Mae gwirfoddolwr sy’n codi sbwriel bob wythnos yn Llanberis yn dweud bod problemau gyda gwastraff dynol, diffyg toiledau cyhoeddus, gollwng sbwriel a pharcio yn dirywio’r pentref.

Yn ôl Eric Baylis, sydd wedi bod yn byw yno ar hyd ei oes, mae hi’n “chwith gweld y pentref fel y mae heddiw”.

Mae’n galw am ymestyn oriau agor toiledau cyhoeddus y pentref er mwyn lleihau’r gwastraff dynol o amgylch troed yr Wyddfa.

Mae hefyd yn galw am godi tâl am barcio yn y meysydd sydd am ddim i’w defnyddio ar hyn o bryd, er mwyn gallu rhoi’r arian tuag at ymestyn oriau agor y toiledau.

‘Rhwystredig’

Bob bore Sul, mae Eric Baylis yn gwneud ei daith o amgylch y pentref i gasglu sbwriel, a’r hyn mae’n dod o hyd iddo’n amlach na pheidio yw gwastraff dynol.

Mae’n credu mai oriau agor byr toiledau cyhoeddus y pentref sydd yn bennaf gyfrifol am y broblem.

“Yr unig beth rydan ni’n cael pob tro rydan ni’n mynd ydy budreddi dynol, ac mae hynny i lawr i doiledau’n cael eu cau’n fuan,” meddai wrth golwg360.

“Maen nhw’n cael eu cau tua phump o’r gloch bob nos.

“A’r drwg ydy ein bod ni’n cael lot yn dod i’r ardal yn mynd i weld yr haul yn codi ar ben yr Wyddfa.

“Felly maen nhw’n cyrraedd yma am ddau o’r gloch yn y bore i fynd fyny’r Wyddfa, a does yna nunlle ar agor adeg hynny, ar ôl iddyn nhw deithio dwy awr neu dair i ddod yma.

“Achos un ardal lle mae hi’n ddrwg ydy cefn y toiledau i lawr yn ardal y Glyn.

“Mae pobol yn ceisio’u defnyddio nhw ac yn ffeindio eu bod nhw wedi cloi, ac wedyn yn mynd rownd y cefn i wneud eu busnes.

“Mae hynny’n digwydd yn rheolaidd.

“Byswn i’n dweud fy mod i’n dod ar draws budreddi dynol naw gwaith o bob deg taith o gwmpas y pentref yn casglu sbwriel.

“Mae o’n rhwystredig, achos rydan ni’n cwyno amdano fo ond does yna ddim byd yn cael ei wneud.”

Un syniad sydd gan Eric Baylis i geisio datrys y broblem yw codi tâl bach i ddefnyddio’r toiledau cyhoeddus, fel bod yr arian hwnnw’n cael ei ddefnyddio i ymestyn eu horiau agor.

“Bysa’r toiledau yn gallu cael eu gadael ar agor 24/7 wedyn.”

Dim digon o doiledau cyhoeddus

Dydy Eric Baylis ddim yn credu bod digon o doiledau cyhoeddus yn y pentref i ymdopi â’r  600,000 o bobol sy’n cerdded yr Wyddfa bob blwyddyn.

Yn ddiweddar, cafodd adeilad Canolfan Ymwelwyr Mynydd Gwefru’r pentref ei ddymchwel a’i droi’n faes parcio.

Bu gwrthwynebiad yn lleol cyn y penderfyniad gwreiddiol i roi caniatâd i ddymchwel yr adeilad.

Roedd trigolion wedi dadlau y byddai modd defnyddio’r adeilad at bwrpas arbennig.

Ac yn ôl Eric Baylis, fe gynigodd o’r syniad o adeiladu mwy o doiledau cyhoeddus ar y tir, ond roedd y penderfyniad eisoes wedi’i wneud.

“Dweud oeddwn i, mae pobol yn cyrraedd yma i gerdded ac yn gorfod cerdded trwy’r holl bentref a does yna ddim toiled yn agored yn unlle,” meddai.

“Mi fysa fan yno wedi bod yn lle ideal.

“Roedd popeth oedd ei angen yno – draeniau, dŵr, trydan…

“Mae’n bechod nad ydyn nhw wedi rhoi hyn i mewn yn y cynllun.”

Angen codi tâl am barcio

Mae Eric Baylis hefyd o blaid codi tâl am barcio mewn mannau yn y pentref lle mae parcio am ddim ar hyn o bryd, fel ardal y Glyn.

“Maen nhw wedi gwario ffortiwn yn gwneud y maes parcio i fyny, ond dydyn nhw dal ddim yn codi tâl am ei ddefnyddio.

“Maen nhw hefyd wedi rhoi cyfleusterau i motorhomes aros yno rŵan, ond dydy’r rheiny ddim yn gorfod talu.

“Roedd y meysydd parcio i gyd, fwy neu lai, yn llawn dros benwythnos y Pasg, a doedd hanner y peiriannau talu ddim yn gweithio – os oedd yna beiriant yno.

“Rydan ni’n colli gymaint o arian i allu cael pethau fel toiledau a biniau.

“Gyda phob parch, fysa neb call yn rhedeg busnes fel mae Cyngor Gwynedd yn gwneud.

“Maen nhw’n colli’r holl arian yma fysa’n gallu cael ei fuddsoddi yn ôl i mewn i’r ardal.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Gwynedd.