Mae myfyrwyr gwrywaidd ym Mhrifysgol Wrecsam wedi bod yn llunio rheolau drostyn nhw eu hunain, i geisio sicrhau bod menywod yn medru mwynhau nosweithiau allan yn ddiogel.

Drwy gydweithio ag ymgyrch IAWN Llywodraeth Cymru, mae myfyrwyr gwrywaidd wedi bod yn archwilio pwysigrwydd creu amgylchedd gyda’r nos sy’n ddiogel a pharchus, lle nad yw ymddygiad amhriodol tuag at fenywod yn cael ei oddef na’i esgusodi.

Mae IAWN yn blatfform dwyieithog i ddynion ifanc, sy’n anelu at wneud Cymru’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.

Mae’r ystadegau’n dangos bod tua 80% o fenywod yng Nghymru wedi profi aflonyddu rhywiol, ac mae mwy nag un ym mhob pedair menyw yn profi cam-drin domestig.

‘Mynd i’r afael ag ymddygiad problematig’

Lluniodd y grŵp o fyfyrwyr gwrywaidd y rheolau ar ôl trafodaeth agored ynglŷn â sut y dylai dynion ymddwyn ar noson allan, er mwyn sicrhau bod merched yn teimlo’n ddiogel.

Mae’r rheolau’n cynnwys ‘gofynna, paid cymryd yn ganiataol’, ‘parchwch ffiniau eich gilydd’, a ‘gofala am dy hun, gofalwch am eich gilydd’.

Dywed un myfyriwr y byddai ymgysylltu â rhaglen fel IAWN pan oedd yn iau wedi’i helpu i drin ei broblemau a gwneud iddo fynd i’r afael “ag ymddygiadau problematig yn gynt”.

“Mae’r prosiect wedi fy helpu oherwydd doeddwn heb glywed am lawer o’r derminoleg sy’n ymwneud â pherthnasau cyn edrych ar IAWN,” meddai Cal Roberts.

“Roedd deall y diffiniadau wedi fy helpu i roi sefyllfaoedd y gorffennol yn eu cyd-destun, pethau fel gasleitio a lovebomio.”

‘Ymrwymiad cryf’

Y themâu gododd yn aml yn ystod y sesiynau oedd sicrhau caniatâd a derbyn bod ‘Na’ yn golygu na ym mhob cyd-destun, ynghyd â pharchu ffiniau myfyrwyr eraill.

“Yma ym Mhrifysgol Wrecsam mae gennym ymrwymiad cryf i fynd i’r afael â materion cymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Wrecsam.

“Mae ein hymroddiad i feithrin amgylchedd diogel a chynhwysol ar y campws yn cyd-fynd yn berffaith â nodau’r ymgyrch.

“Mater cymdeithasol allweddol y mae ein Prifysgolion a’n Hundeb Myfyrwyr yn cydweithio arno yw codi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod ac roeddem yn falch iawn o fod yn rhan o’r ymgyrch gan helpu i lywio strategaeth a chreu cynnwys effeithiol, gan roi cyfle i’n myfyrwyr ddysgu, myfyrio a chymryd camau cadarnhaol yn erbyn trais a chamdriniaeth.”

I gyd-fynd â’r ymgyrch, maen nhw hefyd wedi gwneud fideos Cymraeg a Saesneg yn trafod y mater.