Mae tebygrwydd rhwng yr ymgyrch lwyddiannus i achub y barcud yn y canolbarth a’r ymgais i achub yr iaith, yn ôl yr arlunydd Wynne Melville Jones.
Bu tad Mistar Urdd a’r dyn PR yn agor Canolfan Dreftadaeth Tregaron am y flwyddyn yn ddiweddar.
I nodi’r achlysur, cyflwynodd ei ddarlun o’r barcud i’w arddangos yn barhaol yn y Ganolfan Dreftadaeth.
Copi union o’r darlun yw’r ddelwedd o’r barcud sydd wedi’i chynnwys ar Gadair Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2022.
Bu bron i’r barcud ddiflannu’n llwyr o’r ardal, ond trwy ymdrechion nifer fechan o adarwyr llwyddwyd i achub y boblogaeth.
“Troi pob carreg” i achub yr iaith
Wrth gymharu’r ymdrechion hynny â’r gwaith i warchod y Gymraeg, dywed Wynne Melville Jones, sy’n frodor o Dregaron, fod rhaid “troi pob carreg” i’w hamddiffyn “gyda’r un brwdfrydedd, a gyda’r un penderfyniad yn union ag ymgyrch achub y barcud”.
Byddai’n dda gweld y ddwy garfan yn cydweithio’n agosach hefyd, er mwyn manteisio ar brofiadau a dysgu gwersi, meddai.
“Mae Tregaron yn bwysig i mi, ac rwy’n eithriadol o falch o’m magwraeth yn yr ardal a heddiw,” meddai’r arlunydd, oedd yn gyfrifol am greu Mistar Urdd.
“Nawr, Tregaron yw’r ysbrydoliaeth i lawer iawn o’m gwaith celf y dyddiau hyn.
“Mae’r Ganolfan yn llwyfan i stori pobol Tregaron, ac mae’n gyfrwng effeithiol i adrodd stori un o brif drefi marchnad Cymru yn enwedig yn y cyfnod pan oedd yn ganolfan fasnachu bwysig a bywiog i’r porthmyn.
“Mae’n stori dda i’w hadrodd wrth y bobol leol, ymwelwyr, ynghyd â’r bobol sydd wedi symud i mewn i’r ardal – mae’n gyfoethog o safbwynt hanes a diwylliant.”