Mae adroddiadau bod trafodaethau’n cael eu cynnal i ddangos gemau rygbi’r Hydref am ddim ar S4C.

Ond yn ôl WalesOnline, dydyn nhw heb ddod i gytundeb eto.

Bydd gemau tîm Warren Gatland, ynghyd â gemau gweddill timau gwledydd Prydain, yn cael eu dangos ar TNT Sports.

Ers 2020, mae’r gemau wedi bod yn cael eu dangos ar Amazon Prime Video, ond mae’n debyg na wnaethon nhw gais i’w dangos eleni.

Mae TNT Sports ar gael ar blatfformau mae’n rhaid talu amdanyn nhw, fel BT TV, Sky a Virgin Media.

“Byddai sicrhau bod gemau Rhyngwladol yr Hydref ar gael i’w gweld ar deledu am ddim yn wych i deuluoedd sy’n wynebu heriau ariannol ledled Cymru,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant, twristiaeth a chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i’r adroddiadau bod trafodaethau ar y gweill.

“Rydyn ni wedi arwain y ffordd wrth alw am gadw’r Chwe Gwlad ar wasanaethau teledu am ddim, gan gyflwyno cynnig gafodd gefnogaeth yr holl Senedd.

“O ystyried nad ydy pobol yn gallu fforddio tanysgrifiadau drud gan ddarparwyr sy’n dangos chwaraeon, byddai’r cyfle i wylio Cymru’n herio gwledydd fel De Affrica yn yr Hydref yn wych i’r gêm genedlaethol.

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi S4C yn llwyr yn eu trafodaethau.”

Dydy Cymru heb ddweud eto pwy fyddan nhw’n eu herio yn yr hydref, ond mae’n bosib y gallen nhw gynnal gemau yn erbyn De Affrica, Awstralia a Georgia.

Dydy S4C ddim wedi cadarnhau na gwadu’r adroddiadau.