Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 heb gynnydd sylweddol yn nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau’r Senedd.

Daeth y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol i’r casgliad fod gwendidau yn y modd mae awdurdodau lleol yn cynllunio ac yn ehangu addysg Gymraeg ar hyd a lled y wlad.

Yn ôl yr adroddiad, nid yn unig does dim digon o staff i sicrhau’r twf angenrheidiol mewn ysgolion Cymraeg, ond hefyd does dim digon o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe fu gostyngiad yn nifer y plant a phobol ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg dros y deng mlynedd ddiwethaf, yn enwedig ymhlith y rhai rhwng tair a phymtheg oed.

Hyfforddiant

Un o’r prif ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwella’r sefyllfa yw drwy gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg eu hiaith drwy gynnig gwersi am ddim i’r rhai sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith.

Un agwedd allweddol gafodd sylw yn ystod ymchwiliad y pwyllgor oedd effeithiolrwydd y rhaglenni hyfforddi hyn.

Mae’r Cynllun Sabothol yn annog athrawon presennol i ddysgu neu loywi eu Cymraeg, ac mae Iaith Athrawon Yfory yn rhoi grantiau i athrawon newydd i’w hannog i weithio ym maes addysg Gymraeg.

Mae Dyfodol i’r Iaith, sy’n ymgyrchu i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, yn amcangyfrif y byddai angen i 17,000 o athrawon gofrestru ar y Cynllun Sabothol os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Er mwyn mynd i’r afael â’r prinder athrawon Cymraeg eu hiaith mewn ysgolion, mae’r pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru fuddsoddi’n sylweddol i sicrhau bod rhagor o athrawon, cymorthyddion dysgu a darlithwyr yn cofrestru ar y Cynllun Sabothol i wella’u Cymraeg.

Mae’r ymchwiliad hefyd yn awgrymu bod modd ehangu’r cynllun i gynnwys ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gweithio gyda phlant iau mewn meithrinfeydd.

Achrediad

Mae athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael eu hyfforddi i addysgu amrywiaeth eang o bynciau, ond nid o reidrwydd i addysgu mewn gwahanol sefyllfaoedd – er enghraifft, pe baen nhw’n symud o ysgol lle mae nifer fawr o blant o gefndiroedd Cymraeg i ysgol lle nad yw’r Gymraeg yn iaith naturiol.

Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan yr Athro Enlli Thomas o Brifysgol Bangor, oedd yn dadlau bod y gwahaniaeth hwn yn gofyn am hyfforddiant arbenigol i athrawon gan fod anghenion ieithyddol a diwylliannol pob ysgol ac ardal yn wahanol.

Ar sail y dystiolaeth, mae’r pwyllgor wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu agwedd sy’n rhoi mwy o sylw i’r gwahaniaethau hyn mewn addysg Gymraeg, ac ystyried creu system achredu ar gyfer athrawon sy’n addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

‘Nawr yw’r amser i gyflwyno newidiadau’

“Mae’r Gymraeg yn iaith sy’n perthyn i bob un ohonom yng Nghymru, a dylai fod yn destun pryder mawr i ni nad yw nifer y siaradwyr yn cynyddu,” meddai Delyth Jewell, cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol.

“Mae’r pwyllgor hwn yn cefnogi’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ond mae’r uchelgais hwnnw mewn perygl difrifol os bydd pethau’n parhau fel y maent.

“Mae’n amlwg bod cael digon o athrawon sy’n gallu siarad Cymraeg yn hanfodol os ydym am fynd i’r afael â’r mater hwn ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos gwir uchelgais dros y blynyddoedd nesaf.

“Dylid annog mwy o athrawon i ddysgu Cymraeg, a dylai’r rhai sy’n gweithio ym maes addysg blynyddoedd cynnar allu manteisio ar yr un cyfleoedd hefyd.

“Dylem hefyd gydnabod fod map ieithyddol Cymru yn eithaf amrywiol, ac efallai na fydd un dull penodol yn gweithio bob amser.

“Hoffem i Lywodraeth Cymru ystyried system hyfforddi ac achredu ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg fel bod pob plentyn yn cael y cyfle gorau i ddysgu ein hiaith.

“Mae Cymru wedi cyrraedd trobwynt a nawr yw’r amser i gyflwyno newidiadau.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn ein hargymhellion a’u rhoi ar waith cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”

‘Gwendid sylfaenol’

“Gydag ansicrwydd tros y gallu i gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y gwendid sylfaenol wrth gyrraedd y nod yma,” meddai Sam Kurtz ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.

“Dydy recriwtio athrawon, boed yn Gymraeg neu yn Saesneg, ddim ar y lefel angenrheidiol.

“Tra bod staff addysg sy’n gweithio’n galed yn gwneud eu gorau glas, mae’n hanfodol nawr fod Llywodraeth Cymru’n ymdrechu’n galetach yn eu huchelgais Cymraeg 2050, gan dalu sylw agos i argymhellion yr adroddiad.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Rydym yn cydnabod yr her o gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Rydym eisoes wedi cyhoeddi Cynllun y Gweithlu Cymraeg mewn Addysg sy’n nodi nifer o gamau uchelgeisiol y byddwn yn cymryd gyda’n partneriaid er mwyn datblygu’r gweithlu dros y deng mlynedd nesaf.

“Byddwn yn ymateb i adroddiad y pwyllgor maes o law.”