Mae dod o hyd i dŷ i’w rentu yn “amhosib”, medd cerddor sy’n chwilio am dŷ ym Mlaenau Ffestiniog.
Bydd rali nesaf Nid yw Cymru ar Werth Cymdeithas yr Iaith yn cael ei chynnal yn y dref ar Fai 4, er mwyn galw am fesurau pellach i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.
Mae’r sefyllfa yn “argyfwng”, medd Ceri Cunnington, oedd yn aelod o’r band poblogaidd Anweledig ac sydd bellach yn gweithio i Gwmni Bro Ffestiniog.
Yn 2022, roedd gan y dref un o’r cyfraddau uchaf o Air Bnbs yng ngwledydd Prydain, ac ar wefan Air BnB mae tua 260 o dai’n ymddangos o osod y map ar yr ardal o Flaenau Ffestiniog a Llan Ffestiniog, draw i Faentwrog am y gorllewin a lawr i Drawsfynydd am y de.
‘Argyfwng’
Mae Ceri Cunnington newydd ddychwelyd i fyw i bentref Tanygrisiau ger Blaenau Ffestiniog, ac yn ceisio dod o hyd i dŷ rhent.
“Ti’n sôn am rhwng £600 a £700 am dŷ dwy lofft. Gen i ddwy o ferched, felly mae o’n anodd,” meddai wrth golwg360.
“Dw i newydd ddod yn ôl o gyfweliad efo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i chwilio am dŷ yn Rhyd, Llanfrothen. Tŷ bach tair llofft, ac roedden nhw’n dweud bod dros gant wedi ymgeisio am y tŷ a’u bod nhw wedi rhoi o lawr i restr fer o chwech.”
Mae Antur Stiniog, sy’n un o aelodau Cwmni Bro Ffestiniog, yn ceisio perchnogi adeiladau gwag ar y stryd fawr i’w rhentu i gwmnïau lleol.
“Dydw i ddim yn gwybod be ydy’r ateb, mae gennym ni syniadau fel Cymunedoli, sef rhwydwaith o fentrau cymunedol yng Nghymru, lle rydyn ni eisiau sôn am gymunedoli tai – ein bod ni’n prynu tai fel cymunedau a’u rhedeg nhw dan arweiniad y gymuned. Dydy hynny ddim yn amhosibl,” ychwanega Ceri Cunnington.
“Fedrith o ddim parhau fel hyn, neu mae ein cymunedau ni’n mynd i farw.”
‘Lwcus ofnadwy’
Mae Llywodraeth Cymru wedi cryfhau’r pwerau sydd gan gynghorau i fynd i’r afael â’r argyfwng tai, a gall awdurdodau lleol gynyddu’r premiwm treth gyngor o 300% ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor bellach.
Ar hyn o bryd, mae’r premiwm ar 150% i ail gartrefi yng Ngwynedd, ac ar 100% i dai gwag hirdymor.
Un sy’n gweld gwerth yr ymyriadau hyn yw Helen McAteer, rheolwr Tŷ Coffi Antur Stiniog yng nghanol Blaenau Ffestiniog.
Cafodd hi a’i theulu ifanc brynu tŷ, oedd yn ail gartref, am bris is gan fod y perchennog o Lundain yn awyddus i’w werthu i deulu lleol ar ôl i’r premiwm godi.
“Er eu bod nhw’n flin efo’r Cyngor, roedd o hefyd yn deall pam oedden nhw’n gwneud o,” meddai Helen McAteer wrth golwg360.
“Roedden nhw eisiau gweld y tŷ yn mynd i rywun lleol, roedd o’n gwybod yn iawn os fysa fo wedi rhoi’r tŷ ar y we y bysa yna rywun wedi gallu prynu fo’n hawdd am bris yr arfarniad.
“Fysa ni ddim wedi gallu prynu’r tŷ fel arall, os fysa fo wedi rhoi o ar y farchnad, roedden ni’n lwcus ofnadwy.”
Er ei bod hi’n gweld gwerth y newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod, mae angen gwneud mwy, meddai.
“Mae yna dŷ bach dros ffordd [i’n hen gartref], ac mae o ar y we am ychydig o dan £200,000. Mae hynna’n lot os ti’n gweithio’n lleol.
