Mae yna sawl ateb posibl i’r cwestiwn hwn, er enghraifft radio, teledu, y rhyngrwyd, cyfrifiaduron, argraffyddion 3D, camerâu digidol a ffonau symudol. Maent i gyd wedi cael effaith fawr ar ein bywydau. Byddai rhai’n dadlau taw ffonau symudol heddiw, sy’n gallu cysylltu â’r rhyngrwyd a thynnu lluniau ardderchog a’u hanfon mewn neges destun neu e-bost at rywun ar ochr arall y byd mewn ychydig eiliadau, yw’r ddyfais bwysicaf.
Bu gwelliannau mawr yn ein hiechyd, diolch i wrthfiotigau, sy’n trin heintiau bacterol, a brechiadau; enghraifft ddiweddar yw’r brechlynnau COVID a gyflwynwyd yn gyflym gan waith rhagorol gwyddonwyr Prydeinig. Mae offerynnau fel sganwyr CT a pheiriannau MRI sy’n gallu cynhyrchu delweddau 3D o organau mewnol ac adnabod clefydau megis canser, wedi gwneud cyfraniad enfawr at allu meddygon i wneud diagnosis o anhwylderau eu cleifion.
Felly, beth yw fy ateb i’r cwestiwn hwn? Mae gan bron bob awgrymiad uchod un peth yn gyffredin; maent yn dibynnu ar dransistorau. Roedd y dyfeisiau electronig cyntaf, megis radios a chyfrifiaduron, yn defnyddio falfiau electronig (a elwir hefyd yn diwbiau gwactod)..
Defnyddiwyd falfiau o’r fath i chwyddo cerrynt, neu fel switshys. Roeddent yn gydrannau allweddol yn natblygiad radio, radar, teledu a’r cyfrifiaduron electronig cyntaf. Enghraifft o gyfrifiadur digidol rhaglenadwy cynnar oedd y Colossus, a ddefnyddiwyd ym Mharc Bletchley yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd fersiwn Mark II yn cynnwys 2,400 o falfiau ac roedd yn fawr iawn.
Fodd bynnag, roedd gan falfiau electronig anfanteision mawr; maent yn cynhyrchu llawer o wres, maent yn annibynadwy ac yn fregus oherwydd eu gwneuthuriad gwydr. Felly, roedd dyfeisio’r transistor, a ddisodlodd falfiau electronig, yn ddatblygiad allweddol a drawsnewidiodd ddyluniad dyfeisiau electronig yn llwyr.
Felly, beth yw transistorau? Gwneir transistorau o led-ddargludydd sydd ddim yn ddargludydd (sy’n caniatáu i drydan lifo) nac yn ynysydd. Pan ychwanegir amhuredd, mewn proses a elwir yn amhureddu, at y lled-ddargludydd gellir gwneud iddo ymddwyn mewn ffordd debyg i falfiau a’i ddefnyddio fel switsh neu i chwyddo cerrynt trydan. Fe’i defnyddir i reoli llif cerrynt trydan rhwng pâr o derfynellau. Mae foltedd neu gerrynt a roddir ar un pâr o derfynellau’r transistor yn rheoli’r cerrynt trwy bâr arall o derfynellau. Mae transistorau yn llawer llai na falfiau, yn defnyddio llawer llai o bŵer, ac yn fwy cadarn. Gwnaethpwyd y transistor cyntaf o germaniwm yn 1947 gan John Bardeen a Walter Brattain yn labordy Bell yn yr Unol Daleithiau. Eu harweinydd oedd William Shockley, a ddatblygodd ddyluniad amgen a oedd yn haws ei gynhyrchu.
Cafodd y tri gwyddonydd hyn y Wobr Nobel Ffiseg yn 1956 am eu gwaith. Mae’r rhan fwyaf o’r transistorau’n defnyddio silicon a chynhyrchwyd y transistor silicon masnachol cyntaf gan Gordon Teal yn Texas Instruments yn yr Unol Daleithiau yn 19541.
Roedd cynhyrchu transistorau dibynadwy yn heriol iawn oherwydd ymyrraeth a achoswyd gan amhureddau mewn germaniwm a silicon. Datblygwyd dulliau i gynhyrchu germaniwm a silicon pur iawn. Roedd transistorau germaniwm yn dioddef o’r anfantais nad oeddent yn gweithio uwchlaw tymheredd o tua 75° C.
Y datblygiad pwysig nesaf oedd y cylched cyfannol (CC), sy’n cynnwys haen o ddeunydd lled-ddargludydd (y cyfeirir ato’n gyffredin fel sglodyn), fel arfer silicon, sy’n cynnwys sawl transistor. Crëwyd y CC cyntaf gan Jack Kilby a Bob Noyce yn annibynnol yn 1958, a gyda gwelliannau mewn technoleg wrth i faint y transistorau leihau cynyddodd y nifer mewn CC. Roedd y cylchedau cyfannol cynnar yn cynnwys hyd at ddeg transistor.
Yn y degawdau dilynol bu gwelliannau mewn technoleg yn lleihau maint a chost transistorau, felly erbyn 1977 roedd transistor nodweddiadol yn ddim ond 2 ficron ar draws ac yn costio llai na 0.01 sent2. Rhagwelodd Gordon Moore, cyd-sylfaenydd y cwmni Intel, y byddai nifer y transistorau ar sglodyn yn dyblu bob blwyddyn, ond yn 1975 fe newidiodd hynny i bob yn ail flwyddyn3. Yn hynod, mae’r rhagfynegiad wedi dal ei dir yn dda, ac roedd y sglodyn mwyaf yn 2022 yn cynnwys 114 biliwn o dransistorau4 a dwysedd anhygoel o 135.6 miliwn o dransistorau/mm2.
Datblygwyd y microbrosesydd cyntaf, cyfrifiadur sglodyn sengl, gan Intel yn 1974. Pan oedd fy mab hynaf yn bymtheg oed prynais ficrobrosesydd iddo, yr MK14. Arweiniodd hyn at ei radd mewn Electroneg a gyrfa yn gweithio gyda chyfrifiaduron.
Felly, yn fy marn i, dyfais bwysicaf y can mlynedd diwethaf yw’r transistor. Fe arweiniodd at gylchedau cyfannol a alluogodd gynhyrchu ffurf fechan o bob math o offer megis radios (enghraifft gynnar oedd y radio transistor poced), cyfrifiaduron, ffonau, cymhorthion clyw a dyfeisiau llywio lloeren ar gyfer cerbydau, awyrennau a llongau. Bellach, gall setiau teledu modern arddangos ein lluniau a’n fideos a chysylltu â’r rhyngrwyd.
Mae cyfrifiaduron yn enghraifft dda o effaith fawr ffurfiau bychain ar dransistorau. Mae cynhwysedd storio yn y sglodion cof mewn cyfrifiaduron modern fel yr Apple iMAC M1 Ultra, sydd ond yn 11.5mm o drwch, dros 10 miliwn gwaith yn fwy nag yn y cyfrifiadur Apple II a gynhyrchwyd yn 1977. Wrth gwrs, mae yna gyfyngiad ar nifer y transistorau y gellir eu gwasgu ar sglodyn, felly beth am y dyfodol? Cyfrifiaduron cwantwm efallai, ond stori arall yw honno!