Mae rôl Cymru yn rhyfel Israel yn erbyn Gaza yn destun “dychryn”, yn ôl trefnydd rali sy’n galw am gadoediad parhaol yn Gaza.

Bydd yr orymdaith dros heddwch ym Mhalesteina’n cael ei chynnal yn y Rhyl ddydd Sadwrn (Ebrill 13).

Anna Jane Evans yw un o’r rhai sydd wedi bod yn trefnu gwylnosau wythnosol yng Nghaernarfon, a dywed fod angen cynyddu’r pwysau ar wleidyddion i weithredu.

Erbyn hyn, mae 33,137 o Balestiniaid wedi cael eu lladd yn Gaza ers i’r rhyfel ddechrau ar Hydref 7 y llynedd, pan wnaeth grŵp militaraidd Hamas ymosod ar Israel.

Mae tros 13,800 o’r rheiny’n blant.

Mae llywodraethau sy’n gwerthu arfau i Israel wedi bod dan bwysau cynyddol i roi’r gorau iddi ers i saith o weithwyr dyngarol gael eu lladd yn Gaza yr wythnos ddiwethaf.

Ond yn ôl Oliver Dowden, Dirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae hi’n dal yn gyfreithlon i’r Deyrnas Unedig werthu arfau iddyn nhw.

Yr Unol Daleithiau sy’n gwerthu’r rhan fwyaf o arfau i Israel, yna’r Almaen a’r Eidal, ynghyd â chyfran “gymharol fach” gan y Deyrnas Unedig. Yn 2022, fe wnaethon nhw werthu gwerth £42m i Israel.

Mae Israel yn allforiwr arfau mawr eu hunain hefyd.

‘Cryfder teimladau’

Dros y pum mis diwethaf, mae grwpiau o Gaernarfon i Langollen wedi bod yn protestio dros gadoediad ym Mhalestina, gan annog arweinwyr lleol i gynrychioli eu barn o fewn cynghorau, y Senedd, a San Steffan.

“Mae yna deimladau cryf iawn, iawn. Dw i’n meddwl bod mwyafrif llethol y boblogaeth eisiau gweld cadoediad ers misoedd,” meddai Anna Jane Evans, o Grŵp Cynllunio gwylnos Caernarfon, wrth golwg360.

“Rydyn ni wedi bod yn cynnal ralïau neu wylnosau ar y Maes yng Nghaernarfon bob nos Sul, ac mae yna ddeugain i hanner cant o bobol yn troi fyny ym mhob tywydd bob nos Sul.

“Mae o’n dangos cryfder teimladau. Mae hynny’n digwydd yn y Bala, yr Wyddgrug, llefydd ar draws gogledd Cymru.

“Mae mynd i’r Rhyl yn gyfle i gael pawb at ei gilydd a chryfhau’r rhwydwaith rhyngom ni fel grwpiau heddwch ar draws y gogledd, yn ogystal â, gobeithio, bod yn llais cryf iawn i gael cadoediad ac i gael stopio arfogi Israel yng nghanol hyn i gyd.”

‘Rôl anferth’ Cymru

Ar hyn o bryd, mae grŵp Heddwch ar Waith wrthi’n gwneud ymchwil i ran Cymru mewn militariaeth.

“Mae Cymru’n chwarae rôl anferth yn hyn, mae’r dronau yma’n cael eu hedfan a’u hymarfer rhwng Aberporth ac Epynt a’r Fali yn gyson,” meddai Anna Jane Evans wedyn.

“Mae gennym ni rôl anferth yn y peth. Pryd oedd y tro diwethaf welsoch chi wleidydd yn dod i ogledd Cymru heb fynd i Brychdyn i’r lle BAE Systems [sy’n gwneud arfau]?

“Y cymorthdaliadau rydyn ni’n rhoi eu iddyn nhw, mae’n gwneud i’r cymorthdaliadau oedd ffermwyr yn eu cael gan Ewrop edrych yn bitw.

“Mae o’n ddychryn ein rôl ni.

“Mae yna achos yn dechrau yng Nghaernarfon ddydd Llun yn erbyn tri diffynnydd sy’n cael eu cyhuddo o daflu paent ar ffatri Solvay yn Wrecsam.

“Nhw sy’n creu’r gliw sy’n dal y dronau sy’n cael eu defnyddio gan Israel efo’i gilydd, maen nhw’n hysbysebu eu hunain fel yna ar eu gwefan eu hunain.”

Ychwanega fod gweithredu a phrotestio yn cael effaith. Cyhoeddodd McDonald’s yn ddiweddar eu bod nhw wedi gwneud colled o $7bn gan fod pobol ledled y byd yn boicotio’r cwmni yn sgil eu cysylltiadau â’r IDF (Llu Amddiffyn Israel).

“Maen nhw wedi bod yn bwydo’r IDF am ddim, tra bod pobol Gaza’n llwgu; mae’r eironi yn y peth yn arswydus.

“Mae’r pwysau yma’n gweithio. Mae o yn dwyn ffrwyth.”

Yn ddiweddar, mae McDonalds wedi prynu’u holl fwytai yn Israel, oedd yn cael eu rhedeg gan fasnachfraint Alonyal, yn ôl yn sgil y boicot.