Noder: Mae’r erthygl hon yn trafod pynciau allai achosi pryder

Mae myfyrwraig o Bwllheli wedi bod yn rhedeg 10k y dydd am 40 diwrnod er cof am dad i ffrind iddi fu farw llynedd.

Bydd Steffi Marie yn gorffen yr her fory (dydd Gwener, Mai 19), a hyd yn hyn mae hi wedi codi bron i £1,000 i Mesen, elusen newydd fydd yn mynd i’r afael â hunanladdiad.

Cafodd cwest i farwolaeth Barry Evans, cerddor o Chwilog oedd yn aelod o’r Moniars ac a enillodd Cân i Gymru gyda’i ferch Mirain Evans yn 2014, ei agor a’i ohirio fis Awst y llynedd.

Mae Steffi Marie, sy’n astudio gradd Meistr mewn Niwroseicoleg Glinigol ac yn fam i ddwy o ferched ifanc, wedi bod yn rhannu ei her ar y cyfryngau cymdeithasol ac wedi siarad yn agored am ei heriau â iechyd meddwl.

Ei gobaith yw y bydd yr her yn annog eraill i siarad, a chreu gofod diogel i bobol rannu eu teimladau.

“Roedden ni wedi cael dipyn o glywed am bobol yn marw o hunanladdiad yn y gymuned, ac roedd o’n rywbeth oedd bob tro’n gwneud i fi deimlo fel bod rhywbeth angen cael ei wneud,” meddai wrth golwg360.

“Yn amlwg, pan oedd o’n Barry, roedd o jyst yn gymaint o sioc i fi ond roeddwn i mor benderfynol fy mod i eisiau gwneud rhywbeth.

“Mae gen i radd mewn Seicoleg, a seicolegydd fyswn i’n licio bod, ond mae hynna rhy bell i ffwrdd.”

Ar ôl ailddechrau rhedeg ddechrau’r flwyddyn, penderfynodd y gallai redeg 10k – neu chwe milltir, sef y pellter o Bwllheli i Chwilog – bob dydd am 40 diwrnod i godi arian er cof am Barry Evans.

‘Hunanladdiad o ogwydd gwahanol’

Dod at hunanladdiad o ogwydd gwahanol yw bwriad elusen Mesen, fydd yn cael ei sefydlu’n fuan.

Un o brif orchwylion Mesen fydd rhoi’r arfau i bobol allu ymateb a helpu anwyliaid sydd wedi dweud neu awgrymu eu bod nhw’n ystyried dod â’u poen i ben.

Ynghyd â hynny, mae Sioned Erin Hughes yn gobeithio y bydd yr elusen yn cael gafael ar y wybodaeth a’r ymchwil mwyaf blaengar ac arbenigol ym maes hunanladdiad, a’i bod ar gael i bobol sy’n hunanleiddiol a’r rhai sy’n trio’u helpu.

Y gobaith yn y pendraw yw gallu rhoi arian i’r rai sydd mewn crisis llwyr fel eu bod nhw’n cael therapi preifat ar unwaith.

‘Dim byd i’w guddio’

Mae Steffi Marie wedi bod yn siarad yn agored am ei hiechyd meddwl wrth drafod yr her ar y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi synnu rywfaint efo’r ymateb cadarnhaol.

“Fedra i ddim dweud wrth bobol pa mor bwysig ydy hi i siarad heb fy mod i’n siarad fy hun,” meddai wedyn.

“Os wyt ti’n bod y mwyaf vulnerable a mwyaf agored ti’n gallu, mae pobol yn gwybod dy fod di’n bod yn onest.

“Does gen i ddim byd i’w guddio, a ddyla bod neb arall yn teimlo fel eu bod nhw’n gorfod cuddio dim byd.

“Os wyt ti’n agored efo pobol, mae pobol yn teimlo’n fwy agos ata chdi ac fel eu bod nhw’n gallu agor allan hefyd.

