Ychydig ddiwrnodau sydd cyn etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau (dydd Mawrth, Tachwedd 5).
Ar drothwy’r etholiad, mae Americanwyr o dras Gymreig a Chymry yn yr Unol Daleithau wedi bod yn trafod eu teimladau am yr ymgeiswyr, Donald Trump a Kamala Harris, a dyfodol y genedl.
Mae Cymry Americanaidd wedi bod yn rhannu eu barn â golwg360 am y polareiddio gwleidyddol dirdynnol a’r gwahaniaethau ideolegol sylweddol sydd bellach yn treiddio cymdeithas yr Unol Daleithiau.
‘Cwlt personoliaeth lled-ffasgaidd’
Mae’r Athro Jerry Hunter, sy’n academydd a llenor blaenllaw, yn hanu o dalaith Ohio yn wreiddiol.
Mae’n bryderus iawn am ddyfodol ei wlad enedigol, ond yn ffyddiog mai’r Democrat Kamala Harris ydy’r dewis cywir i ddod yn Arlywydd ar yr Unol Daleithiau.
“Mae’n frawychus meddwl y gallai Trump ennill,” meddai.
“Heb orddweud, credaf yn gryf mai Trump yw’r ymgeisydd arlywyddol mwyaf peryglus ers o leiaf ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
“Yn ystod cyfnod Trump, mae’r Gweriniaethwyr wedi darfod fel plaid wleidyddol ddemocrataidd ac wedi troi’n gwlt personoliaeth lled-ffasgaidd.
“Nid gorddweud yw gosodiad o’r fath; mae digon o dystiolaeth.
“Credaf fod Kamala Harris yn ymgeisydd galluog a medrus, a chredaf yr hoffwn ei gweld hi’n mynd yn arlywydd mewn amgylchiadau gwahanol, ond mae’n hollbwysig ei bod hi’n ennill er mwyn osgoi’r holl drychinebau, gormes ac anghyfiawnder a ddeuai gyda buddugoliaeth Trump.”
‘Osgoi cefnogwyr Trump fel y pla’
Mae’r Athro Jerry Hunter hefyd yn hynod feirniadol o’i gyd-Americanwyr, a’r Cymry Americanaidd hynny sydd bellach yn cefnogi Donald Trump.
“Mae’r ffaith fod ganddo gymaint o gefnogaeth yn hynod ddigalon,” meddai.
“Mae’n ofnadwy wynebu’r ffaith bod cymaint o’m cyd-Americanwyr yn hoffi dyn sy’n ennill sylw a grym trwy hybu casineb, hiliaeth, ofn a chelwyddau.
“Roedd y rhan fwyaf o gymunedau Cymraeg yr Unol Daleithiau mewn ychydig o daleithiau gogleddol – Efrog Newydd, Pennsylvania, Ohio, a Wisconsin (a sylwch: mae dwy ohonyn nhw yn swing states allweddol yn yr etholiad eleni!).
“Mae rhai o’r hen gymunedau bellach mewn ardaloedd ôl-ddiwydiannol, ac mae Trump wedi ennill llawer o gefnogaeth ymysg y cymunedau hynny.
“Fel gwleidyddiaeth boblyddol yn y Deyrnas Unedig, ac mewn gwledydd eraill, mae poblyddiaeth asgell dde Trump yn apelio fwyaf at ddynion gwyn heb addysg prifysgol.
“Ni allaf ddweud fy mod i wedi siarad ag Americanwr o dras Gymreig sydd o blaid Trump (yn rhannol gan fy mod i’n tueddu osgoi cefnogwyr Trump fel y pla!), ond rwy’ wedi clywed eraill yn dweud eu bod wedi cyfarfod â phobol o’r fath.
“Er bod peth amrywiaeth, wrth reswm, mae ymchwil wedi dangos bod dau beth yn anad dim yn diffinio craidd cefnogaeth Trump – (1) Cristnogaeth efengylaidd, a (2) hiliaeth.
“Yn anffodus, fel pobol o unryw dras Ewropeaidd arall, rhaid bod digon o Americanwyr o dras Gymreig sydd yn cydymffurfio â’r ddau gategori yma.”
‘Dirmygu polisiau economaidd y Democratiaid’
Nid pob un o Gymry America sy’n cefnogi Kamala Harris, felly.
