er mwyn ei defnyddio yn y bennod,” meddai Huw Stephens.
“Mae Beti yn ffan enfawr o gerddoriaeth; mae ganddi ddiddordeb mewn cerddoriaeth ac artistiaid newydd.
“Mae’n hyfryd bod cerddoriaeth o Gymru mor bwysig yn y rhaglenni.”