“Dydy’r cyflogau ddim yn uchel iawn i ni’n fan hyn. Ti ddim yn mynd i allu prynu hwnna na chael morgais, yn enwedig efo sut mae’r cyfraddau.
“Mae hi’n hwyr, ond dydy hi ddim rhy hwyr. Mae yna dal bethau sy’n gallu cael eu gwneud.”
‘Deddf Eiddo, Dim Llai’
Mae gan Gymdeithas yr Iaith bryderon nad yw Llywodraeth Cymru’n deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, ac yn y rali byddan nhw’n galw am ‘Ddeddf Eiddo Dim Llai’.
“Pwrpas ymgyrchu dros Ddeddf Eiddo ydy sicrhau bod gan bobol yn eu cymunedau reolaeth dros beth sy’n digwydd i’w tir a’u tai nhw,” meddai Ffred Ffransis ar ran Cymdeithas yr Iaith wrth golwg360.
“Dydy’r farchnad rydd ddim yn ddull teg o ddosbarthu tai fel cartrefi i bobol, mae’n rhydd i bobol sydd â digon o arian.
“Pwrpas Deddf Eiddo ydy sicrhau bod rheoli’r farchnad, neu o leiaf dylanwadu ar y farchnad agored, er mwyn sicrhau bod dosbarthu tai yn ôl angen cymdeithasol.
“Mae camau mawr wedi cael eu cymryd o ran taclo problemau o ganlyniad i dwristiaeth, o ran rheoli gormodedd o dai gwyliau ac ail gartrefi, ond mewn llawer o ardaloedd o Gymru, er enghraifft yng Nghonwy wledig, ym Mhowys wledig, yn Sir Gaerfyrddin wledig, nid twristiaeth yw’r brif broblem ond y ffaith bod pobol methu fforddio cystadlu ar y farchnad agored am dai.
“Y bwriad ydy, lle mae awdurdod lleol yn gweld bod angen, i sefydlu marchnad leol, hwyrach yn hepgor y ddau ddosbarth trethiannol uchaf.
“Byddai Deddf Eiddo’n rhoi’r gallu i’r awdurdod lleol gynllunio ar gyfer pobol leol, yn hytrach na bod y farchnad yn penderfynu.”
Ychwanega Ffred Ffransis y byddai’r Ddeddf Eiddo yn rhoi hwb i rymuso cymunedau lleol drwy ffurfio cynlluniau lleol cyson i sefydlu anghenion tai’r gymuned, a hwyluso a chyllido cymdeithasau cymunedol a allai arwain at ddatblygiadau tai.
O’r trafodaethau diwethaf rhwng Cymdeithas yr Iaith a swyddogion Llywodraeth Cymru, cawson nhw wybod nad oedd y swyddogion yn meddwl bod hyn ar yr agenda ar gyfer y tymor seneddol hwn, meddai.
“Mae yna wir bryder ers yr holl ymgyrchu dros y blynyddoedd diwethaf, ymgyrchu ers y 1990au ac yn enwedig o Rali Tryweryn (2021) ymlaen, y gallen ni beidio cael Deddf Eiddo wedi’r cyfan.
“Galwad Cymdeithas yr Iaith ydy i bawb sy’n credu yn nyfodol ein cymunedau Cymraeg, ac mewn tegwch cymdeithasol, i ddod draw i Flaenau Ffestiniog.”
‘Camau radical’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw’n credu y dylai pawb gael mynediad at gartref fforddiadwy, addas i’w rentu neu ei brynu yn eu cymunedau fel eu bod nhw’n gallu gweithio a byw yn lleol.
“Rydyn ni’n cymryd camau radical i ddefnyddio systemau cynllunio, eiddo a threth i wneud hyn, fel rhan o becyn cyd-gysylltiedig o ddatrysiadau i set gymhleth o faterion,” meddai.
“Byddan ni’n ymgynghori ar gynigion ar gyfer darparu tai digonol, rhenti tecach ac agweddau newydd i wneud tai’n fforddiadwy i bobol ar incymau lleol mewn Papur Gwyn yn hwyrach eleni.”