Nanna Ryder, Uwch ddarlithydd Addysg yng Nghanolfan Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant sy’n trafod datblygiadau diweddar, heriau a blaenoriaethau ar gyfer cefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) trwy gyfrwng y Gymraeg.
Y cefndir
Wrth ymchwilio ar gyfer cyflwyniad mewn cynhadledd genedlaethol ar ADY yn ddiweddar, sylweddolwyd bod diffyg yn bodoli yn ein system addysg o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg i rai o’n dysgwyr mwyaf bregus. Er bod dilyn Deddf ADY (2018) yn orfodol ar gyfer pob lleoliad addysg i blant a phobl ifanc hyd at bump ar hugain oed ers Medi 2021, mae ffordd bell i fynd o hyd o safbwynt y Gymraeg. Nodir yn y Cod ADY sy’n amlinellu gofynion gweithredu’r Ddeddf bod gan ddysgwyr ADY os oes ganddynt ‘anhawster dysgu neu anabledd … sy’n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ’. Un ddyletswydd yn y Cod, sy’n hyrwyddo ymagwedd mwy plentyn-ganolog o ran y ddarpariaeth na’r system Anghenion Addysg Arbennig (AAA) flaenorol, yw cefnogi ac amddiffyn dysgwyr sydd angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol (DDdY) trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod hyn yn ddatblygiad arwyddocaol, mae’n her i ysgolion ac awdurdodau lleol i sicrhau system gwbl ddwyieithog ar gyfer rhai o’n dysgwyr mwyaf bregus.
Er nad oes ymchwil cyfredol yn cadarnhau hyn ar hyn o bryd, mewn trafodaethau anffurfiol gyda staff addysgu wrth ymchwilio ar gyfer y gynhadledd, daeth i’r amlwg bod diffyg darpariaeth ADY cyfrwng Cymraeg nid yn unig mewn ysgolion prif ffrwd ond hefyd mewn lleoliadau arbenigol. Nodwyd diffyg argaeledd asesiadau dwyieithog, adnoddau i’r ystafell ddosbarth, yn ogystal â phrinder staffio ac arbenigedd fel rhai o’r rhesymau am hyn. Os oes angen Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol yn Gymraeg, yna mae’n rhaid i ymarferwyr gofnodi hyn ar Gynllun Datblygu Unigol (CDU); cynllun sy’n amlinellu anghenion y dysgwr, y cymorth sydd ei angen a’r targedau i’w datblygu. Mae’r CDU wedi hwyluso’r broses o safbwynt cadw cofnod o anghenion a’r gefnogaeth angenrheidiol, ond y bwlch allweddol yw’r term ‘pob cam rhesymol’ a ddefnyddir yn y Cod ADY. Yn fynych nid oes modd cymryd ‘cam rhesymol’ o safbwynt y Gymraeg oherwydd diffyg adnoddau, ond os yw Cymru am wireddu’r nod o filiwn o siaradwyr, yna mae hyn yn hanfodol.
Hawl dysgwyr!
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) (1989) wedi’i wreiddio’n gadarn yn y Ddeddf ADY. Mae Erthygl 23 o CCUHP yn amlinellu hawliau plant a phobl ifanc ag anableddau ac mae Erthygl 30 yn pwysleisio ‘na wrthodir yr hawl i blentyn sy’n perthyn i grŵp lleiafrifol ieithyddol ddefnyddio ei iaith ei hun’. Mae gofynion statudol Deddf Cydraddoldeb 2010 i sicrhau tegwch a chydraddoldeb yn atgyfnerthu hyn hefyd. Er hynny gall gweithredu’r hawliau hyn brofi’n heriol mewn rhannau o Gymru. Deillia hyn o ddiffyg buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru mewn adnoddau ac asesiadau cyfrwng Cymraeg, diffyg hyfforddiant ADY hygyrch i’r gweithlu fel nodir gan Davies (2023) a’r argyfwng recriwtio presennol sy’n wynebu’r system addysg yng Nghymru.
Ai cynhwysiant yw hyn?
Mae rhai dysgwyr cyfrwng Cymraeg ag ADY dan anfantais sylweddol, felly, o gymharu â’u cyfoedion. Nodwyd yn Natganiad Salamanca (1994), sy’n sail i gynhwysiant ac a gadarnhawyd gan Lywodraeth y DU cyn i addysg gael ei ddatganoli i Gymru, ‘na all newidiadau mewn polisïau a blaenoriaethau fod yn effeithiol oni bai bod gofynion adnoddau digonol yn cael eu bodloni’. Bron i ddeng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, mae’r neges hon yn parhau’n berthnasol i Lywodraeth Cymru o safbwynt cynhwysiant a thegwch i ddysgwyr ag ADY.
