Mae streiciau meddygon wedi cael eu gohirio gan fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddechrau trafodaethau pellach ar gyflogau.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi gwneud “cryn waith” i glustnodi cyllid i gefnogi’r negodiadau fydd yn cael eu gwneud â meddygon.
Yn ôl y Llywodraeth, maen nhw wedi cytuno ar fandad ar gyfer trafodaethau â changhennau o BMA Cymru sy’n cynrychioli ymgynghorwyr, meddygon SAS (Arbenigwyr, Arbenigwyr Cyswllt ac Arbenigedd) a meddygon iau.
O ganlyniad, fydd streiciau ymgynghorwyr a meddygon SAS, oedd wedi cael eu trefnu ar gyfer Ebrill 16, ddim yn cael eu cynnal.
Fydd meddygon iau ddim yn gwneud cynlluniau ar gyfer streiciau pellach am y tro chwaith.
‘Cam sylweddol ymlaen’
Yn ôl cyd-gadeiryddion Pwyllgor Meddygon Iau BMA Cymru, mae’r newyddion yn “gam sylweddol ymlaen”.
“Mae’n drist ein bod ni wedi gorfod streicio i gyrraedd fan hyn, ond rydyn ni’n falch o’n haelodau am ddangos eu penderfynoldeb wrth geisio bargen deg ar gyfer y proffesiwn,” meddai Dr Oba Babs Osibodu a Dr Peter Fahey.
“Er ein bod ni’n optimistaidd ac yn gobeithio y daw’r anghydfod i ben yn fuan, rydyn ni dal yn benderfynol o adfer cyflogau.”
Dywed Dr Stephen Kelly, cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorwyr BMA Cymru, fod ymdrechion diweddar Llywodraeth Cymru i ddod â’r anghydfod dros gyflogau i ben yn “galonogol”.
“Rydyn ni’n gobeithio gallu cyrraedd cytundeb sy’n mynd i’r afael â blynyddoedd o erydiad cyflog i helpu i gadw meddygon uwch yng Nghymru, ond rydyn ni dal yn barod i streicio os nad ydyn ni’n medru gwneud hynny’n ystod y trafodaethau.”
Ychwanega Dr Ali Nazir, cadeirydd pwyllgor meddygon SAS y BMA, eu bod nhw’n teimlo bod y datblygiad diweddaraf yn “mynd rywfaint o’r ffordd i ddeall cryfder teimladau ein haelodau”.
“Byddan ni’n gweithio’n galed i gyrraedd setliad sy’n cwrdd yn ddigonol â disgwyliadau ein cydweithwyr sydd wedi wynebu toriad cyflog o draean ers 2008/9,” meddai.
‘Cydnabod cryfder y teimladau’
Fis Awst y llynedd, fe wnaeth pwyllgorau’r BMA sy’n cynrychioli meddygon gofal eilradd yng Nghymru bleidleisio i ddechrau cyfnod o anghydfod ar ôl cael cynnig codiad cyflog dan chwyddiant o 5% ar gyfer 2023/24 gan Lywodraeth Cymru.
Fel rhan o’r anghydfod, fe wnaeth meddygon SAS, ymgynghorwyr a meddygon iau bleidleisio dros streicio, ac mae meddygon iau wedi treulio deng niwrnod yn streicio ers mis Ionawr eleni.
Wrth gyhoeddi eu bod nhw wedi cytuno i gynnal trafodaethau ffurfiol gyda’r tri phwyllgor, dywed Vaughan Gething, Prif Weinidog Cymru, eu bod nhw’n cydnabod cryfder teimladau aelodau’r BMA.
“Mae hon yn llywodraeth sy’n gwrando ac sy’n ymrwymo i ddod o hyd i atebion,” meddai.
“Rhoddais flaenoriaeth i gynnal cyfarfod â’r BMA ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd i gadarnhau ein hymrwymiad i’r dull partneriaeth hwnnw.
“Heddiw, rydyn ni’n wynebu’r sefyllfa ariannol fwyaf difrifol yn oes datganoli sy’n golygu bod ein tasg gryn dipyn yn anoddach.
“Er gwaetha’r amgylchiadau hyn, rydyn ni wedi gweithio i ddod o hyd i ffordd ymlaen rydw i’n gobeithio fydd yn arwain at ddatrys yr anghydfod hwn yn llwyddiannus ac yn sicrhau y gall meddygon fynd yn ôl i’w gwaith yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.”