Mae nifer o aelodau Gweriniaethol y Gyngres yn rhan o gawcws “Ffrindiau Cymru”, sy’n dathlu treftadaeth Gymreig yn America ac yn hyrwyddo perthnasau diplomyddol rhwng yr Unol Daleithiau a Chymru.
Ymhlith y rhain mae’r Cyngreswr Morgan Griffith o dalaith Virginia, lansiodd y cawcws yn 2014 yng nghwmni Carwyn Jones, oedd yn Brif Weinidog Cymru ar y pryd.
Roedd Morgan Griffith yn un o’r rheiny wrthododd ardystio canlyniadau’r etholiad yn 2020, gan fynnu mai Donald Trump oedd wir yn fuddugol y flwyddyn honno, nid Joe Biden.
Mae’n cynrychioli ardal ym mryniau Appalachia oedd yn hanesyddol yn gartref i ddiwydiant glo ffyniannus ddenodd nifer o ymfudwyr o Gymru i wladychu yno.
Bellach, mae’r ardal yn un o gadarnleoedd ôl-ddiwydiannol y cyn-arlywydd Trump.
“Mae disgynyddion y mewnfudwyr hynny o Gymru’n bleidiol iawn tuag at yr Arlywydd Trump, yn bennaf oherwydd eu dirmyg tuag at bolisiau economaidd y Blaid Ddemocrataidd,” meddai Morgan Griffith wrth golwg360.
“Mae’r Arlwydd Obama, yr Ymgeisydd Clinton, yr Arlywydd Biden a’r Ymgeisydd Harris wedi diystyru economïau ardaloedd sy’n cynhyrchu glo yn Appalachia mewn modd hynod ddi-drugaredd.”
Mae’n mynnu hefyd fod “yr Arlywydd Trump wedi gweithio’n galed i helpu’r ardaloedd hyn”, gyda’i bolisïau ‘America’n gyntaf’ o ran masnach ac allforion.
Hanes blaengar Cymry America
Yn ôl yr Athro Jerry Hunter, traddodiad gwleidyddol blaengar oedd gan y Cymry Americanaidd yn hanesyddol, yn groes i syniadaeth dra-cheidwadol bresennol y Blaid Weriniaethol.
Roedd hynny’n arbennig o wir ymhlith y cymunedau hynny oedd yn siarad Cymraeg yn America.
Dim ond wrth i’w gwreiddiau Cymreig ddiflannu y daeth y Cymry Americanaidd hynny i gefnogi Trump a’i debyg.
“Erbyn tua 1856, roedd y rhan fwyaf o Americanwyr Cymraeg eu hiaith (yn ôl y dystiolaeth sydd wedi goroesi) yn cefnogi’r Gweriniaethwyr – plaid oedd yn wahanol iawn i’r Gweriniaethwyr heddiw, cofiwch.
“Y prif beth ddaeth ag Americanwyr Cymraeg i gorlan y Gweriniaethwyr yn y 1850au a’r 1860au oedd y ffaith fod y blaid honno yn erbyn ymestyn caethawsiaeth – y drefn anfoesol oedd yn ganolog i economi a chymdeithas cymaint o daleithiau deheuol.
“Yn fwy na hynny, mae tystiolaeth gadarn yn awgrymu bod llawer iawn o’r Americanwyr Cymraeg hyn ar begwn radicalaidd y mudiad gwrth-gaethiwol.
“Wedyn, pan gollwyd yr iaith Gymraeg a’r diwylliant cysylltiedig – ac yn enwedig y wleidyddiaeth radicalaidd a gysylltid â rhai o’r capeli Cymraeg – diflannodd y wedd honno ar hunaniaeth a gwleidyddiaeth pobol oedd bellach yn Americanwyr Saesneg eu hiaith o dras Gymreig – ac yn gynyddol, gydag ychydig iawn o ddealltwriaeth ynglŷn â diwylliant a hanes Cymru.
“Ond, ar y llaw arall, rwy’ wedi cwrdd ag Americanwyr o dras Gymreig sy’n ymwybodol o hanes eu cymunedau Cymreig Americanaidd ac yn falch i ddweud eu bod nhw’n arddel safbwynt gwleidyddol sy’n gyfan gwbl wahanol i Trump.”