Nododd ymchwil Davies (2023) fod y diffyg hyn mewn darpariaeth cyfrwng Cymraeg nid yn unig yn effeithio ar ddysgwyr a’u teuluoedd ond hefyd ar staff mewn ysgolion, gweithwyr iechyd a gweithwyr cymdeithasol. Caiff effaith negyddol ar eu llwyth gwaith a’u lles wrth iddynt ymdrechu i ddiwallu anghenion dysgwyr ag ADY Cymraeg eu hiaith gydag adnoddau dynol cyfyngedig a phrinder adnoddau arbenigol eraill. Caiff llawer o ddysgwyr eu hasesu yn eu hail iaith ac mae teuluoedd dysgwyr sy’n cael anawsterau o ran caffael iaith yn cael eu gorfodi at yr hyn y mae Davies yn ei alw’n ‘unieithrwydd gorfodol’. Maent yn gorfod defnyddio un iaith yn unig gyda’u plentyn sef Saesneg, gan arwain at newid iaith gyntaf a dewis iaith y cartref.
Camu ymlaen
Er bod arfer rhagorol mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae ffordd bell i fynd eto. Cyhoeddwyd adroddiad beirniadol gan Gomisiynydd y Gymraeg a Chomisiynydd Plant Cymru yn ystod Eisteddfod yr Urdd 2023. Mi wnaethant alw am adolygiad cenedlaethol o’r ddarpariaeth i sicrhau cysondeb ledled Cymru ac i flaenoriaethu darpariaeth, gweithlu arbenigol ac adnoddau cyfrwng Cymraeg ar lefel cenedlaethol. Mae Llywodraeth Cymruwedi buddsoddi’n sylweddol yn y rhaglen Trawsnewid ADY, ond i ba raddau y caiff hwn ei ddefnyddio ar gyfer y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg? Er gwaethaf cyhoeddiad y Prif Weinidog ar y pryd, Mark Drakeford, o doriadau sylweddol ym mhob sector o fewn y llywodraeth, mae angen buddsoddiad pellach ar frys i wireddu’r ymrwymiad i’r Gymraeg a gwella’r ddarpariaeth ar draws Cymru gyfan.
Beth nesaf?
I ddechrau mae angen mwy o adnoddau asesu ac adnoddau eraill i’r dosbarth, wedi’u hysgrifennu’n Gymraeg ac yn darparu’r cyd-destun Cymreig. Hanfod arall yw gweithlu dwyieithog medrus. Mae Addysg Gychwynnol Athrawon yn darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sylfaenol o ran arfer gynhwysol ac mae’r cyfnod sefydlu Athrawon Newydd Gymhwyso yn adeiladu ar hynny. Er hyn mae angen dysgu proffesiynol mwy penodol i bawb sy’n gweithio o fewn y system addysg. Mae’r llwybr ADY o fewn y rhaglen Meistr Genedlaethol ar gyfer staff addysgu mewn ysgolion ac Addysg Bellach yn cyfrannu rhywfaint at ddatblygu gwybodaeth a sgiliau ond mae angen mwy o hyfforddiant ymarferol yn ogystal â chyfleoedd a phlatfform ar gyfer rhwydweithio. Her arall i ysgolion ar hyn o bryd yw cyflogi cynorthwywyr dysgu Cymraeg eu hiaith, y rhai sy’n gweithio agosaf gyda’n dysgwyr bregus. Yn aml disgwylir iddynt gefnogi anghenion cymhleth a heriol gyda chymorth a hyfforddiant cyfyngedig, felly byddai llwybr dysgu proffesiynol dwyieithog yn eu grymuso ac o bosib yn denu mwy o ddiddordeb yn y proffesiwn. Mae angen gwell cydweithio rhwng arbenigwyr yn y maes hefyd ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau bod ein dysgwyr ag ADY yn cael y cyfleoedd gorau posib i wneud cynnydd yn eu dewis iaith.
Yn olaf, cenedl fach yw Cymru, ond mae’n unigryw gan ei bod yn darparu addysg ddwyieithog. Mae’r Cod ADY yn nodi’n glir bod ADY yn gyfrifoldeb i bawb. Felly mae angen codi llais, ac mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys er mwyn i’r weledigaeth o ddarpariaeth cyfiawn cyfrwng Cymraeg o ansawdd uchel gael ei drawsnewid yn realiti ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Porwch drwy Gwerddon Fach am lu o erthyglau tebyg i hon, neu ewch i wefan Gwerddon i ddarllen yr erthyglau ymchwil diweddaraf a’r archif o erthyglau ers 2007.