Mae 87% o bobol yng Nghymru gafodd eu holi gan y Fairness Foundation yn teimlo nad yw pobol gyfoethog yn talu digon o drethi.

79% yw’r ffigwr ymhlith pobol ledled y Deyrnas Unedig.

Gwelodd ymatebwyr ffigurau ynghylch anghydraddoldeb cyfoeth ledled y Deyrnas Unedig, lle mae’r 20% cyfoethocaf yn berchen ar 63% o gyfoeth y genedl, tra bod yr 20% tlotaf yn berchen ar 0.6% o gyfoeth.

Mae gan ddynion 40% yn fwy o gyfoeth na menywod, ac mae pobol â chroen gwyn bedair gwaith yn fwy tebygol o fod â chyfoeth dros £500,000 nag aelwydydd Du Affricanaidd.

Mae cyfanswm cyfoeth net aelwydydd fel cyfran o incwm y genedl bron â dyblu dros y 30 mlynedd diwethaf, ond mae’r rhan fwyaf o hyn o ganlyniad i gynnydd yng ngwerth cyfoeth yn hytrach na gwaith adeiladol sydd wedi bod o fudd i’r economi ehangach.

Mae oddeutu 83% o bobol wnaeth ymateb yng Nghymru, a 75% ledled y Deyrnas Unedig, yn poeni bod gan y rhai sydd â chyfoeth dros £10m ormod o ddylanwad ar y system wleidyddol.

Mae 71% o bobol yng Nghymru’n credu y dylai’r llywodraeth fod yn gwneud mwy i drethu unigolion sy’n werth y symiau mwyaf o arian (£10m neu fwy), o gymharu â 68 ledled y Deyrnas Unedig.

Mae 73% o bobol yng Nghymru, a 69% ledled y Deyrnas Unedig, yn poeni bod rhai pobol yn y Deyrnas Unedig yn gyfoethog iawn tra bod eraill yn dlawd, ac mae 69% yng Nghymru a 65% ledled y Deyrnas Unedig yn poeni am ddiffyg cyfle cyfartal i gronni cyfoeth.

Mae’r rhan fwyaf o bobol hefyd yn credu nad yw’r cyfleoedd i ennill arian yn wastad drwyddi draw, a bod nifer o bobol wedi ennill eu ffortiwn drwy lwc ar y cyfan yn hytrach na gwaith caled.

Yr arolwg

Fe wnaeth y Fairness Foundation gasglu barn pobol am ffyrdd o gronni cyfoeth, gan ofyn am safbwyntiau ymatebwyr ynghylch cyfle cyfartal, gwaith caled neu lwc, tegwch, effeithiau cymdeithasol a chyfraniadau treth.

Roedd hyn wrth edrych ar saith person sydd wedi ‘ennill’ £5m mewn ffyrdd amrywiol, o etifeddu, bod yn landlordiaid, yn entrepreneuriaid, yn fuddsoddwyr, yn arbenigwyr cyllid neu’n sêr chwaraeon.

Mae gan bobol agwedd gadarnhaol at entrepreneuriaid ar y cyfan, ond safbwyntiau negyddol ynghylch arbenigwyr cyllid y ddinas a’r rhai sydd wedi etifeddu arian gan eu teuluoedd cyfoethog dros sawl cenhedlaeth.

Ond maen nhw’n bositif ar y cyfan am landlordiaid, ac yn eithaf negyddol am sêr chwaraeon.

Ar y cyfan, doedd cyfoeth y rhai fu’n ateb yr arolwg ddim wedi effeithio ar eu hatebion.

Cymdeithas a’r economi’n “annheg”

“Rydyn ni’n gwybod fod pobol yn ymegnïo tros anghyfartaledd pan fyddan nhw’n ei weld yn annheg,” meddai Will Snell, Prif Weithredwr y Fairness Foundation.

“Mae ein hymchwil newydd yn dangos bod y rhan fwyaf o bobol yn credu bod ein cymdeithas a’n heconomi’n annheg, ac mae’n cynnig ambell gliw diddorol o ran pam.

“Maen nhw’n poeni am bobol yn dod yn rhy gyfoethog drwy lwc yn hytrach na gwaith caled, am y bwlch rhwng y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd, am bobol heb gyfle teg i gaffael cyfoeth, ac am y rhai cyfoethocaf yn y gymdeithas sydd ddim yn talu eu ffordd nac yn dilyn yr un rheolau â phawb arall.

