Mae gŵr o Sir Benfro, sydd wedi ymddeol ac sydd â llety gwyliau ar lan y môr yno, yn dweud bod cyflwyno rheol 182 diwrnod Llywodraeth Cymru ar lety gwyliau wedi “lladd” ei fusnes, ac wedi ei orfodi i roi’r eiddo ar rent yn llawn amser.

Mae Dr John Roobol, sydd wedi ymddeol o fod yn ddaearegwr, yn dod o Aberdaugleddau’n wreiddiol, ac fe fu’n rhoi’r Anchorage yn Sandy Haven ar rent ers 16 o flynyddoedd.

Ond bellach, mae’n teimlo bod y ffaith fod Cyngor Sir Penfro’n cynyddu’r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi i 200%, ynghyd â newid ym meini prawf Llywodraeth Cymru lle mae’n rhaid bod llety gwyliau wedi’u llenwi am 182 diwrnod yn ystod y flwyddyn er mwyn bod yn gymwys ar gyfer cyfraddau busnes, “wedi dinistrio” ei fusnes.

Fis Ebrill y llynedd, cafodd lefel cyfraddau busnes ei chodi o 70 i 182 diwrnod, ac mae John Roobol yn dweud nad yw erioed wedi mynd y tu hwnt i’r lefel yna, sy’n golygu y byddai’n rhaid iddo fe dalu tair gwaith y gyfradd dreth incwm ar ei lety gwyliau.

‘Llewyrch dan fygythiad’

“Yn ôl asiantaeth dai leol, mae nifer bellach yn gwerthu eu llety gwyliau, ac mae’r bobol sy’n gadael yn dweud na fyddan nhw’n dychwelyd,” meddai Dr John Roobol, wrth drafod y pwynt cyntaf.

“Mae’r hynny o lewyrch rydyn ni’n ei adnabod yn Sir Benfro bellach dan fygythiad.

“Mae’r cynnydd enfawr mewn cyfraddau wedi dinistrio fy musnes,” meddai, wrth drafod y rheol 182 diwrnod.

“Er mwyn goroesi, bellach mae’n rhaid i fi roi’r gorau i’r llety gwyliau a symud tuag at rentu allan llawn amser yn y tymor hir.

“Mae’r broblem hon yn wynebu eraill ledled Cymru.

“Bu’n bleser cyfarfod â’r teuluoedd cyffrous sy’n cyrraedd ar ôl gyrru’n bell ar gyfer eu gwyliau haf hirddisgwyliedig.

“Dydy nifer ddim yn gwybod llawer iawn am Sir Benfro, felly dw i wedi ysgrifennu llyfr amdani (Pembrokeshire’s Past, 2024).

“Roedd y diwydiant wedi elwa’n flaenorol o fod â chyfraddau busnes bychain, oedd yn eu heithrio nhw o dalu cyfraddau’r Cyngor.

“Yn wreiddiol, y gofyniad oedd rhentu allan am 70 diwrnod y flwyddyn.

“Ar Ebrill 1, 2023, cododd Cynulliad [Senedd] Cymru hyn i 182 noson y flwyddyn.

“Dydy hyn ddim yn bosib i’r rhan fwyaf ohonom, oherwydd y tywydd gaeafol, hir, tywyll, oer a gwlyb rydyn ni’n ei gael am chwe mis bob blwyddyn.

“Dw i erioed wedi rhentu allan fwy na 153 diwrnod y flwyddyn, ac yn dewis peidio dod â theuluoedd o dwristiaid yma yn y gaeaf.

“Mae gen i ddau eiddo yma, dw i wedi byw yn un ohonyn nhw ac wedi talu cyfraddau, a rhentu’r llall allan fel busnes bach wedi’i eithrio o dalu cyfraddau.

“Bydda i nawr yn symud i rentu allan fy nhŷ ‘twristaidd’ i deulu ar rent llawn amser, fel y bydda i’n talu cyfraddau sengl ar bob eiddo.

“Bydd hyn yn golygu colli deg gwely i dwristiaid.”

Penderfyniad y Cyngor

Cafodd galwad i ostwng y gyfradd o 182 diwrnod yn Sir Benfro ei chlywed ym mis Rhagfyr, ar ôl i’r Cynghorydd Huw Murphy gyflwyno Cynnig Hysbysiad yn gofyn am ostyngiad i 140 diwrnod.

“Yn yr argyfwng economaidd presennol, mae angen i Gyngor Sir Penfro ddefnyddio pob arf sydd gennym i gefnogi’r busnesau hyn i oroesi a llewyrchu,” meddai.

Doedd yr hysbysiad, gafodd ei glywed gan Gabinet y Cyngor Sir, ddim wedi cael ei gefnogi, ar ôl i aelodau glywed gan y Cynghorydd Alec Cormack, yr Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol, mai yn nwylo Caerdydd mae’r cyfrifoldeb o gyfiawnhau, gyda diffyg data sylweddol i wneud penderfyniad deallus ar hyn o bryd.

Cytunodd aelodau i adolygu’r sefyllfa ar ôl deuddeg mis, ac i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn codi pryderon ynghylch y mater, yn ogystal â gwneud cais am wybodaeth ynghylch sut mae’r newid yn nifer y diwrnodau’n gweithio.