“Dw i wedi cael gymaint o negeseuon, gan bobol dw i ddim hyd yn oed wir yn nabod, yn dweud, ‘Diolch yn fawr am be ti’n sgrifennu, dw i’n teimlo’r un ffordd, dw i’n teimlo’n well dy fod di wedi dweud hyn’; pobol yn ymlacio, a phobol yn dweud wrtha i fy mod i ddim ar ben fy hun.

“Ddoe, fe wnes i ddweud fy mod i wedi gorfod dechrau cymryd tabledi gwrth-iselder eto, a gymaint o bobol yn dweud, ‘Dw i’n cymryd nhw, a dw i’n teimlo lot gwell fy mod i’n cymryd nhw’, neu ‘Dw i’n deall y stigma neu’n teimlo’n ddrwg fy mod i’n gorfod cymryd nhw, ond ti’n iawn, dydw i ddim yn gorfod teimlo’n ddrwg fy mod i’n cymryd nhw’.

“Mae hynna wedi bod yn rhan neis ohono fo, cael siarad efo pobol wahanol a gweld fy mod i ddim ar ben fy hun a’u bod nhw ddim ar ben eu hun hefyd.”

Her

Er bod yr her wedi dechrau mynd yn anodd yn gorfforol yn ystod yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae Steffi Marie wedi mwynhau gwthio’i hun.

“Yr ail ddiwrnod, fe wnes i godi’r ddwy ohonyn nhw’r un pryd ac fe wnes i dynnu rhywbeth yn fy nghefn. Am ryw wythnos roeddwn i’n rhedeg drwy boen cefn,” meddai.

“Am y tua 25-30 diwrnod cyntaf, mae o wedi bod yn hollol iawn yn gorfforol. Ond ar y diwrnodau olaf yma, pan dw i’n rhedeg mae fy nghoesau i’n brifo. Mae fy nghoesau i’n dweud, ‘Plîs, stopia’ a dw i wedi blino.

“Yn feddyliol, dydy iechyd meddwl fi ddim yn grêt aside i’r rhedeg. Mae o fyny a lawr. Dw i wedi bod mewn cyfnod yng nghanol hyn lle mae bywyd wedi bod reit hectic.

“Mae o’n ryfedd mewn ffordd, mae o wedi bod yn dda i’m hiechyd meddwl, ond mae’n siŵr ei fod o wedi bod ychydig bach o straen achos dw i’n gwybod bod pobol yn dilyn hefyd.”

‘Helpu un person yn hiwj’

Dydy hi ddim yn rhy hwyr i gyfrannu at her Steffi Marie, sydd wedi hen basio’i tharged o godi £500.

“Dw i wedi synnu efo faint o gefnogaeth, ac efo caredigrwydd pobol,” meddai.

“Dw i mor falch fy mod i wedi gallu gwneud hynna i Barry, ac i Mirain, Catrin, Haf a Gareth – teulu Barry. Maen nhw’n meddwl y byd i fi, ac maen nhw’n haeddu bod yna rywbeth yn cael ei wneud yn ei enw fo ac er cof amdano fo.

“Os ydyn ni’n gallu cael pobol i agor allan a theimlo’u bod nhw’n saff ac efo lle i siarad… os fedrwn ni helpu un person i beidio mynd i’r lle tywyll yna, mae hynna’n hiwj.

“Dw i’n meddwl bod yna siawns ein bod ni’n gallu gwneud hynna drwy annog pobol i siarad.

“Mae Sioned Erin yn gwneud gymaint o waith da, ac mae hi’n haeddu pob help i godi arian.”

  • Pan fo bywyd yn anodd, mae’r Samariaid ar gael ddydd a nos, bob diwrnod o’r flwyddyn. Mae modd eu ffonio’n rhad ac am ddim ar 116 123, e-bostio jo@samaritans.org neu fynd i’r wefan www.samaritans.org i ddod o hyd i’ch cangen leol.

Sefydlu elusen i fynd i’r afael â hunanladdiad o ogwydd gwahanol

Cadi Dafydd

Un o brif orchwylion elusen Mesen fydd rhoi’r arfau i bobol allu helpu anwyliaid sydd wedi dweud neu awgrymu eu bod nhw’n ystyried dod â’u poen i ben