“Dylai gwleidyddion o bob plaid gymryd y pryderon hyn o ddifrif ac ystyried sut allan nhw gymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael â nhw.”

Yn ôl Gary Stevenson, economegydd anghydraddoldeb a chyn-weithiwr yn y ddinas, “dydy pobol ddim yn sylweddoli bod cyfoeth cynyddol y rhai cyfoethog yn dod ar eu traul nhw, ac mae hynny’n broblem fawr”.

“Mae rhai yn credu mai gwleidyddiaeth eiddigedd yw hi, ond yn y pen draw mae’n fater o sut mae adnoddau’n cael eu dosbarthu yn ystod adeg o dwf economaidd prin,” meddai.


Dadansoddiad: Arun Advani, Athro Cysylltiol yn Adran Economeg Prifysgol Warwick a Chymrawd Ymchwil yn yr IFS

Mae’r arolwg hwn yn cynnig trosolwg manwl llawn gwybodaeth o agweddau pobol tuag at gyfoeth uchel, gan gynnwys tynnu sylw at rai o’r cymhlethdodau yn yr agweddau hynny. I fi, mae tri phwynt wir yn sefyll allan.

Yn gyntaf, mae’n gwbl glir nad yw’r cyhoedd Prydeinig “wedi ymlacio’n fawr ynghylch y rhai cyfoethog iawn”. Mae saith ym mhob deg o Brydeinwyr yn poeni am gymdeithas lle mae gan rai gyfoeth dros £10m tra bod eraill yn byw mewn tlodi. Tra bod yna wahaniaethau gwleidyddol anochel mewn atebion i’r fath gwestiynau, maen nhw’n llai nag y byddai rhywun yn ei ddychmygu – mae gan chwech ym mhob deg o’r rhai bleidleisiodd dros y Ceidwadwyr yn 2019 y pryderon hyn, ac wyth ym mhob deg o’r rhai bleidleisiodd dros Lafur.

Ar y cyfan, mae’n ymddangos bod y pryderon hyn wedi’u gyrru gan gymysgedd o gyfle anghyfartal i gyrraedd y lefelau uchel hyn o gyfoeth a dylanwad arian mewn gwleidyddiaeth. I gwblhau’r dyfyniad gan Peter Mandelson, mae yna farn ar draws y sbectrwm gwleidyddol hefyd nad yw’r rhai cyfoethog yn talu eu siâr o drethi – ac fe ddychwelaf at y pwynt hwnnw.

Yn ail, mae agweddau tuag at bobol â chyfoeth wedi’u siapio’n gryf gan farn ynghylch a ydyn nhw’n haeddu’r cyfoeth hwnnw. Mae haeddu’n wrthrychol o anghenraid, ac mae fframio’n bwysig iawn. Mae’n ymddangos bod safbwyntiau ynghylch cyfoeth sydd wedi’i etifeddu’n amrywio dipyn yn ôl a wnaeth rhieni’r derbynydd ennill y cyfoeth eu hunain – dywedodd 49% fod ‘cronni cyfoeth yn y modd yma’n deg’ – neu wedi ei dderbyn gan eu cyndadau – dim ond 32% ddywedodd fod hyn yn deg.

Mae safbwyntiau ynghylch tegwch hefyd yn syndod weithiau. Dywedodd bron i ddwywaith yn fwy o bobol (53%) ei bod hi’n deg i landlord gronni cyfoeth na masnachwr yn y ddinas (29%). A dydy hynny ddim yn cael ei yrru gan deimladau gwrth-fancwyr: mae’r un yn wir am bêl-droedwyr (33%). Dw i’n credu bod hyn yn arbennig o ddiddorol, oherwydd mae bancwyr a phêl-droedwyr yn debygol o fod wedi adeiladu eu cyfoeth drwy gynilo’u hincwm, tra bod landlordiaid yn aml wedi elwa ar gynnydd ym mhrisiau tai sydd y tu allan i’w rheolaeth. Mae arolygon yn aml yn awgrymu mwy o gefnogaeth i enillion sydd heb eu ‘hennill’ na chyfoeth ddaw o gynilo. Fodd bynnag, yn yr achos hwn mae’n ymddangos bod adeiladu cyfoeth drwy weithio’n cael ei ystyried yn llai ‘teg’ na’i adeiladu o gyfoeth arall, neu o’i etifeddu hyd yn oed; efallai bod hyn am fod yr incwm uchel yn cael ei ystyried yn annheg.

