Mae Prif Weithredwr Galeri Caernarfon wedi’i wahardd o’i waith ar ôl pledio’n euog i gyhuddiad o stelcian heb godi ofn, braw na gofid.

Mae Steffan Thomas wedi cael gorchymyn atal, a bydd yn rhaid iddo gwblhau 120 awr o wasanaeth cymunedol.

Mae hefyd wedi’i wahardd o’i waith ar gyflog llawn.

Aeth gerbron ynadon yng Nghaernarfon ddydd Llun (Ebrill 8), ac mae Bwrdd Galeri Caernarfon wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i’r mater.

“Yn dilyn y gwrandawiad ar 8 Ebrill, penderfynodd Bwrdd Galeri Caernarfon Cyf i gynnal ymchwiliad i’r gollfarniad a’r amgylchiadau wnaeth arwain at yr achos llys,” meddai Galeri Cyf mewn datganiad.

“Mae Mr Thomas wedi ei atal o’i swydd ar gyflog llawn a heb ragfarn yn ystod cyfnod yr ymchwiliad.

“Ni fydd y Bwrdd yn gwneud sylw pellach nes bydd yr ymchwiliad wedi ei gwblhau.

“Ni fydd yr amgylchiadau hyn yn amharu ar weithgareddau’r cwmni nac ar unrhyw ddigwyddiadau neu weithgaredd yng nghanolfan Galeri.”