Mae disgwyl i Carles Puigdemont, cyn-arlywydd alltud Catalwnia, ddychwelyd adref ar gyfer seremoni tyngu llw’r arlywydd newydd – hyd yn oed pe bai’n colli’r etholiad.

Mae’n un o’r ymgeiswyr yn y ras, ond bu’n byw’n alltud ers refferendwm annibyniaeth “anghyfansoddiadol” 2017, ac yntau’n wynebu cyhuddiadau am ei ran yn yr ymgyrch.

Bydd etholiadau’r wlad yn cael eu cynnal ar Fai 12.

Dywed ei fod yn barod i “weithredu dros y wlad, heb duedd, y tu allan i’r cyd-destun etholiadol ac mewn ysbryd o sefydliad”.

Bil Amnest

Dywed Carles Puigdemont na fydd yn dychwelyd i Gatalwnia yn ystod yr ymgyrch etholiadol, hyd yn oed pe bai’r Bil Amnest yn dod i rym a bod ei orchmyn i’w arestio’n dirwyn i ben yn ystod y cyfnod hwnnw.

Mae’n wfftio’r posibilrwydd o fanteisio ar yr etholiad i gyhoeddi ei fod yn dychwelyd adref, gan ddweud na fydd y mater yn “strategaeth etholiadol” nac yn “fodd i brocio na bychanu” y sefydliad.

Ar ôl bod yn byw’n alltud yng Ngwlad Belg, daeth cadarnhad yr wythnos ddiwethaf ei fod e bellach yn byw yng Ngogledd Catalwnia, sydd yn Ffrainc yn hytrach na Sbaen.

Mae disgwyl iddo fe ymgyrchu wyneb yn wyneb y tro hwn, ac yntau wedi ymgyrchu o bell dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Junts per Catalunya wedi gofyn i’r darlledwyr TV3 gynnal y ddadl etholiadol yn Perpignan, sydd yn Ffrainc, er mwyn iddo allu mynd i’r digwyddiad, ond dydy eu cais nhw ddim yn debygol o fod yn llwyddiannus.

Serch hynny, mae’r Arlywydd Pere Aragonès wedi cynnig trefnu dadl “y tu allan i Gatalwnia” er mwyn sicrhau bod modd iddo herio Salvador Illa, yr ymgeisydd Sosialaidd, ond mae’r ddau wedi gwrthod y cynnig, gan ddweud bod angen “cydweithio, nid mynd ben-ben”.