Yn drydydd, mae safbwyntiau ynghylch trethi’n syndod o gyson. O’u gofyn yn gymharol sut ddylid trethu cyfoeth mewn perthynas â gwaith, roedd yn well gan fwyafrif bach fod cyfoeth yn cael ei drethu mwy na gwaith yn hytrach na chael ei drethu llai na gwaith. Ond roedd mwyafrif clir ym mhob achos o blaid trethu cyfoeth yr un fath â gwaith, dim mwy, dim llai.

Yn unol â’r fraint drethu bresennol o incwm o gyfoeth yn gymesur ag incwm o waith, roedd bron i saith ym mhob deg o bobol yn teimlo y dylid gwneud mwy i drethu ungiolion â’r lefelau cyfoeth uchaf. Dim ond un ym mhob ugain oedd yn teimlo y dylen nhw gael eu trethu llai. Yn yr ail grŵp, roedd eu prif bryderon ynghylch symudedd a phobol yn gadael, gan dynnu sylw at yr angen i sicrhau bod trethi’n ystyried sut y bydd pobol yn ymateb.

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer polisïau? Dw i wedi ysgrifennu o’r blaen am yr angen i drethu cyfoeth yn well mewn perthynas â gwaith. Mae’r system dreth bresennol yn codi Cyfraniadau Yswiriant Gwladol ar 12% i rywun sy’n gweithio’n llawn amser ar yr isafswm cyflog, ond ar 0% i’w landlord pan fo hwnnw neu honno’n derbyn rhent. Mae’n codi cyfradd dreth mor isel â 10% i rywun sy’n derbyn £1m ar ffurf enillion cyfalaf. Mae hyd yn oed yr uchafswm cyfradd dreth o 20% ar enillion cyfalaf dipyn yn is na’r gyfradd dreth incwm uchaf o 47% gan gynnwys Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn creu anghydraddoldeb rhwng y rhai cyfoethog a’r rhai tlawd, ac ymhlith y rhai cyfoethog: mae Rishi Sunak yn talu cyfradd dreth is na nyrs, a chyfradd dreth is na banciwr sy’n ennill £2m. Ond fyddai’r diwygiadau sy’n datrys yr union broblemau hyn – gwneud cyfraddau treth enillion cyfalaf yn gydradd â chyfraddau’r dreth incwm, ac ymestyn Cyfraniadau Yswiriant Gwladol i incwm sydd heb ei ennill – ddim yn cael fawr ddim effaith ar y rhai mwyaf cyfoethog, mewn gwirionedd.

Mae’r rheiny â chyfoeth dros £10m – 22,000 o bobol yn unig, neu oddeutu un oedolyn ym mhob 2,500 – yn ei chael hi lawer yn haws cynllunio sut i ddal gafael ar eu cyfoeth er mwyn gostwng y dreth sydd arnyn nhw. Os oes ysfa i leihau crynodiad cyfoeth ymhlith y rhai mwyaf cyfoethog, “mae cyfyngiadau ar raddau’r ailddosbarthu sy’n gallu cael ei wneud gan ddefnyddio trethi presennol ar gyfoeth, hyd yn oed ar ôl diwygiadau effeithiol” (Comisiwn Treth Gyfoeth, 2020). Treth ar gyfoeth blynyddol yw’r unig bolisi all fod yn wirioneddol effeithiol wrth godi refeniw sylweddol o’r grŵp hwn, ac mae polau diweddar yn dangos bod hyn yn parhau i gael ei gefnogi’n helaeth.

Mae casgliadau’r adroddiad presennol hwn yn awgrymu, er gwaetha’r farn gymysg o ran pwy sydd neu sydd ddim yn haeddu eu cyfoeth, fod yna ysfa amlwg i archwilio’r fath opsiynau polisi ymhlith pob grŵp demograffig, pob grŵp economaidd-gymdeithasol, pob rhanbarth yn y wlad a phob safbwynt gwleidyddol.”